Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Hebreaid 10:1-39

Hebreaid 10:1-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Oherwydd cysgod sydd gan y Gyfraith o'r pethau da sy'n dod, nid gwir ddelw y dirweddau hynny; ac ni all hi o gwbl, trwy'r un aberthau sy'n cael eu hoffrymu'n barhaus, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ddwyn yr addolwyr i berffeithrwydd am byth. Petasai hynny'n bosibl, oni fuasent wedi peidio â chael eu hoffrymu, gan na fuasai mwyach ymwybyddiaeth o bechodau gan addolwyr a oedd wedi eu puro un waith am byth? Ond y mae yn yr aberthau goffâd bob blwyddyn am bechodau; oherwydd y mae'n amhosibl i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Dyna pam y mae ef, wrth ddod i'r byd, yn dweud: “Ni ddymunaist aberth ac offrwm, ond paratoaist gorff i mi. Poethoffrymau ac aberth dros bechod, nid ymhyfrydaist ynddynt. Yna dywedais, ‘Dyma fi wedi dod— y mae wedi ei ysgrifennu mewn rhol llyfr amdanaf— i wneud dy ewyllys di, O Dduw.’ ” Y mae'n dweud, i ddechrau, “Aberthau ac offrymau, a phoethoffrymau ac aberth dros bechod, ni ddymunaist mohonynt ac nid ymhyfrydaist ynddynt.” Dyma'r union bethau a offrymir yn ôl y Gyfraith. Yna dywedodd, “Dyma fi wedi dod i wneud dy ewyllys di.” Y mae'n diddymu'r peth cyntaf er mwyn sefydlu'r ail. Yn unol â'r ewyllys honno yr ydym wedi ein sancteiddio, trwy gorff Iesu Grist sydd wedi ei offrymu un waith am byth. Y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gweini, ac yn offrymu'r un aberthau dro ar ôl tro, aberthau na allant byth ddileu pechodau. Ond am hwn, wedi iddo offrymu un aberth dros bechodau am byth, eisteddodd ar ddeheulaw Duw, yn disgwyl bellach hyd oni osodir ei elynion yn droedfainc i'w draed. Oherwydd ag un offrwm y mae wedi perffeithio am byth y rhai a sancteiddir. Ac y mae'r Ysbryd Glân hefyd yn tystio wrthym; oherwydd wedi iddo ddweud: “Dyma'r cyfamod a wnaf â hwy ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; rhof fy nghyfreithiau yn eu calon, ac ysgrifennaf hwy ar eu meddwl”, y mae'n ychwanegu: “A'u pechodau a'u drwgweithredoedd, ni chofiaf mohonynt byth mwy.” Yn awr, lle y ceir maddeuant am y pethau hyn, nid oes angen offrwm dros bechod mwyach. Felly, gyfeillion, gan fod gennym hyder i fynd i mewn i'r cysegr drwy waed Iesu, ar hyd ffordd newydd a byw y mae ef wedi ei hagor inni drwy'r llen, hynny yw, trwy ei gnawd ef; a chan fod gennym offeiriad mawr ar dŷ Dduw, gadewch inni nesáu â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, a'n calonnau wedi eu taenellu'n lân oddi wrth gydwybod ddrwg, a'n cyrff wedi eu golchi â dŵr glân. Gadewch inni ddal yn ddiwyro at gyffes ein gobaith, oherwydd y mae'r hwn a roddodd yr addewid yn ffyddlon. Gadewch inni ystyried sut y gallwn ennyn yn ein gilydd gariad a gweithredoedd da, heb gefnu ar ein cydgynulliad ein hunain, yn ôl arfer rhai, ond annog ein gilydd, ac yn fwy felly yn gymaint â'ch bod yn gweld y Dydd yn dod yn agos. Oherwydd os ydym yn dal i bechu'n fwriadol ar ôl inni dderbyn gwybodaeth am y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau i'w gael mwyach; dim ond rhyw ddisgwyl brawychus am farn, ac angerdd tân a fydd yn difa'r gwrthwynebwyr. Os bydd unrhyw un wedi diystyru Cyfraith Moses, caiff ei ladd yn ddidrugaredd ar air dau neu dri o dystion. Ystyriwch gymaint llymach yw'r gosb a fernir yn haeddiant i'r hwn sydd wedi mathru Mab Duw, ac wedi cyfrif yn halogedig waed y cyfamod y cafodd ei sancteiddio drwyddo, ac wedi difenwi Ysbryd grasol Duw. Oherwydd fe wyddom pwy a ddywedodd: “Myfi piau dial, myfi a dalaf yn ôl”; ac eto: “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.” Peth dychrynllyd yw syrthio i ddwylo'r Duw byw. Cofiwch y dyddiau gynt pan fu i chwi, wedi eich goleuo, sefyll yn gadarn yng ngornest fawr eich cystuddiau: weithiau, yn eich gwaradwydd a'ch cystuddiau, yn cael eich gwneud yn sioe i'r cyhoedd, ac weithiau yn gymdeithion i'r rhai oedd yn cael eu trin felly. Oherwydd cyd-ddioddefasoch â'r carcharorion, a derbyniasoch mewn llawenydd ysbeilio'ch meddiannau, gan wybod fod meddiant rhagorach ac arhosol yn eiddo i chwi. Peidiwch felly â thaflu eich hyder i ffwrdd, gan fod gwobr fawr yn perthyn iddo. Y mae angen dyfalbarhad arnoch i gyflawni ewyllys Duw a chymryd meddiant o'r hyn a addawyd. Oherwydd, yng ngeiriau'r Ysgrythur: “Ymhen ennyd, ennyd bach, fe ddaw yr hwn sydd i ddod, a heb oedi; ond fe gaiff fy un cyfiawn i fyw trwy ffydd, ac os cilia'n ôl, ni bydd fy enaid yn ymhyfrydu ynddo.” Eithr nid pobl y cilio'n ôl i ddistryw ydym ni, ond pobl â ffydd sy'n mynd i feddiannu bywyd.

