Hebreaid 10:24-26
Hebreaid 10:24-26 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio’n gilydd drwy’r adeg; yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan. Os ydyn ni’n penderfynu dal ati i bechu ar ôl dod i wybod y gwirionedd, does dim aberth sy’n gallu delio gyda’n pechod ni wedyn.
Hebreaid 10:24-26 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos. Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach
Hebreaid 10:24-26 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu. Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach