Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Eseia 30:8-26

Eseia 30:8-26 BCND

Yn awr dos ac ysgrifenna ar lech, a nodi hyn mewn llyfr, iddo fod mewn dyddiau a ddaw yn dystiolaeth barhaol. Pobl wrthryfelgar yw'r rhain, plant celwyddog, plant na fynnant wrando cyfraith yr ARGLWYDD, ond sy'n dweud wrth y gweledyddion, “Peidiwch ag edrych”, ac wrth y proffwydi, “Peidiwch â phroffwydo i ni bethau uniawn, ond llefarwch weniaith a gweledigaethau hudolus. Trowch o'r ffordd, gadewch y llwybr uniawn, parwch i Sanct Israel adael llonydd i ni.” Am hynny, fe ddywed Sanct Israel fel hyn: “Am i chwi wrthod y gair hwn ac ymddiried mewn twyll a cham, a phwyso arnynt, bydd y drygioni hwn yn eich golwg fel mur uchel a hollt yn rhedeg i lawr ar ei hyd, ac yn sydyn, mewn eiliad, yn chwalu; bydd yn torri fel llestr crochenydd, yn chwilfriw ulw mân; ni cheir ymysg ei ddarnau gragen i godi tân oddi ar aelwyd, neu i godi dŵr o ffos.” Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd DDUW, Sanct Israel: “Wrth ddychwelyd a bod yn dawel y byddwch gadwedig, wrth lonyddu a bod yn hyderus y byddwch gadarn. Ni fynnwch chwi hyn, ond dweud, ‘Nid felly, fe ffown ni ar feirch.’ Felly bydd yn rhaid i chwi ffoi. ‘Fe farchogwn ni feirch cyflym,’ meddwch. Felly bydd eich erlidwyr yn gyflym. Bydd mil yn ffoi ar fygythiad un; ar fygythiad pump, fe ffowch nes eich gadael fel lluman ar ben mynydd, ac fel baner ar fryn.” Er hynny, y mae'r ARGLWYDD yn disgwyl i gael trugarhau wrthych, ac yn barod i ddangos tosturi. Canys Duw cyfiawnder yw'r ARGLWYDD; gwyn ei fyd pob un sy'n disgwyl wrtho. Chwi bobl Seion, trigolion Jerwsalem, peidiwch ag wylo mwyach. Bydd ef yn rasol wrth sŵn dy gri; pan glyw di, fe'th etyb. Er i'r Arglwydd roi iti fara adfyd a dŵr cystudd, ni chuddir dy athrawon mwyach, ond caiff dy lygaid eu gweld. Pan fyddwch am droi i'r dde neu i'r chwith, fe glywch â'ch clustiau lais o'ch ôl yn dweud, “Dyma'r ffordd, rhodiwch ynddi.” Fe ffieiddiwch eich delwau arian cerfiedig a'ch eilunod euraid. Gwrthodi hwy fel budreddi; dywedi wrthynt, “Bawiach.” Ac fe rydd ef iti law i'r had a heui yn y pridd, a bydd cynnyrch y ddaear yn rawn bras a llawn; bydd dy anifeiliaid yn pori mewn porfa eang yn y dydd hwnnw, a chaiff yr ychen a'r asynnod sy'n llafurio'r tir eu bwydo â phorthiant blasus, wedi ei nithio â fforch a rhaw. Ar bob mynydd uchel a bryn dyrchafedig bydd afonydd a ffrydiau o ddŵr, yn nydd y lladdfa fawr, pan syrth y tyrau. A bydd llewyrch y lleuad fel llewyrch yr haul, a llewyrch yr haul yn seithwaith mwy, fel llewyrch saith diwrnod, ar y dydd pan fydd yr ARGLWYDD yn rhwymo briw ei bobl, ac yn iacháu'r archoll ar ôl eu taro.