Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 10:26-39

Hebreaid 10:26-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Os ydyn ni’n penderfynu dal ati i bechu ar ôl dod i wybod y gwirionedd, does dim aberth sy’n gallu delio gyda’n pechod ni wedyn. Allwn ni ond disgwyl yn ofnus am farn Duw a’r tân eirias fydd yn dinistrio gelynion Duw. Meddyliwch! Os oedd rhywun yn gwrthod ufuddhau i Gyfraith Moses, doedd ond angen tystiolaeth dau neu dri tyst a byddai’n cael ei roi i farwolaeth. Doedd dim trugaredd! Bydd y gosb yn llawer iawn mwy llym i’r bobl hynny sydd wedi sathru Mab Duw dan draed fel petai’n sbwriel ac wedi trin ei waed (gwaed yr ymrwymiad newydd) fel petai’n beth aflan! Maen nhw wedi sarhau Ysbryd hael Duw! Oherwydd dŷn ni’n gwybod pwy ddwedodd, “Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl,” a hefyd, “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.” Peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw! Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi’ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi’n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy. Weithiau’n cael eich sarhau a’ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda’r rhai oedd yn cael eu trin felly. Roeddech chi’n dioddef gyda’r rhai oedd wedi’u taflu i’r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi’n derbyn y peth yn llawen. Wedi’r cwbl roeddech chi’n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi – pethau sydd i bara am byth! Felly peidiwch taflu’r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn! Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi’i addo i chi! Oherwydd, “yn fuan iawn, bydd yr Un sy’n dod yn cyrraedd – fydd e ddim yn hwyr. Bydd fy un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb. Ond bydd y rhai sy’n troi cefn ddim yn fy mhlesio i.” Ond dŷn ni ddim gyda’r bobl hynny sy’n troi cefn ac yn cael eu dinistrio. Dŷn ni gyda’r rhai ffyddlon, y rhai sy’n credu ac yn cael eu hachub.

Hebreaid 10:26-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach; dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr. Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion. Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw. Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd: “Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”; ac eto: “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.” Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw. Cofiwch y dyddiau gynt pan fu i chwi, wedi eich goleuo, sefyll yn gadarn yng ngornest fawr eich cystuddiau: weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly. Oherwydd cyd-ddioddefasoch â'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi. Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo. Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Ymhen ennyd, ennyd bach, fe ddaw yr hwn sydd i ddod, a heb oedi; ond fe gaiff fy un cyfiawn i fyw trwy ffydd, ac os cilia'n ôl, ni bydd fy enaid yn ymhyfrydu ynddo.” Eithr nid pobl y cilio'n ôl i ddistryw ydym ni, ond pobl â ffydd sy'n mynd i feddiannu bywyd.

Hebreaid 10:26-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.