Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 33:1-24

Eseia 33:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Gwae di, anrheithiwr na chefaist dy anrheithio, ti dwyllwr na chefaist dy dwyllo; pan beidi ag anrheithio, fe'th anrheithir, pan beidi â thwyllo, fe'th dwyllir di. O ARGLWYDD, trugarha wrthym, yr ydym yn disgwyl amdanat; bydd yn nerth i ni bob bore, ac yn iachawdwriaeth i ni ar awr gyfyng. Gan sŵn terfysg fe ffy pobloedd, gan dy daranu di fe wasgerir cenhedloedd. Cesglir eich ysbail fel petai lindys yn ei gasglu; fel haid o locustiaid fe heidir o'i gylch. Dyrchafwyd yr ARGLWYDD, fe drig yn yr uchelder; fe leinw Seion â barn a chyfiawnder, ac ef fydd sicrwydd dy amserau. Doethineb a gwybodaeth fydd cyfoeth dy iachawdwriaeth, ac ofn yr ARGLWYDD fydd dy drysor. Clyw! Y mae'r glewion yn galw o'r tu allan, a chenhadau heddwch yn wylo'n chwerw. Y mae'r priffyrdd yn ddiffaith, heb neb yn troedio'r ffordd; diddymwyd cyfamodau, diystyrwyd cytundebau, nid yw neb yn cyfrif dim. Y mae'r wlad mewn galar a gofid, Lebanon wedi drysu a gwywo; aeth Saron yn anialwch, a Basan a Charmel heb ddail. “Ond yn awr mi godaf,” medd yr ARGLWYDD, “yn awr mi ymddyrchafaf, yn awr byddaf yn uchel. Yr ydych yn feichiog o us ac yn esgor ar sofl; tân yn eich ysu fydd eich anadl; bydd y bobl fel llwch calch, fel drain wedi eu torri a'u llosgi yn y tân.” Chwi rai pell, gwrandewch beth a wneuthum, ac ystyriwch fy nerth, chwi rai agos. Mae'r pechaduriaid yn Seion yn ofni, a'r annuwiol yn crynu gan ddychryn: “Pwy ohonom a all fyw gyda thân ysol, a phwy a breswylia mewn llosgfa dragwyddol?” Y sawl sy'n rhodio'n gyfiawn ac yn dweud y gwir, sy'n gwrthod elw trawster, sy'n cau ei ddwrn rhag derbyn llwgrwobr, sy'n cau ei glustiau rhag clywed am lofruddio, sy'n cau ei lygaid rhag edrych ar anfadwaith. Y mae ef yn trigo yn yr uchelder, a'i loches yn amddiffynfeydd y creigiau, a'i fara'n dod iddo, a'i ddŵr yn sicr. Fe wêl dy lygaid frenin yn ei degwch, a gwelant dir yn ymestyn ymhell; byddi'n dwyn i gof yr ofnau: “Ble mae'r un fu'n cofnodi? Ble mae'r un fu'n pwyso? Ble mae'r un fu'n cyfri'r tyrau?” Ni chei weld pobl farbaraidd, pobl a'u hiaith yn rhy ddieithr i'w dirnad, a'u tafod yn rhy floesg i'w ddeall. Edrych ar Seion, dinas ein huchelwyliau; bydded dy lygaid yn gweld Jerwsalem, bro diddanwch, pabell na symudir; ni thynnir un o'i phegiau byth, ac ni thorrir un o'i rhaffau. Yno, yn wir, y mae gennym yr ARGLWYDD yn ei fawredd, a mangre afonydd a ffrydiau llydain; ni fydd llong rwyfau'n tramwy yno, na llong fawr yn hwylio heibio. Yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr; yr ARGLWYDD yw ein brenin, ac ef fydd yn ein gwaredu. Y mae dy raffau'n llac, heb ddal yr hwylbren yn gadarn yn ei le, ac nid yw'r hwyliau wedi eu lledu. Yna fe rennir ysbail ac anrhaith mawr, a bydd y cloff yn rheibio ysglyfaeth. Ni ddywed neb o'r preswylwyr, “Rwy'n glaf”, a maddeuir i'r trigolion eu camweddau.

Eseia 33:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwae ti’r dinistriwr sydd heb gael dy ddinistrio, ti’r bradwr sydd heb gael dy fradychu! Pan fyddi wedi gorffen dinistrio, cei di dy ddinistrio; pan fyddi wedi gorffen bradychu, cei di dy fradychu! O ARGLWYDD, bydd yn drugarog wrthon ni! Dŷn ni’n disgwyl amdanat ti. Bydd di yn nerth i ni yn y bore, ac achub ni pan dŷn ni mewn trwbwl. Pan wyt ti’n rhuo mae pobl yn ffoi! Pan wyt ti’n codi mae cenhedloedd yn gwasgaru! Mae’r cwbl maen nhw’n ei adael yn cael ei gasglu fel petai lindys neu haid o locustiaid wedi disgyn arno. Mae’r ARGLWYDD mor ardderchog! Mae’n byw yn yr uchelder! Mae’n llenwi Seion gyda chyfiawnder a thegwch. Fe sy’n rhoi sicrwydd iddi bob amser. Stôr helaeth o achubiaeth, doethineb, gwybodaeth, a pharch at yr ARGLWYDD – dyna’i drysor iddi. Gwrandwch! Mae eu harwr yn gweiddi y tu allan! Mae negeswyr heddwch yn wylo’n chwerw! Mae’r priffyrdd yn wag! Mae’r teithwyr wedi diflannu! Mae’r cytundebau wedi’u torri, a’r tystion yn cael eu dirmygu. Does dim parch at fywyd dynol. Y fath alar! Mae’r tir wedi darfod amdano! Mae Libanus yn crino a gwywo! Mae Saron fel tir anial, a Bashan a Carmel wedi colli eu dail. ARGLWYDD “Dw i’n mynd i godi nawr,” meddai’r ARGLWYDD, “dw i’n mynd i godi i fyny; cewch weld mor uchel ydw i! Dim ond us dych chi’n ei feichiogi; dim ond gwellt fydd yn cael ei eni! Mae eich ysbryd fel tân fydd yn eich dinistrio chi! Bydd eich pobl fel calch wedi’i losgi, neu ddrain wedi’u torri a’u rhoi ar dân. Chi sy’n bell i ffwrdd, gwrandwch beth dw i wedi’i wneud! A chi sy’n agos, gwelwch mor nerthol ydw i.” Mae pechaduriaid Seion wedi dychryn, Mae’r rhai annuwiol yn crynu mewn ofn. “Pwy all oroesi yn y tân dinistriol yma? Pwy all fyw gyda fflamau sydd byth yn diffodd?” Yr un sy’n gwneud beth sy’n iawn ac yn dweud y gwir, sy’n gwrthod elwa drwy dwyll, na derbyn breib, yn gwrthod gwrando ar gynllwyn i dywallt gwaed, ac yn cau ei lygaid rhag cael ei ddenu i wneud drwg. Person felly fydd yn saff rhag y cwbl, a chreigiau uchel yn gaer o’i gwmpas. Bydd bwyd yn cael ei roi i’w gynnal a bydd digonedd o ddŵr iddo. Byddi’n gweld brenin yn ei holl ysblander, a thir eang yn ymestyn i’r pellter. Byddi’n cofio am yr ofn a fu unwaith, “Ble mae’r un oedd yn cyfri’r trethi? Ble mae’r un oedd yn pwyso’r arian? Ble mae’r un oedd yn cyfri’r tyrau?” Fyddi di ddim yn gweld y bobl farbaraidd yna eto – yn siarad iaith doeddet ti ddim yn ei deall, ac yn paldaruo’n ddiystyr. Dychmyga Seion, dinas ein gwyliau crefyddol! Byddi’n gweld Jerwsalem fel lle tawel i fyw – pabell does dim rhaid ei phacio, gyda phegiau fydd neb yn eu tynnu byth eto, a rhaffau fydd byth yn torri. Bydd yr ARGLWYDD yno gyda ni yn ei fawredd! Ardal o afonydd a ffrydiau llydan yn llifo, ond heb longau sy’n cael eu rhwyfo na llongau hwylio mawr yn mynd heibio. Yr ARGLWYDD ydy’n barnwr ni, yr ARGLWYDD ydy’n llywodraethwr ni, yr ARGLWYDD ydy’n brenin ni – fe ydy’r un fydd yn ein hachub ni! Byddi’n cael dy ddarn o dir a fyddan nhw ddim yn gallu gosod eu polyn fflag na chodi eu baner yno. Bydd digonedd o ysbail i gael ei rhannu, a bydd hyd yn oed y cloff yn cael ei siâr. Fydd neb sy’n byw yno’n dweud, “Dw i’n sâl!” Bydd y bobl sy’n byw yno wedi cael maddeuant am bob bai.

Eseia 33:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Gwae di anrheithiwr, a thi heb dy anrheithio; a thi anffyddlon, er na wnaed yn anffyddlon â thi: pan ddarffo i ti anrheithio, y’th anrheithir; a phan ddarffo i ti fod yn anffyddlon, byddant anffyddlon i ti. ARGLWYDD, trugarha wrthym; wrthyt y disgwyliasom: bydd fraich iddynt bob bore, a’n hiachawdwriaeth ninnau yn amser cystudd. Wrth lais y twrf y gwibiodd y bobl; wrth ymddyrchafu ohonot y gwasgarwyd y cenhedloedd. A’ch ysbail a gynullir fel cynulliad lindys; fel gwibiad ceiliogod rhedyn y rhed efe arnynt. Dyrchafwyd yr ARGLWYDD; canys preswylio y mae yn yr uchelder: efe a lanwodd Seion o farn a chyfiawnder. A sicrwydd dy amserau, a nerth iachawdwriaeth, fydd doethineb a gwybodaeth: ofn yr ARGLWYDD yw ei drysor ef. Wele, eu rhai dewrion a waeddant oddi allan: cenhadon heddwch a wylant yn chwerw. Aeth y priffyrdd yn ddisathr, darfu cyniweirydd llwybr: diddymodd y cyfamod, diystyrodd y dinasoedd, ni wnaeth gyfrif o ddynion. Galarodd a llesgaodd y ddaear; cywilyddiodd Libanus, a thorrwyd ef; Saron a aeth megis anialwch, ysgydwyd Basan hefyd a Charmel. Cyfodaf yn awr, medd yr ARGLWYDD: ymddyrchafaf weithian; ymgodaf bellach. Chwi a ymddygwch us, ac a esgorwch ar sofl; eich anadl fel tân a’ch ysa chwi. A’r bobloedd fyddant fel llosgfa calch, fel drain wedi eu torri y llosgir hwy yn tân. Gwrandewch, belledigion, yr hyn a wneuthum; a gwybyddwch, gymdogion, fy nerth. Pechaduriaid a ofnasant yn Seion, dychryn a ddaliodd y rhagrithwyr: pwy ohonom a drig gyda’r tân ysol? pwy ohonom a breswylia gyda llosgfeydd tragwyddol? Yr hwn a rodia mewn cyfiawnder, ac a draetha uniondeb, a wrthyd elw trawster, a ysgydwo ei law rhag derbyn gwobr, a gaeo ei glust rhag clywed celanedd, ac a gaeo ei lygaid rhag edrych ar ddrygioni; Efe a breswylia yr uchelderau; cestyll y creigiau fydd ei amddiffynfa ef: ei fara a roddir iddo, ei ddwfr fydd sicr. Dy lygaid a welant y brenin yn ei degwch: gwelant y tir pell. Dy galon a fyfyria ofn; pa le y mae yr ysgrifennydd? pa le y mae y trysorwr? pa le y mae rhifwr y tyrau? Ni chei weled pobl greulon, pobl o iaith ddyfnach nag a ddeallech di, neu floesg dafod, fel na ddeallech. Gwêl Seion, dinas ein cyfarfod: dy lygaid a welant Jerwsalem, y breswylfa lonydd, y babell ni thynnir i lawr, ac ni syflir un o’i hoelion byth, ac ni thorrir un o’i rhaffau. Eithr yr ARGLWYDD ardderchog fydd yno i ni, yn fangre afonydd a ffrydiau llydain: y rhwyflong nid â trwyddo, a llong odidog nid â drosto. Canys yr ARGLWYDD yw ein barnwr, yr ARGLWYDD yw ein deddfwr, yr ARGLWYDD yw ein brenin; efe a’n ceidw. Gollyngasant dy raffau, ni chadarnhasant eu hwylbren yn iawn, ni thaenasant yr hwyl; yna y rhennir ysglyfaeth ysbail fawr, y cloffion a ysglyfaethant yr ysglyfaeth. Ac ni ddywed y preswylydd, Claf ydwyf: maddeuir anwiredd y bobl a drigant ynddi.