Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 30:8-26

Eseia 30:8-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech, a nodi hyn mewn llyfr, iddo fod mewn dyddiau a ddaw yn dystiolaeth barhaol. Pobl wrthryfelgar yw'r rhain, plant celwyddog, plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD, ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”, ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn, ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus. Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn, parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.” Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn: “Am i chwi wrthod y gair hwn ac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt, bydd y drygioni hwn yn eich golwg fel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd, ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu; bydd yn torri fel llestr crochenydd, yn chwilfriw ulw mân; ni cheir ymysg ei ddarnau gragen i godi tân oddi ar aelwyd, neu i godi dŵr o ffos.” Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: “Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud, ‘Nid felly, fe ffown ni ar feirch.’ Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi. ‘Fe farchogwn ni feirch cyflym,’ meddwch. Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym. Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un; ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadael fel lluman ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.” Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho. Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth sŵn dy gri; pan glyw di, fe'th etyb. Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld. Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, “Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi.” Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.” Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw, a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo â phorthiant blasus, wedi ei nithio â fforch a rhaw. Ar bob mynydd uchel a bryn dyrchafedig bydd afonydd a ffrydiau o ddŵr, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrth y tyrau. A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul yn seithwaith mwy, fel llewyrch saith diwrnod, ar y dydd pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briw ei bobl, ac yn iacháu'r archoll ar ôl eu taro.

Eseia 30:8-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Tyrd nawr, ysgrifenna hyn ar lechen a’i gofnodi mewn sgrôl, i fod yn dystiolaeth barhaol i’r dyfodol. Achos maen nhw’n bobl anufudd ac yn blant sy’n twyllo – plant sy’n gwrthod gwrando ar beth mae’r ARGLWYDD yn ei ddysgu. Pobl sy’n dweud wrth y rhai sy’n cael gweledigaethau, “Peidiwch â cheisio gweledigaeth,” ac wrth y proffwydi, “Peidiwch proffwydo a dweud wrthon ni beth sy’n iawn. Dwedwch bethau neis – er eu bod yn gelwydd! Trowch o’r ffordd! Ewch oddi ar y llwybr iawn! Stopiwch ein hatgoffa ni am Un Sanctaidd Israel!” Felly, dyma mae Un Sanctaidd Israel yn ei ddweud: Am eich bod wedi gwrthod y neges yma, a dewis rhoi’ch ffydd mewn gormeswr twyllodrus – bydd y bai yma fel wal uchel yn bochio, ac yn sydyn, mewn chwinciad, mae’n syrthio. Bydd yn torri’n ddarnau, fel jwg pridd yn cael ei falu’n deilchion – bydd wedi darfod. Fydd dim un darn yn ddigon o faint i godi marwor o badell dân neu wagio dŵr o bwll. Dyma mae’r Meistr, yr ARGLWYDD, Un Sanctaidd Israel, yn ei ddweud: “Os trowch yn ôl a trystio cewch eich achub; wrth aros yn llonydd a chredu y cewch fuddugoliaeth.” Ond dych chi ddim yn fodlon gwneud hynny. “Na,” meddech chi. “Gadewch i ni ddianc ar gefn meirch!” – a dyna wnewch chi. “Gadewch i ni farchogaeth yn gyflym!” – ond bydd y rhai sydd ar eich ôl yn gyflymach! Bydd un gelyn yn bygwth a mil yn dianc; pump yn bygwth a phawb yn dianc. Bydd cyn lleied ar ôl, byddan nhw fel polyn fflag ar ben bryn, neu faner ar ben mynydd. Ond mae’r ARGLWYDD wir eisiau bod yn garedig atoch chi; bydd yn siŵr o godi i faddau i chi. Achos mae’r ARGLWYDD yn Dduw cyfiawn, ac mae’r rhai sy’n disgwyl amdano yn cael bendith fawr! Wir i chi, bobl Seion – chi sy’n byw yn Jerwsalem – fyddwch chi ddim yn wylo wedyn. Bydd e’n garedig atoch chi pan fyddwch chi’n galw. Bydd e’n ateb yr eiliad mae’n eich clywed chi. Er bod y Meistr wedi rhoi helynt i chi’n fwyd, a dioddefaint yn ddŵr, fydd y Duw sy’n eich tywys ddim yn cuddio mwyach, byddwch yn ei weld yn eich arwain. Wrth wyro i’r dde neu droi i’r chwith, byddwch yn clywed llais y tu ôl i chi’n dweud: “Dyma’r ffordd; ewch y ffordd yma!” Byddwch yn ffieiddio’r delwau wedi’u gorchuddio ag arian, a’r delwau metel ag aur yn eu gorchuddio. Byddwch yn eu taflu i ffwrdd fel cadach misglwyf, ac yn dweud, “Budreddi!” Bydd e’n rhoi glaw i’r had rwyt wedi’i hau yn y pridd, a bydd y tir yn rhoi cnwd da, cyfoethog. Bydd digonedd o borfa i dy anifeiliaid bryd hynny, a bydd yr ychen a’r asynnod sy’n gweithio ar y tir yn cael eu bwydo gyda’r ebran gorau, wedi’i nithio â fforch a rhaw. Bydd nentydd a ffrydiau o ddŵr yn llifo ar bob mynydd a bryn uchel – ar ddiwrnod y lladdfa fawr pan fydd y tyrau amddiffynnol yn syrthio. Bydd y lleuad yn disgleirio fel yr haul, a bydd yr haul yn disgleirio saith gwaith cryfach nag arfer (fel golau saith diwrnod mewn un!) ar y diwrnod pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briwiau ei bobl, ac yn iacháu’r anafiadau gawson nhw pan darodd e nhw.

