Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 39

39
1Yn yr amser hwnnw Merodach-baladan, mab Baladan, brenin Babilon, a anfonodd lythyrau ac anrheg at Heseceia: canys efe a glywsai ei fod ef yn glaf, a’i fyned yn iach. 2A Heseceia a lawenychodd o’u herwydd hwynt, ac a ddangosodd iddynt dŷ ei drysorau, yr arian, a’r aur, a’r llysieuau, a’r olew gwerthfawr, a holl dŷ ei arfau, a’r hyn oll a gafwyd yn ei drysorau ef: nid oedd dim yn ei dŷ ef, nac yn ei holl gyfoeth ef, a’r nas dangosodd Heseceia iddynt.
3Yna y daeth Eseia y proffwyd at y brenin Heseceia, ac a ddywedodd wrtho, Beth a ddywedodd y gwŷr hyn? ac o ba le y daethant atat? A dywedodd Heseceia, O wlad bell y daethant ataf fi, sef o Babilon. 4Yntau a ddywedodd, Beth a welsant hwy yn dy dŷ di? A dywedodd Heseceia, Yr hyn oll oedd yn fy nhŷ i a welsant: nid oes dim yn fy nhrysorau a’r nas dangosais iddynt. 5Yna Eseia a ddywedodd wrth Heseceia, Gwrando air Arglwydd y lluoedd. 6Wele y dyddiau yn dyfod, pan ddygir i Babilon yr hyn oll sydd yn dy dŷ di, a’r hyn a gynilodd dy dadau di hyd y dydd hwn: ni adewir dim, medd yr Arglwydd. 7Cymerant hefyd o’th feibion di, y rhai a ddaw ohonot, sef y rhai a genhedli, fel y byddont ystafellyddion yn llys brenin Babilon. 8Yna y dywedodd Heseceia wrth Eseia, Da yw gair yr Arglwydd, yr hwn a leferaist. Dywedodd hefyd, Canys bydd heddwch a gwirionedd yn fy nyddiau i.

Dewis Presennol:

Eseia 39: BWM

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda