Am hynny, gan fod cymaint torf o dystion o'n cwmpas, gadewch i ninnau fwrw ymaith bob rhwystr, a'r pechod sy'n ein maglu mor rhwydd, a rhedeg yr yrfa sydd o'n blaen heb ddiffygio, gan gadw ein golwg ar Iesu, awdur a pherffeithydd ffydd. Er mwyn y llawenydd oedd o'i flaen, fe oddefodd ef y groes heb ddiffygio, gan ddiystyru gwarth, ac y mae wedi eistedd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Meddyliwch amdano ef, a oddefodd y fath elyniaeth ato'i hun gan bechaduriaid, rhag i chwi flino neu ddigalonni.
Hyd yma, nid ydych wedi gwrthwynebu hyd at waed yn y frwydr yn erbyn pechod, ac yr ydych wedi anghofio'r anogaeth sy'n eich annerch fel plant:
“Fy mhlentyn, paid â dirmygu disgyblaeth yr Arglwydd,
a phaid â digalonni pan gei dy geryddu ganddo;
oherwydd y mae'r Arglwydd yn disgyblu'r sawl y mae'n ei garu,
ac yn fflangellu pob un y mae'n ei arddel.”
Goddefwch y cwbl er mwyn disgyblaeth; y mae Duw yn eich trin fel plant. Canys pa blentyn sydd nad yw ei dad yn ei ddisgyblu? Ac os ydych heb y ddisgyblaeth y mae pob un yn gyfrannog ohoni, yna bastardiaid ydych, ac nid plant cyfreithlon. Mwy na hynny, yr oedd gennym rieni daearol i'n disgyblu, ac yr oeddem yn eu parchu hwy. Oni ddylem, yn fwy o lawer, ymddarostwng i'n Tad ysbrydol, a chael byw? Yr oedd ein rhieni yn disgyblu am gyfnod byr, fel yr oeddent hwy'n gweld yn dda; ond y mae ef yn gwneud hynny er ein lles, er mwyn inni allu cyfranogi o'i sancteiddrwydd ef. Nid yw unrhyw ddisgyblaeth, yn wir, ar y pryd yn ymddangos yn bleserus, ond yn hytrach yn boenus; ond yn nes ymlaen, y mae'n dwyn heddychol gynhaeaf cyfiawnder i'r rhai sydd wedi eu hyfforddi ganddi.
Felly, cryfhewch y dwylo llesg a'r gliniau gwan, a gwnewch lwybrau union i'ch traed, rhag i'r aelod cloff gael ei ddatgymalu, ond yn hytrach gael ei wneud yn iach.
Ceisiwch heddwch â phawb, a'r bywyd sanctaidd hwnnw nad oes modd i neb weld yr Arglwydd hebddo. Cymerwch ofal na chaiff neb syrthio'n ôl oddi wrth ras Duw, rhag i ryw wreiddyn chwerw dyfu i'ch blino, ac i lawer gael eu llygru ganddo. Na foed yn eich plith unrhyw un sy'n anfoesol, neu'n halogedig fel Esau, a werthodd ei freintiau fel etifedd am bryd o fwyd. Oherwydd fe wyddoch iddo ef, pan ddymunodd wedi hynny etifeddu'r fendith, gael ei wrthod, oherwydd ni chafodd gyfle i edifarhau, er iddo grefu am hynny â dagrau.
Oherwydd nid ydych chwi wedi dod at ddim y gellir ei gyffwrdd, at dân sydd yn llosgi, at gaddug a thywyllwch a thymestl, at floedd utgorn, a llef yn rhoi gorchymyn nes i'r rhai a'i clywodd ymbil am i'r llefaru beidio, am na allent oddef y gorchymyn: “Os bydd anifail, hyd yn oed, yn cyffwrdd â'r mynydd, rhaid ei labyddio.” A chan mor ofnadwy oedd yr olygfa, dywedodd Moses, “Y mae arnaf arswyd a chryndod.” Ond at Fynydd Seion yr ydych chwi wedi dod, ac i ddinas y Duw byw, y Jerwsalem nefol; ac at fyrddiynau o angylion