Eseia 30:8-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Dos yn awr, ysgrifenna hyn mewn llech ger eu bron hwynt, ac ysgrifenna mewn llyfr, fel y byddo hyd y dydd diwethaf yn oes oesoedd; Mai pobl wrthryfelgar yw y rhai hyn, plant celwyddog, plant ni fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD: Y rhai a ddywedant wrth y gweledyddion, Na welwch; ac wrth y proffwydi, Na phroffwydwch i ni bethau uniawn; traethwch i ni weniaith, proffwydwch i ni siomedigaeth: Ciliwch o’r ffordd, ciliwch o’r llwybr; perwch i Sanct Israel beidio â ni. Am hynny fel hyn y dywed Sanct Israel, Am wrthod ohonoch y gair hwn, ac ymddiried ohonoch mewn twyll a cham, a phwyso ar hynny: Am hynny y bydd yr anwiredd hyn i chwi fel rhwygiad chwyddedig mewn mur uchel ar syrthio, yr hwn y daw ei ddrylliad yn ddisymwth heb atreg. Canys efe a’i dryllia hi fel dryllio llestr crochenydd, gan guro heb arbed; fel na chaffer ymysg ei darnau gragen i gymryd tân o’r aelwyd, nac i godi dwfr o’r ffos. Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel, Trwy ddychwelyd a gorffwys y byddwch gadwedig; mewn llonyddwch a gobaith y bydd eich cadernid: ond ni fynnech. Eithr dywedasoch, Nid felly; canys ni a ffown ar feirch; am hynny y ffowch: a marchogwn ar feirch buain; am hynny y bydd buain y rhai a’ch erlidio. Mil a ffy wrth gerydd un; ac wrth gerydd pump y ffowch, hyd oni’ch gadawer megis hwylbren ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn. Ac am hynny y disgwyl yr ARGLWYDD i drugarhau wrthych, ie, am hynny yr ymddyrchaif i dosturio wrthych; canys DUW cyfiawnder yw yr ARGLWYDD. Gwyn eu byd y rhai oll a ddisgwyliant wrtho. Canys y bobl a drig yn Seion o fewn Jerwsalem: gan wylo nid wyli; gan drugarhau efe a drugarha wrthyt; wrth lef dy waedd, pan ei clywo, efe a’th ateb di. A’r Arglwydd a rydd i chwi fara ing a dwfr gorthrymder, ond ni chornelir dy athrawon mwy, eithr dy lygaid fyddant yn gweled dy athrawon: A’th glustiau a glywant air o’th ôl yn dywedyd, Dyma y ffordd, rhodiwch ynddi, pan bwysoch ar y llaw ddeau, neu pan bwysoch ar y llaw aswy. Yna yr halogwch ball dy gerfddelw arian, ac effod dy dawdd-ddelw aur; gwasgeri hwynt fel cadach misglwyf, a dywedi wrthynt, Dos ymaith. Ac efe a rydd law i’th had pan heuech dy dir, a bara cnwd y ddaear, ac efe a fydd yn dew ac yn aml; a’r dydd hwnnw y pawr dy anifeiliaid mewn porfa helaeth. Dy ychen hefyd a’th asynnod, y rhai a lafuriant y tir, a borant ebran pur, yr hwn a nithiwyd â gwyntyll ac â gogr. Bydd hefyd ar bob mynydd uchel, ac ar bob bryn dyrchafedig, afonydd a ffrydiau dyfroedd, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrthio y tyrau. A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul fydd saith mwy, megis llewyrch saith niwrnod, yn y dydd y rhwyma yr ARGLWYDD friw ei bobl, ac yr iachao archoll eu dyrnod hwynt.