Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 34:1-17

Eseia 34:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Nesewch i wrando, chwi genhedloedd; clywch, chwi bobloedd. Gwrandawed y ddaear a'i llawnder, y byd a'i holl gynnyrch. Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl, a'i lid ar eu holl luoedd; difroda hwy a'u rhoi i'w lladd. Bwrir allan eu lladdedigion, cyfyd drewdod o'u celanedd, a throchir y mynyddoedd â'u gwaed. Malurir holl lu'r nefoedd, plygir yr wybren fel sgrôl, a chwymp ei holl lu, fel cwympo dail oddi ar winwydden a ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren. Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef; wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn. Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyf wedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster, ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod. Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom. Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy, a bustych gyda theirw; mwydir eu tir gan waed, a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster. Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial, a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth. Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan; bydd ei gwlad yn byg yn llosgi; nis diffoddir na nos na dydd, a bydd ei mwg yn esgyn am byth. O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith, ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto. Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn, a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno; bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn, a phlymen tryblith dros ei dewrion. Fe'i gelwir yn lle heb deyrn, a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim. Bydd drain yn tyfu yn ei phalasau, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd; bydd yn drigfan i fleiddiaid, yn gyrchfan i estrys. Bydd yr anifeiliaid gwyllt a'r siacal yn cydgrynhoi, a'r bwchgafr yn galw ar ei gymar; yno hefyd y clwyda'r frân nos ac y daw o hyd i'w gorffwysfa. Yno y nytha'r dylluan, a dodwy ei hwyau a'u deor, a chasglu ei chywion dan ei hadain; yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu, pob un gyda'i gymar. Chwiliwch yn llyfr yr ARGLWYDD, darllenwch ef; ni chollir dim un o'r rhain, ni fydd un ohonynt heb ei gymar; canys genau'r ARGLWYDD a orchmynnodd, a'i ysbryd ef a'u casglodd ynghyd. Ef hefyd a drefnodd eu cyfran, a'i law a rannodd iddynt â llinyn mesur; cânt ei meddiannu hyd byth, a phreswylio ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.

Eseia 34:1-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Dewch yma, chi wledydd, i wrando! Gwrandwch ar hyn, chi bobloedd y byd! Boed i’r ddaear a phawb arni wrando – y byd, a phopeth sydd ynddo. Mae’r ARGLWYDD wedi digio gyda’r gwledydd; mae’n wyllt gyda’u holl fyddinoedd, a bydd yn eu dinistrio a’u lladd nhw. Bydd y rhai gaiff eu lladd yn cael eu taflu allan – bydd y drewdod yn ofnadwy a bydd y mynyddoedd wedi’u trochi â’u gwaed. Bydd y sêr i gyd yn diffodd, a’r awyr yn cael ei rholio fel sgrôl. Bydd y sêr i gyd yn syrthio fel dail yn disgyn o’r winwydden, neu ffrwyth aeddfed oddi ar goeden ffigys. “Bydd fy nghleddyf i’w weld yn yr awyr, ac edrychwch, bydd yn syrthio ar Edom, ar y bobl dw i wedi’u dedfrydu i’w difrodi.” Mae’r ARGLWYDD am drochi ei gleddyf mewn gwaed, a’i fodloni gyda braster anifeiliaid – gwaed ŵyn a bychod geifr, a’r braster ar arennau hyrddod. Ydy, mae’r ARGLWYDD yn cynnal aberth yn Bosra, a lladdfa yn Edom. Bydd ychen gwyllt yn syrthio gyda nhw, bustych a theirw. Bydd eu tir wedi socian mewn gwaed, a’r llawr wedi’i orchuddio gan fraster. Mae gan yr ARGLWYDD ddydd i ddial – mae’n bryd i dalu’r pwyth yn ôl ar ran Seion. Bydd afonydd o byg yn gorlifo yn Edom, a bydd ei phridd yn troi’n lafa. Bydd ei thir yn troi’n byg sy’n llosgi, a fydd y tân ddim yn diffodd ddydd na nos; bydd mwg yn codi ohono am byth. Bydd yn gorwedd yn adfeilion am genedlaethau; fydd neb yn cerdded y ffordd honno byth bythoedd. Bydd tylluanod a draenogod yn ei meddiannu; y dylluan wen a’r gigfran fydd yn nythu yno. Bydd Duw yn ei mesur i achosi anhrefn ac yn ei phwyso i’w gwagio. I ble’r aeth ei huchelwyr? Does dim y fath beth â theyrnas ar ôl! Mae ei harweinwyr i gyd wedi diflannu. Bydd drain yn tyfu yn ei phlastai, danadl a mieri yn ei threfi caerog. Bydd y wlad yn gartref i siacaliaid, ac yn dir i’r estrys fyw ynddo. Bydd ysbrydion yr anialwch a bwganod yn cyfarfod yno, a’r gafr-ddemoniaid yn galw ar ei gilydd. Yno bydd creaduriaid y nos yn gorffwys ac yn nythu, a neidr wenwynig yn gorwedd ar ei hwyau, i’w deor a gofalu amdanyn nhw. Bydd adar rheibus hefyd yn casglu yno, pob un gyda’i gymar. Astudiwch a darllenwch sgroliau’r ARGLWYDD, heb adael dim allan, a heb golli llinell. Yr ARGLWYDD sydd wedi gorchymyn y cwbl, a’i ysbryd e sydd wedi’u casglu at ei gilydd. Fe sydd wedi rhoi ei siâr i bob un ac wedi rhannu’r tir rhyngddyn nhw hefo llinyn mesur. Bydd yn etifeddiaeth iddyn nhw am byth – byddan nhw’n byw yno ar hyd yr oesoedd.

