Eseia 40:12-14
Eseia 40:12-14 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pwy sydd wedi dal y moroedd yng nghledr ei law, a mesur yr awyr rhwng ei fysedd? Pwy sydd wedi dal pridd y ddaear mewn padell, pwyso’r mynyddoedd mewn mantol a’r bryniau gyda chlorian? Pwy sydd wedi gosod ffiniau i ysbryd yr ARGLWYDD, neu roi arweiniad iddo fel ei gynghorydd personol? Gyda pwy mae Duw’n trafod i gael gwybod beth i’w wneud? Pwy sy’n ei ddysgu i wneud y peth iawn? Pwy sy’n rhoi gwybodaeth iddo? Pwy sy’n ei helpu i ddeall?
Eseia 40:12-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pwy a fesurodd y dyfroedd yng nghledr ei law, a gosod terfyn y nefoedd â'i rychwant? Pwy a roes holl bridd y ddaear mewn mantol, a phwyso'r mynyddoedd mewn tafol, a'r bryniau mewn clorian? Pwy a gyfarwydda ysbryd yr ARGLWYDD, a bod yn gynghorwr i'w ddysgu? Â phwy yr ymgynghora ef i ennill deall, a phwy a ddysg iddo lwybrau barn? Pwy a ddysg iddo wybodaeth, a'i gyfarwyddo yn llwybrau deall?
Eseia 40:12-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pwy a fesurodd y dyfroedd yn ei ddwrn, ac a fesurodd y nefoedd â’i rychwant, ac a gymhwysodd bridd y ddaear mewn mesur, ac a bwysodd y mynyddoedd mewn pwysau, a’r bryniau mewn cloriannau? Pwy a gyfarwyddodd Ysbryd yr ARGLWYDD, ac yn ŵr o’i gyngor a’i cyfarwyddodd ef? A phwy yr ymgynghorodd efe, ie, pwy a’i cyfarwyddodd, ac a’i dysgodd yn llwybr barn, ac a ddysgodd iddo wybodaeth, ac a ddangosodd iddo ffordd dealltwriaeth?