Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 40

40
Neges o Gysur
1Cysurwch, cysurwch fy mhobl—
dyna a ddywed eich Duw.
2Siaradwch yn dyner wrth Jerwsalem,
a dywedwch wrthi
ei bod wedi cwblhau ei thymor gwasanaeth
a bod ei chosb wedi ei thalu,
ei bod wedi derbyn yn ddwbl oddi ar law'r ARGLWYDD
am ei holl bechodau.
3Llais un yn galw,
“Paratowch yn yr anialwch ffordd yr ARGLWYDD,
unionwch yn y diffeithwch briffordd i'n Duw ni.
4Caiff pob pant ei godi,
pob mynydd a bryn ei ostwng;
gwneir y tir ysgythrog yn llyfn,
a'r tir anwastad yn wastadedd.
5Datguddir gogoniant yr ARGLWYDD,
a phawb ynghyd yn ei weld.
Genau'r ARGLWYDD a lefarodd.”
6Llais un yn dweud, “Galw”;
a daw'r ateb, “Beth a alwaf?
Y mae pob un meidrol fel glaswellt,
a'i holl nerth fel blodeuyn y maes.
7Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo
pan chwyth anadl yr ARGLWYDD arno.
Yn wir, glaswellt yw'r bobl.
8Y mae'r glaswellt yn crino, a'r blodeuyn yn gwywo;
ond y mae gair ein Duw ni yn sefyll hyd byth.”
9Dring i fynydd uchel;
ti, Seion, sy'n cyhoeddi newyddion da,
cod dy lais yn gryf;
ti, Jerwsalem, sy'n cyhoeddi newyddion da,
gwaedda, paid ag ofni.
Dywed wrth ddinasoedd Jwda,
“Dyma eich Duw chwi.”
10Wele'r Arglwydd DDUW
yn dod mewn nerth,
yn rheoli â'i fraich.
Wele, y mae ei wobr ganddo,
a'i dâl gydag ef.
11Y mae'n porthi ei braidd fel bugail,
ac â'i fraich yn eu casglu ynghyd;
y mae'n cludo'r ŵyn yn ei gôl,
ac yn coleddu'r mamogiaid.
12Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law,
a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant?
Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol,
a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol,
a'r bryniau mewn clorian?
13Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD,
a bod yn gynghorwr i'w ddysgu?
14Â phwy yr ymgynghora ef i ennill deall,
a phwy a ddysg iddo lwybrau barn?
Pwy a ddysg iddo wybodaeth,
a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?
15Y mae'r cenhedloedd fel defnyn allan o gelwrn,
i'w hystyried fel mân lwch y cloriannau;
y mae'r ynysoedd mor ddibwys â'r llwch ar y llawr.
16Nid oes yn Lebanon ddigon o goed i roi tanwydd,
na digon o anifeiliaid ar gyfer poethoffrwm.
17Nid yw'r holl genhedloedd yn ddim ger ei fron ef;
y maent yn llai na dim, ac i'w hystyried yn ddiddim.
18I bwy, ynteu, y cyffelybwch Dduw?
Pa lun a dynnwch ohono?
19Ai delw? Crefftwr sy'n llunio honno,
ac eurych yn ei goreuro
ac yn gwneud cadwyni arian iddi.
20Y mae un sy'n rhy dlawd i wneud hynny
yn dewis darn o bren na phydra,
ac yn ceisio crefftwr cywrain
i'w osod i fyny'n ddelw na ellir ei syflyd.
21Oni wyddoch? Oni chlywsoch?
Oni fynegwyd i chwi o'r dechreuad?
Onid ydych wedi amgyffred er sylfaenu'r ddaear?
22Y mae ef yn eistedd ar gromen y ddaear,
a'i thrigolion yn ymddangos fel locustiaid.
Y mae'n taenu'r nefoedd fel llen,
ac yn ei lledu fel pabell i drigo ynddi.
23Y mae'n gwneud y mawrion yn ddiddim,
a rheolwyr y ddaear yn dryblith.
24Prin eu bod wedi eu plannu na'u hau,
prin bod eu gwraidd wedi cydio yn y pridd,
nag y bydd ef yn chwythu arnynt, a hwythau'n gwywo,
a chorwynt yn eu dwyn ymaith fel us.
25“I bwy, ynteu, y cyffelybwch fi?
Tebyg i bwy?” meddai'r Sanct.
26Codwch eich llygaid i fyny;
edrychwch, pwy a fu'n creu'r pethau hyn?
Pwy a fu'n galw allan eu llu fesul un
ac yn rhoi enw i bob un ohonynt?
Gan faint ei nerth, a'i fod mor eithriadol gryf,
nid oes yr un ar ôl.
27Pam y dywedi, O Jacob,
ac y lleferi, O Israel,
“Cuddiwyd fy nghyflwr oddi wrth yr ARGLWYDD,
ac aeth fy hawliau o olwg fy Nuw”?
28Oni wyddost, oni chlywaist?
Duw tragwyddol yw'r ARGLWYDD
a greodd gyrrau'r ddaear;
ni ddiffygia ac ni flina,
ac y mae ei ddeall yn anchwiliadwy.
29Y mae'n rhoi nerth i'r diffygiol,
ac yn ychwanegu cryfder i'r di-rym.
30Y mae'r ifainc yn diffygio ac yn blino,
a'r cryfion yn syrthio'n llipa;
31ond y mae'r rhai sy'n disgwyl wrth yr ARGLWYDD
yn adennill eu nerth;
y maent yn magu adenydd fel eryr,
yn rhedeg heb flino,
ac yn rhodio heb ddiffygio.

Dewis Presennol:

Eseia 40: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda