Hebreaid 12:1-22
Hebreaid 12:1-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Oes! Mae tyrfa enfawr o’n cwmpas ni yn dweud mai trystio Duw ydy’r ffordd orau i fyw. Felly gadewch i ni gael gwared â phopeth sy’n ein dal ni’n ôl, yn arbennig y pechod sy’n denu’n sylw ni mor hawdd. Gadewch i ni fod yn benderfynol o ddal ati, a rhedeg y ras sydd o’n blaenau i’w diwedd. Rhaid i ni hoelio’n sylw ar Iesu – fe ydy’r pencampwr a’r hyfforddwr sy’n perffeithio ein ffydd ni. Er mwyn profi’r llawenydd oedd o’i flaen, dyma fe’n dal ei dir ar y groes gan wrthod ystyried y cywilydd o wneud hynny, a bellach mae’n eistedd yn y sedd anrhydedd ar yr ochr dde i orsedd Duw yn y nefoedd! Meddyliwch sut wnaeth e ddiodde’r holl wrthwynebiad gan bechaduriaid – wnewch chi wedyn ddim colli plwc a digalonni. Wedi’r cwbl dych chi ddim eto wedi gorfod colli gwaed wrth wneud safiad yn erbyn pechod! Ydych chi wedi anghofio anogaeth Duw i chi fel ei blant?: “Fy mhlentyn, paid diystyru disgyblaeth yr Arglwydd, na thorri dy galon pan fydd yn dy gywiro di, achos mae’r Arglwydd yn disgyblu’r rhai mae’n eu caru, ac yn cosbi pob un o’i blant.” Cymerwch y dioddef fel disgyblaeth. Mae Duw’n eich trin chi fel ei blant. Pwy glywodd am blentyn sydd ddim yn cael ei ddisgyblu gan ei rieni? Os dych chi ddim yn cael eich disgyblu allwch chi ddim bod yn blant go iawn iddo – mae pob plentyn wedi cael ei ddisgyblu rywbryd! Pan oedd ein rhieni’n ein disgyblu ni, roedden ni’n eu parchu nhw. Felly oni ddylen ni wrando fwy fyth ar ein Tad ysbrydol, i ni gael byw? Roedd ein rhieni’n ein disgyblu ni dros dro fel roedden nhw’n gweld orau, ond mae disgyblaeth Duw yn siŵr o wneud lles i ni bob amser, i’n gwneud ni’n debycach iddo fe’i hun. Dydy disgyblaeth byth yn bleserus ar y pryd (mae’n boenus!) – ond yn nes ymlaen dŷn ni’n gweld ei fod yn beth da. Ac mae’r rhai sydd wedi dysgu drwyddo yn dod yn bobl sy’n gwneud beth sy’n iawn ac yn profi heddwch dwfn. Felly peidiwch gollwng gafael! Safwch ar eich traed yn gadarn! Cerddwch yn syth yn eich blaenau. Wedyn bydd y rhai sy’n gloff yn cryfhau ac yn eich dilyn yn lle syrthio ar fin y ffordd. Gwnewch eich gorau glas i fyw mewn perthynas dda gyda phawb, ac i fyw bywydau glân a sanctaidd. Dim ond y rhai sy’n sanctaidd fydd yn cael gweld yr Arglwydd. Gwyliwch bod neb ohonoch chi’n colli gafael ar haelioni rhyfeddol Duw. Os dych chi’n gadael i wreiddyn chwerw dyfu yn eich plith chi, gallai hynny greu problemau ag amharu ar lawer o bobl yn yr eglwys. Gwyliwch rhag i rywun wrthgilio a throi’n annuwiol – fel Esau yn gwerthu popeth am bryd o fwyd! Collodd y cwbl oedd ganddo hawl i’w dderbyn fel y mab hynaf. Wedyn, pan oedd eisiau i’w dad ei fendithio, cafodd ei wrthod. Roedd hi’n rhy hwyr iddo newid ei feddwl, er iddo grefu a chrefu yn ei ddagrau. Yn wahanol i bobl Israel, dych chi ddim wedi dod at bethau y gallwch eu teimlo – mynydd gyda thân yn llosgi arno, tywyllwch, caddug a storm wyllt. Does dim sŵn utgorn, na llais i’ch dychryn chi, fel llais Duw pan oedd yn siarad yn Sinai. Roedd y bobl yn crefu ar i Dduw stopio siarad yn uniongyrchol â nhw. Roedd y gorchymyn yn ormod iddyn nhw ei oddef: “Os bydd hyd yn oed anifail yn cyffwrdd y mynydd rhaid ei ladd drwy daflu cerrig ato nes iddo farw.” Roedd y cwbl mor ofnadwy o ddychrynllyd nes i Moses ei hun ddweud, “Dw i’n crynu drwyddo i mewn ofn.” Na! At Fynydd Seion dych chi wedi dod – sef at ddinas y Duw byw! Dyma’r Jerwsalem nefol! Yma mae miloedd ar filoedd o angylion wedi dod at ei gilydd i addoli a dathlu.
Hebreaid 12:1-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Am hynny, gan fod cymaint torf o dystion o'n cwmpas, gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a'r pechod sy'n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o'n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd. Er mwyn y llawenydd oedd o'i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Meddyliwch amdano ef, a oddefodd y fath elyniaeth ato'i hun gan bechaduriaid, rhag i chwi flino neu ddigalonni. Hyd yma, nid ydych wedi gwrthwynebu hyd at waed yn y frwydr yn erbyn pechod, ac yr ydych wedi anghofio'r anogaeth sy'n eich annerch fel plant: “Fy mhlentyn, paid â dirmygu disgyblaeth yr Arglwydd, a phaid â digalonni pan gei dy geryddu ganddo; oherwydd y mae'r Arglwydd yn disgyblu'r sawl y mae'n ei garu, ac yn fflangellu pob un y mae'n ei arddel.” Goddefwch y cwbl er mwyn disgyblaeth; y mae Duw yn eich trin fel plant. Canys pa blentyn sydd nad yw ei dad yn ei ddisgyblu? Ac os ydych heb y ddisgyblaeth y mae pob un yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych, ac nid plant cyfreithlon. Mwy na hynny, yr oedd gennym rieni daearol i'n disgyblu, ac yr oeddem yn eu parchu hwy. Oni ddylem, yn fwy o lawer, ymddarostwng i'n Tad ysbrydol, a chael byw? Yr oedd ein rhieni yn disgyblu am gyfnod byr, fel yr oeddent hwy'n gweld yn dda; ond y mae ef yn gwneud hynny er ein lles, er mwyn inni allu cyfranogi o'i sancteiddrwydd ef. Nid yw unrhyw ddisgyblaeth, yn wir, ar y pryd yn ymddangos yn bleserus, ond yn hytrach yn boenus; ond yn nes ymlaen, y mae'n dwyn heddychol gynhaeaf cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi ganddi. Felly, cryfhewch y dwylo llesg a'r gliniau gwan, a gwnewch lwybrau union i'ch traed, rhag i'r aelod cloff gael ei ddatgymalu, ond yn hytrach gael ei wneud yn iach. Ceisiwch heddwch â phawb, a'r bywyd sanctaidd hwnnw nad oes modd i neb weld yr Arglwydd hebddo. Cymerwch ofal na chaiff neb syrthio'n ôl oddi wrth ras Duw, rhag i ryw wreiddyn chwerw dyfu i'ch blino, ac i lawer gael eu llygru ganddo. Na foed yn eich plith unrhyw un sy'n anfoesol, neu'n halogedig fel Esau, a werthodd ei freintiau fel etifedd am bryd o fwyd. Oherwydd fe wyddoch iddo ef, pan ddymunodd wedi hynny etifeddu'r fendith, gael ei wrthod, oherwydd ni chafodd gyfle i edifarhau, er iddo grefu am hynny â dagrau. Oherwydd nid ydych chwi wedi dod at ddim y gellir ei gyffwrdd, at dân sydd yn llosgi, at gaddug a thywyllwch a thymestl, at floedd utgorn, a llef yn rhoi gorchymyn nes i'r rhai a'i clywodd ymbil am i'r llefaru beidio, am na allent oddef y gorchymyn: “Os bydd anifail, hyd yn oed, yn cyffwrdd â'r mynydd, rhaid ei labyddio.” A chan mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, “Y mae arnaf arswyd a chryndod.” Ond at Fynydd Seion yr ydych chwi wedi dod, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol; ac at fyrddiynau o angylion
Hebreaid 12:1-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; Gan edrych ar Iesu, Pen-tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau. Ni wrthwynebasoch eto hyd at waed, gan ymdrech yn erbyn pechod. A chwi a ollyngasoch dros gof y cyngor, yr hwn sydd yn dywedyd wrthych megis wrth blant, Fy mab, na ddirmyga gerydd yr Arglwydd, ac nac ymollwng pan y’th argyhoedder ganddo: Canys y neb y mae’r Arglwydd yn ei garu, y mae’n ei geryddu; ac yn fflangellu pob mab a dderbynio. Os goddefwch gerydd, y mae Duw yn ymddwyn tuag atoch megis tuag at feibion: canys pa fab sydd, yr hwn nid yw ei dad yn ei geryddu? Eithr os heb gerydd yr ydych, o’r hwn y mae pawb yn gyfrannog; yna bastardiaid ydych, ac nid meibion. Heblaw hynny, ni a gawsom dadau ein cnawd i’n ceryddu, ac a’u parchasom hwy: onid mwy o lawer y byddwn ddarostyngedig i Dad yr ysbrydoedd, a byw? Canys hwynt-hwy yn wir dros ychydig ddyddiau a’n ceryddent fel y gwelent hwy yn dda; eithr hwn er llesâd i ni, fel y byddem gyfranogion o’i sancteiddrwydd ef. Eto ni welir un cerydd dros yr amser presennol yn hyfryd, eithr yn anhyfryd: ond gwedi hynny y mae yn rhoi heddychol ffrwyth cyfiawnder i’r rhai sydd wedi eu cynefino ag ef. Oherwydd paham cyfodwch i fyny’r dwylo a laesasant, a’r gliniau a ymollyngasant. A gwnewch lwybrau union i’ch traed; fel na throer y cloff allan o’r ffordd, ond yr iachaer efe yn hytrach. Dilynwch heddwch â phawb, a sancteiddrwydd, heb yr hwn ni chaiff neb weled yr Arglwydd: Gan edrych yn ddyfal na bo neb yn pallu oddi wrth ras Duw; rhag bod un gwreiddyn chwerwedd yn tyfu i fyny, ac yn peri blinder, a thrwy hwnnw llygru llawer; Na bo un puteiniwr, neu halogedig, megis Esau, yr hwn am un saig o fwyd a werthodd ei enedigaeth-fraint. Canys chwi a wyddoch ddarfod wedi hynny hefyd ei wrthod ef, pan oedd efe yn ewyllysio etifeddu’r fendith: oblegid ni chafodd efe le i edifeirwch, er iddo trwy ddagrau ei thaer geisio hi. Canys ni ddaethoch chwi at y mynydd teimladwy sydd yn llosgi gan dân, a chwmwl, a thywyllwch, a thymestl, A sain utgorn, a llef geiriau; yr hon pwy bynnag a’i clywsant, a ddeisyfasant na chwanegid yr ymadrodd wrthynt: (Oblegid ni allent hwy oddef yr hyn a orchmynasid; Ac os bwystfil a gyffyrddai â’r mynydd, efe a labyddir, neu a wenir â phicell. Ac mor ofnadwy oedd y golwg, ag y dywedodd Moses, Yr ydwyf yn ofni ac yn crynu.) Eithr chwi a ddaethoch i fynydd Seion, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol, ac at fyrddiwn o angylion