Hebreaid 10:19-22
Hebreaid 10:19-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Felly, gyfeillion, gan fod gennym hyder i fynd i mewn i'r cysegr drwy waed Iesu, ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef; a chan fod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw, gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân.
Hebreaid 10:19-22 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Felly, ffrindiau annwyl, gallwn bellach fynd i mewn i’r ‘Lle Mwyaf Sanctaidd’ yn y nefoedd, am fod gwaed Iesu wedi’i dywallt yn aberth. Dyma’r ffordd newydd sydd wedi’i hagor i ni drwy’r llen (am fod Iesu wedi aberthu ei gorff ei hun) – y ffordd i fywyd! Mae gynnon ni’r Meseia, yn archoffeiriad gwych gydag awdurdod dros deulu Duw. Felly gadewch i ni glosio at Dduw gyda hyder didwyll, a’i drystio fe’n llwyr. Mae’n cydwybod euog ni wedi’i glanhau drwy i’w waed gael ei daenellu arnon ni, a dŷn ni wedi’n golchi â dŵr glân.
Hebreaid 10:19-22 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân.