Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 40:1-11

Eseia 40:1-11 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

“Cysurwch nhw; cysurwch fy mhobl i,” – dyna mae eich Duw yn ei ddweud. “Byddwch yn garedig wrth Jerwsalem, a dweud wrthi fod y dyddiau caled drosodd; mae hi wedi derbyn y gosb am ei drygioni. Yn wir, mae’r ARGLWYDD wedi gwneud iddi dalu’n llawn am ei holl bechodau.” Mae llais yn gweiddi’n uchel: “Cliriwch y ffordd i’r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy’r diffeithwch! Bydd pob dyffryn yn cael ei lenwi, pob mynydd a bryn yn cael ei lefelu. Bydd y tir anwastad yn cael ei wneud yn llyfn, a bydd cribau’r mynyddoedd yn dir gwastad. Bydd ysblander yr ARGLWYDD yn dod i’r golwg, a bydd y ddynoliaeth gyfan yn ei weld yr un pryd.” –mae’r ARGLWYDD wedi dweud. Mae’r llais yn dweud, “Gwaedda!” Ac un arall yn gofyn, “Gweiddi be?” “Mae pobl feidrol fel glaswellt,” meddai, “a ffyddlondeb dynol fel blodyn gwyllt; mae’r glaswellt yn crino a’r blodyn yn gwywo pan mae’r ARGLWYDD yn chwythu arnyn nhw.” Ie, glaswellt ydy’r bobl. Mae’r glaswellt yn crino, a’r blodyn yn gwywo, ond mae neges yr ARGLWYDD yn aros am byth! Seion, sy’n cyhoeddi newyddion da, dringa i ben mynydd uchel! Ie, Jerwsalem, sy’n cyhoeddi newyddion da, gwaedda’n uchel! Gwaedda! Paid bod ag ofn! Dwed wrth drefi Jwda: “Dyma’ch Duw chi!” Edrych! Mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, yn dod fel milwr cryf i deyrnasu gyda nerth. Edrych! Mae ei wobr ganddo; mae’n dod â’i roddion o’i flaen. Bydd yn bwydo’i braidd fel bugail; bydd yn codi’r ŵyn yn ei freichiau ac yn eu cario yn ei gôl, tra’n arwain y defaid sy’n eu magu.