Eseia 39:6-7
Eseia 39:6-7 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
‘Edrych! Mae’r amser yn dod pan fydd popeth sydd yn dy balas di, popeth gasglodd dy ragflaenwyr di hyd heddiw, yn cael ei gario i ffwrdd i Babilon. Fydd dim byd ar ôl!’ meddai’r ARGLWYDD. Bydd rhai o dy deulu di, ie, dy ddisgynyddion di dy hun, yn cael eu cymryd i ffwrdd ac yn gwasanaethu fel swyddogion ym mhalas brenin Babilon.”
Eseia 39:6-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
‘Wele'r dyddiau'n dyfod pan ddygir pob peth sydd yn dy dŷ di, a phob peth a grynhôdd dy ragflaenwyr hyd y dydd hwn, i Fabilon, ac ni adewir dim,’ medd yr ARGLWYDD. ‘Dygir oddi arnat rai o'r meibion a genhedli, a byddant yn weision ystafell yn llys brenin Babilon.’ ”
Eseia 39:6-7 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr ARGLWYDD. Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw ohonot, sef y rhai a genhedli, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon.