Eseia 40:26-31
Eseia 40:26-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Codwch eich llygaid i fyny; edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn? Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul un ac yn rhoi enw i bob un ohonynt? Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf, nid oes yr un ar ôl. Pam y dywedi, O Jacob, ac y lleferi, O Israel, “Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD, ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw”? Oni wyddost, oni chlywaist? Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD a greodd gyrrau'r ddaear; ni ddiffygia ac ni flina, ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy. Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol, ac yn ychwanegu cryfder i'r di-rym. Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino, a'r cryfion yn syrthio'n llipa; ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD yn adennill eu nerth; y maent yn magu adenydd fel eryr, yn rhedeg heb flino, ac yn rhodio heb ddiffygio.
Eseia 40:26-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Edrychwch i fyny ar y sêr! Pwy wnaeth eu creu nhw? Pwy sy’n eu galw nhw allan bob yn un? Pwy sy’n galw pob un wrth ei enw? Mae e mor gryf ac mor anhygoel o nerthol – does dim un ohonyn nhw ar goll. Jacob, pam wyt ti’n dweud, “Dydy’r ARGLWYDD ddim yn gweld beth sy’n digwydd i mi”? Israel, pam wyt ti’n honni, “Dydy Duw yn cymryd dim sylw o’m hachos i”? Wyt ti ddim yn gwybod? Wyt ti ddim wedi clywed? Yr ARGLWYDD ydy’r Duw tragwyddol! Fe sydd wedi creu’r ddaear gyfan. Dydy ei nerth e ddim yn pallu; Dydy e byth yn blino. Mae e’n rhy ddoeth i unrhyw un ei ddeall! Fe sy’n gwneud y gwan yn gryf, ac yn rhoi egni i’r blinedig. Mae pobl ifanc yn pallu ac yn blino, a’r rhai mwya ffit yn baglu ac yn syrthio; ond bydd y rhai sy’n pwyso ar yr ARGLWYDD yn cael nerth newydd. Byddan nhw’n hedfan i fyny fel eryrod, yn rhedeg heb flino a cherdded ymlaen heb stopio.
Eseia 40:26-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Dyrchefwch eich llygaid i fyny, ac edrychwch pwy a greodd y rhai hyn, a ddwg eu llu hwynt allan mewn rhifedi: efe a’u geilw hwynt oll wrth eu henwau; gan amlder ei rym ef, a’i gadarn allu, ni phalla un. Paham y dywedi, Jacob, ac y lleferi, Israel, Cuddiwyd fy ffordd oddi wrth yr ARGLWYDD, a’m barn a aeth heibio i’m DUW? Oni wyddost, oni chlywaist, na ddiffygia ac na flina DUW tragwyddoldeb, yr ARGLWYDD, Creawdwr cyrrau y ddaear? ni ellir chwilio allan ei synnwyr ef. Yr hwn a rydd nerth i’r diffygiol, ac a amlha gryfder i’r di-rym. Canys yr ieuenctid a ddiffygia ac a flina, a’r gwŷr ieuainc gan syrthio a syrthiant: Eithr y rhai a obeithiant yn yr ARGLWYDD a adnewyddant eu nerth; ehedant fel eryrod; rhedant, ac ni flinant; rhodiant, ac ni ddiffygiant.