Hebreaid 10:11-18
Hebreaid 10:11-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod.
Hebreaid 10:11-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dan yr hen drefn mae’r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e’n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod! Ond dyma’r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna’n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Ers hynny mae wedi bod yn disgwyl i’w elynion gael eu gorfodi i blygu o’i flaen fel stôl iddo orffwys ei draed arni. Drwy aberthu ei hun un waith mae’r Meseia wedi glanhau’n berffaith y bobl mae Duw wedi’u cysegru iddo’i hun am byth. Ac mae’r Ysbryd Glân wedi sôn am hyn hefyd. Mae’n dweud fel hyn: “Dyma’r ymrwymiad fydda i’n ei wneud gyda fy mhobl bryd hynny,” meddai’r Arglwydd: “Bydd fy neddfau’n glir yn eu meddyliau ac wedi’u hysgrifennu ar eu calonnau.” Wedyn mae’n ychwanegu hyn: “Bydda i’n anghofio’u pechodau, a’r pethau wnaethon nhw o’i le, am byth.” Os ydy’r pechodau hyn wedi’u maddau, does dim angen aberth dros bechod ddim mwy!
Hebreaid 10:11-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau. Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw, yn disgwyl bellach hyd oni osodir ei elynion yn droedfainc i'w draed. Oherwydd ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a sancteiddir. Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; oherwydd wedi iddo ddweud: “Dyma'r cyfamod a wnaf â hwy ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; rhof fy nghyfreithiau yn eu calon, ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”, y mae'n ychwanegu: “A'u pechodau a'u drwgweithredoedd, ni chofiaf mohonynt byth mwy.” Yn awr, lle y ceir maddeuant am y pethau hyn, nid oes angen offrwm dros bechod mwyach.