Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 9:11-28

Hebreaid 9:11-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Ond yn awr daeth Crist, archoffeiriad y pethau da sydd wedi dod. Trwy dabernacl rhagorach a pherffeithiach, nid o waith llaw (hynny yw, nid o'r greadigaeth hon), ac nid â gwaed geifr a lloi, ond â'i waed ei hun, yr aeth ef i mewn un waith am byth i'r cysegr, a sicrhau prynedigaeth dragwyddol. Oblegid os yw gwaed geifr a theirw, a lludw anner, o'i daenu ar yr halogedig, yn sancteiddio hyd at buredigaeth allanol, pa faint mwy y bydd gwaed Crist, yr hwn a'i hoffrymodd ei hun trwy'r Ysbryd tragwyddol yn ddi-nam i Dduw, yn puro ein cydwybod ni oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu'r Duw byw. Am hynny, y mae ef yn gyfryngwr cyfamod newydd, er mwyn i'r rhai sydd wedi eu galw gael derbyn yr etifeddiaeth dragwyddol a addawyd, gan fod marwolaeth wedi digwydd er sicrhau rhyddhad oddi wrth y troseddau a gyflawnwyd dan y cyfamod cyntaf. Oherwydd lle y mae ewyllys, y mae'n rhaid profi marwolaeth y sawl a'i gwnaeth; ar farwolaeth dyn y bydd ewyllys yn dod yn effeithiol; nid yw byth mewn grym tra bydd y sawl a'i gwnaeth yn fyw. Felly, ni sefydlwyd y cyfamod cyntaf, hyd yn oed, heb waed. Oblegid ar ôl i Moses gyhoeddi i'r holl bobl bob gorchymyn yn ôl y Gyfraith, cymerodd waed lloi a geifr, gyda dŵr a gwlân ysgarlad ac isop, a'i daenellu ar y llyfr ei hun ac ar yr holl bobl hefyd, gan ddweud, “Hwn yw gwaed y cyfamod a ordeiniodd Duw ar eich cyfer.” Ac yn yr un modd taenellodd waed ar y tabernacl hefyd, ac ar holl lestri'r gwasanaeth. Yn wir, â gwaed y mae pob peth bron, yn ôl y Gyfraith, yn cael ei buro, a heb dywallt gwaed nid oes maddeuant. Gan hynny, yr oedd yn rhaid i gysgodau o'r pethau nefol gael eu puro â'r pethau hyn, ond y pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na'r rhai hyn. Oherwydd nid i gysegr o waith llaw, rhyw lun o'r cysegr gwirioneddol, yr aeth Crist i mewn, ond i'r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw drosom ni. Ac nid i'w offrymu ei hun yn fynych y mae'n mynd, fel y bydd yr archoffeiriad yn mynd i mewn i'r cysegr bob blwyddyn â gwaed arall na'r eiddo ei hun; petai felly, buasai wedi gorfod dioddef yn fynych er seiliad y byd. Ond yn awr, un waith am byth, ar ddiwedd yr oesoedd, y mae ef wedi ymddangos er mwyn dileu pechod drwy ei aberthu ei hun. Ac yn gymaint ag y gosodwyd i ddynion eu bod i farw un waith, a bod barn yn dilyn hynny, felly hefyd bydd Crist, ar ôl cael ei offrymu un waith i ddwyn pechodau llawer, yn ymddangos yr ail waith, nid i ddelio â phechod, ond er iachawdwriaeth i'r rhai sydd yn disgwyl amdano.

Hebreaid 9:11-28 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Ond yna daeth y Meseia fel Archoffeiriad, a rhoi i ni’r holl bethau da dŷn ni eisoes wedi’u profi. Mae e wedi mynd drwy’r babell go iawn, sef yr un berffaith na chafodd ei gwneud gan bobl ac sydd ddim yn perthyn i’r byd hwn. Aeth i mewn un waith ac am byth i’r Lle Mwyaf Sanctaidd sydd yn y nefoedd. Aeth e ddim gyda gwaed geifr a lloi – aeth â’i waed ei hun, er mwyn i ni gael ein gollwng yn rhydd am byth. Roedd gwaed geifr a theirw yn cael ei daenellu, a lludw’r heffer yn cael ei wasgaru, er mwyn gwneud y bobl oedd yn aflan yn lân yn seremonïol. Ond mae gwaed y Meseia yn cyflawni llawer iawn mwy – mae’n glanhau’r gydwybod o’r pethau sy’n arwain i farwolaeth. Felly gallwn ni wasanaethu’r Duw byw! Mae’r Meseia wedi cyflwyno ei hun yn aberth perffaith i Dduw drwy nerth yr Ysbryd tragwyddol. Dyna pam mai fe ydy’r canolwr sy’n selio’r ymrwymiad newydd. Buodd farw i dalu’r pris i ollwng pobl yn rhydd o ganlyniadau’r pechodau gafodd eu cyflawni dan y drefn gyntaf – er mwyn i’r rhai sydd wedi’u galw dderbyn yr holl fendithion tragwyddol mae wedi’u haddo iddyn nhw. Os ydy rhywun wedi gwneud ewyllys, mae’n rhaid profi fod y person hwnnw wedi marw cyn i neb gael dim. Dydy ewyllys ddim yn cael ei gweithredu nes i’r un wnaeth yr ewyllys farw – dydy’r eiddo ddim yn cael ei rannu pan mae e’n dal yn fyw! Dyna pam roedd angen gwaed i hyd yn oed y drefn gyntaf gael ei gweithredu. Ar ôl i Moses ddweud wrth y bobl beth oedd pob un o orchmynion Cyfraith Duw, defnyddiodd frigau isop wedi’u rhwymo gyda gwlân ysgarlad i daenellu dŵr a gwaed lloi a geifr ar y sgrôl o’r Gyfraith ac ar y bobl. “Mae’r gwaed yma yn cadarnhau’r ymrwymiad mae Duw wedi’i wneud i chi ei gadw,” meddai wrthyn nhw. Wedyn taenellodd y gwaed yr un fath ar y babell ac ar bopeth oedd yn cael ei ddefnyddio yn y seremonïau. A dweud y gwir, mae Cyfraith Moses yn dweud fod bron popeth i gael ei buro drwy gael ei daenellu â gwaed, a bod maddeuant ddim yn bosib heb i waed gael ei dywallt. Roedd rhaid i’r pethau hynny i gyd gael eu puro gan waed yr aberthau. Ond dim ond copïau o’r pethau nefol ydyn nhw, ac mae angen aberthau gwell nag anifeiliaid i buro’r rheiny. Aeth y Meseia i mewn i’r nefoedd ei hun, lle mae’n ymddangos o flaen Duw ar ein rhan ni. Dim i’r cysegr wedi’i godi gan bobl aeth e – gan fod hwnnw’n ddim byd ond copi o’r un nefol go iawn. A wnaeth e ddim mynd i mewn i’r nefoedd lawer gwaith i offrymu ei hun (fel yr archoffeiriaid eraill oedd yn gorfod mynd â gwaed anifail i mewn i’r Lle Mwyaf Sanctaidd flwyddyn ar ôl blwyddyn). Petai’n rhaid iddo wneud hynny, byddai wedi gorfod marw lawer gwaith ers i’r byd gael ei greu! Na! daeth y Meseia un waith ac am byth, yn agos at ddiwedd yr oesoedd, i ddelio gyda phechod drwy ei aberthu ei hun. Yn union fel mae pawb yn mynd i farw un waith, a wynebu barn ar ôl hynny, buodd y Meseia farw un waith yn aberth, a chario pechodau llawer iawn o bobl iddyn nhw gael eu maddau. A bydd yn dod yn ôl yr ail waith, dim i ddelio gyda phechod y tro hwn, ond i achub pawb sy’n disgwyl yn frwd amdano.

Hebreaid 9:11-28 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Eithr Crist, wedi dyfod yn Archoffeiriad y daionus bethau a fyddent, trwy dabernacl mwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, hynny yw, nid o’r adeiladaeth yma; Nid chwaith trwy waed geifr a lloi, eithr trwy ei waed ei hun, a aeth unwaith i mewn i’r cysegr, gan gael i ni dragwyddol ryddhad. Oblegid os ydyw gwaed teirw a geifr, a lludw anner wedi ei daenellu ar y rhai a halogwyd, yn sancteiddio i bureiddiad y cnawd; Pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn trwy’r Ysbryd tragwyddol a’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddi wrth weithredoedd meirwon, i wasanaethu’r Duw byw? Ac am hynny y mae efe yn Gyfryngwr y cyfamod newydd, megis trwy fod marwolaeth yn ymwared oddi wrth y troseddau oedd dan y cyfamod cyntaf, y câi’r rhai a alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol. Oblegid lle byddo testament, rhaid yw digwyddo marwolaeth y testamentwr. Canys wedi marw dynion y mae testament mewn grym: oblegid nid oes eto nerth ynddo tra fyddo’r testamentwr yn fyw. O ba achos ni chysegrwyd y cyntaf heb waed. Canys wedi i Moses adrodd yr holl orchymyn yn ôl y gyfraith wrth yr holl bobl, efe a gymerodd waed lloi a geifr, gyda dwfr, a gwlân porffor, ac isop, ac a’i taenellodd ar y llyfr a’r bobl oll, Gan ddywedyd, Hwn yw gwaed y testament a orchmynnodd Duw i chwi. Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe â gwaed yr un modd. A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. Rhaid oedd gan hynny i bortreiadau’r pethau sydd yn y nefoedd gael eu puro â’r pethau hyn; a’r pethau nefol eu hunain ag aberthau gwell na’r rhai hyn. Canys nid i’r cysegr o waith llaw, portreiad y gwir gysegr, yr aeth Crist i mewn; ond i’r nef ei hun, i ymddangos yn awr gerbron Duw trosom ni: Nac fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megis y mae’r archoffeiriad yn myned i mewn i’r cysegr bob blwyddyn, â gwaed arall: (Oblegid yna rhaid fuasai iddo’n fynych ddioddef er dechreuad y byd;) eithr yr awron unwaith yn niwedd y byd yr ymddangosodd efe, i ddileu pechod trwy ei aberthu ei hun. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith, ac wedi hynny bod barn: Felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, a ymddengys yr ail waith, heb bechod, i’r rhai sydd yn ei ddisgwyl, er iachawdwriaeth.