Eseia 34:1-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Nesewch, genhedloedd, i glywed, a gwrandewch, bobloedd; gwrandawed y ddaear ac oll y sydd ynddi, y byd a’i holl gnwd. Canys llidiowgrwydd yr ARGLWYDD sydd ar yr holl genhedloedd, a’i soriant ar eu holl luoedd hwynt: difrododd hwynt, rhoddes hwynt i’r lladdfa. A’u lladdedigion a fwrir allan, a’u drewiant o’u celanedd a gyfyd i fyny, y mynyddoedd hefyd a doddant o’u gwaed hwynt. Holl lu y nefoedd hefyd a ddatodir, a’r nefoedd a blygir fel llyfr: a’i holl lu a syrth, fel y syrthiai deilen o’r winwydden, ac fel ffigysen yn syrthio oddi ar y pren. Canys fy nghleddyf a drochir yn y nefoedd: wele, ar Edom y disgyn i farn, ac ar y bobl a ysgymunais. Cleddyf yr ARGLWYDD a lanwyd o waed, tewychodd gan fraster, a chan waed ŵyn a bychod, gan fraster arennau hyrddod: canys mae i’r ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom. A disgyn yr unicorniaid gyda hwynt, a’r bustych gyda’r teirw; a’u tir hwynt a feddwa o’u gwaed hwynt, a’u llwch fydd dew o fraster. Canys diwrnod dial yr ARGLWYDD, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw. A’i hafonydd a droir yn byg, a’i llwch yn frwmstan, a’i daear yn byg llosgedig. Nis diffoddir nos na dydd; ei mwg a ddring byth: o genhedlaeth i genhedlaeth y diffeithir hi; ni bydd cyniweirydd trwyddi byth bythoedd. Y pelican hefyd a’r draenog a’i meddianna; y dylluan a’r gigfran a drigant ynddi; ac efe a estyn arni linyn anhrefn, a meini gwagedd. Ei phendefigion hi a alwant i’r frenhiniaeth, ond ni bydd yr un yno, a’i holl dywysogion hi fyddant ddiddim. Cyfyd hefyd yn ei phalasau ddrain, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd: a hi a fydd yn drigfa dreigiau, yn gyntedd i gywion yr estrys. Ac anifeiliaid gwylltion yr anialwch, a’r cathod, a ymgyfarfyddant: yr ellyll a eilw ar ei gyfaill; yr ŵyll a orffwys yno hefyd, ac a gaiff orffwysfa iddi. Yno y nytha y dylluan, ac y dodwa, ac y deora, ac a gasgl yn ei chysgod; y fwlturiaid a ymgasglant yno hefyd, pob un gyda’i gymar. Ceisiwch allan o lyfr yr ARGLWYDD, a darllenwch; ni phalla un o hyn, ni bydd un heb ei gymar; canys fy ngenau, efe a orchmynnodd, a’i ysbryd, efe a’u casglodd hwynt. Efe hefyd a fwriodd y coelbren iddynt, a’i law ef a’i rhannodd hi iddynt wrth linyn: meddiannant hi hyd byth, a phreswyliant ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.