Hebreaid 10:10-14
Hebreaid 10:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yn unol â'r ewyllys honno yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy gorff Iesu Grist sydd wedi ei offrymu un waith am byth. Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau. Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw, yn disgwyl bellach hyd oni osodir ei elynion yn droedfainc i'w draed. Oherwydd ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a sancteiddir.
Hebreaid 10:10-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio.