Hebreaid 10:32-36
Hebreaid 10:32-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Cofiwch y dyddiau gynt pan fu i chwi, wedi eich goleuo, sefyll yn gadarn yng ngornest fawr eich cystuddiau: weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly. Oherwydd cyd-ddioddefasoch â'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi. Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo. Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd.
Hebreaid 10:32-36 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi’ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi’n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy. Weithiau’n cael eich sarhau a’ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda’r rhai oedd yn cael eu trin felly. Roeddech chi’n dioddef gyda’r rhai oedd wedi’u taflu i’r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi’n derbyn y peth yn llawen. Wedi’r cwbl roeddech chi’n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi – pethau sydd i bara am byth! Felly peidiwch taflu’r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn! Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi’i addo i chi!
Hebreaid 10:32-36 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid.