Hebreaid 10
10
1Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy’r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio’r rhai a ddêl ati. 2Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith. 3Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn. 4Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. 5Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi: 6Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. 7Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. 8Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir; 9Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. 10Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. 11Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: 12Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; 13O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. 14Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. 15Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, 16Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; 17A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. 18A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod. 19Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, 20Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; 21A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: 22Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân. 23Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi-sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) 24A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: 25Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu. 26Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. 32Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: 33Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. 34Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. 35Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. 36Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. 37Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. 38A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. 39Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.
Dewis Presennol:
Hebreaid 10: BWM
Uwcholeuo
Rhanna
Copi
Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda
Adolygiad Parry/Davies o Feibl William Morgan © 1955 Cymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor.
The Parry/Davies revision of the William Morgan Bible © 1955 British and Foreign Bible Society.