Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 34:1-17

Eseia 34:1-17 BCND

Nesewch i wrando, chwi genhedloedd; clywch, chwi bobloedd. Gwrandawed y ddaear a'i llawnder, y byd a'i holl gynnyrch. Canys y mae dicter yr ARGLWYDD yn erbyn yr holl bobl, a'i lid ar eu holl luoedd; difroda hwy a'u rhoi i'w lladd. Bwrir allan eu lladdedigion, cyfyd drewdod o'u celanedd, a throchir y mynyddoedd â'u gwaed. Malurir holl lu'r nefoedd, plygir yr wybren fel sgrôl, a chwymp ei holl lu, fel cwympo dail oddi ar winwydden a ffrwyth aeddfed oddi ar ffigysbren. Canys ymddengys cleddyf yr ARGLWYDD yn y nef; wele, fe ddisgyn ar Edom, ar y bobl a ddedfryda i farn. Y mae gan yr ARGLWYDD gleddyf wedi ei drochi mewn gwaed a'i besgi ar fraster, ar waed ŵyn a bychod a braster arennau hyrddod. Y mae gan yr ARGLWYDD aberth yn Bosra, a lladdfa fawr yn nhir Edom. Daw ychen gwyllt i lawr gyda hwy, a bustych gyda theirw; mwydir eu tir gan waed, a bydd eu pridd yn doreithiog gan y braster. Canys y mae gan yr ARGLWYDD ddydd dial, a chan amddiffynnydd Seion flwyddyn talu'r pwyth. Troir afonydd Edom yn byg, a'i phridd yn frwmstan; bydd ei gwlad yn byg yn llosgi; nis diffoddir na nos na dydd, a bydd ei mwg yn esgyn am byth. O genhedlaeth i genhedlaeth bydd yn ddiffaith, ac ni fydd neb yn ei thramwyo byth eto. Fe'i meddiennir gan y pelican ac aderyn y bwn, a bydd y dylluan wen a'r gigfran yn trigo yno; bydd ef yn estyn drosti linyn anhrefn, a phlymen tryblith dros ei dewrion. Fe'i gelwir yn lle heb deyrn, a bydd ei holl dywysogion yn ddiddim. Bydd drain yn tyfu yn ei phalasau, danadl ac ysgall o fewn ei cheyrydd; bydd yn drigfan i fleiddiaid, yn gyrchfan i estrys. Bydd yr anifeiliaid gwyllt a'r siacal yn cydgrynhoi, a'r bwchgafr yn galw ar ei gymar; yno hefyd y clwyda'r frân nos ac y daw o hyd i'w gorffwysfa. Yno y nytha'r dylluan, a dodwy ei hwyau a'u deor, a chasglu ei chywion dan ei hadain; yno hefyd y bydd y barcutiaid yn ymgasglu, pob un gyda'i gymar. Chwiliwch yn llyfr yr ARGLWYDD, darllenwch ef; ni chollir dim un o'r rhain, ni fydd un ohonynt heb ei gymar; canys genau'r ARGLWYDD a orchmynnodd, a'i ysbryd ef a'u casglodd ynghyd. Ef hefyd a drefnodd eu cyfran, a'i law a rannodd iddynt â llinyn mesur; cânt ei meddiannu hyd byth, a phreswylio ynddi o genhedlaeth i genhedlaeth.