Hebreaid 10:1-39 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Rhyw awgrym o’r pethau gwych sydd i ddod sydd yn y Gyfraith Iddewig – dim y bendithion eu hunain. Dyna pam dydy’r Gyfraith ddim yn gallu glanhau’n berffaith y rhai sy’n mynd i addoli, a pham mae’r un aberthau yn gorfod cael eu cyflwyno dro ar ôl tro, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Oni fyddai’r bobl wedi stopio aberthu petai’r Gyfraith yn gallu eu glanhau nhw? Byddai’r addolwyr wedi’u glanhau un waith ac am byth, a ddim yn teimlo’n euog am eu pechodau ddim mwy! Ond na, beth roedd yr aberthau’n ei wneud oedd atgoffa’r bobl o’u pechod bob blwyddyn. Mae’n amhosib i waed teirw a geifr gael gwared â phechod. Felly pan ddaeth y Meseia i’r byd, dwedodd: “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau, ond rwyt wedi rhoi corff i mi. Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di. Felly dyma fi’n dweud, ‘O Dduw, dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau – fel mae wedi’i ysgrifennu amdana i yn y sgrôl.’” Mae’r Meseia yn dweud, “Nid aberth ac offrwm rwyt ti eisiau” a “Doedd offrymau llosg ac offrymau dros bechod ddim yn dy blesio di.” (Y Gyfraith Iddewig sy’n dweud fod rhaid gwneud hyn i gyd.) Wedyn mae’r Meseia’n dweud, “dw i wedi dod i wneud beth rwyt ti eisiau.” Felly mae’n cael gwared â’r drefn gyntaf i wneud lle i’r ail. A beth mae Duw eisiau ydy i ni gael ein glanhau o’n pechod am fod Iesu y Meseia wedi’i aberthu ei hun un waith ac am byth. Dan yr hen drefn mae’r offeiriad yn sefyll o flaen yr allor yn gwneud yr un gwaith ddydd ar ôl dydd. Mae e’n offrymu yr un aberthau drosodd a throsodd, ond allan nhw byth gael gwared â phechod! Ond dyma’r Meseia, ein hoffeiriad ni, yn offrymu ei hun yn aberth dros bechod un waith ac am byth, ac yna’n eistedd i lawr yn y sedd anrhydedd ar ochr dde Duw. Ers hynny mae wedi bod yn disgwyl i’w elynion gael eu gorfodi i blygu o’i flaen fel stôl iddo orffwys ei draed arni. Drwy aberthu ei hun un waith mae’r Meseia wedi glanhau’n berffaith y bobl mae Duw wedi’u cysegru iddo’i hun am byth. Ac mae’r Ysbryd Glân wedi sôn am hyn hefyd. Mae’n dweud fel hyn: “Dyma’r ymrwymiad fydda i’n ei wneud gyda fy mhobl bryd hynny,” meddai’r Arglwydd: “Bydd fy neddfau’n glir yn eu meddyliau ac wedi’u hysgrifennu ar eu calonnau.” Wedyn mae’n ychwanegu hyn: “Bydda i’n anghofio’u pechodau, a’r pethau wnaethon nhw o’i le, am byth.” Os ydy’r pechodau hyn wedi’u maddau, does dim angen aberth dros bechod ddim mwy! Felly, ffrindiau annwyl, gallwn bellach fynd i mewn i’r ‘Lle Mwyaf Sanctaidd’ yn y nefoedd, am fod gwaed Iesu wedi’i dywallt yn aberth. Dyma’r ffordd newydd sydd wedi’i hagor i ni drwy’r llen (am fod Iesu wedi aberthu ei gorff ei hun) – y ffordd i fywyd! Mae gynnon ni’r Meseia, yn archoffeiriad gwych gydag awdurdod dros deulu Duw. Felly gadewch i ni glosio at Dduw gyda hyder didwyll, a’i drystio fe’n llwyr. Mae’n cydwybod euog ni wedi’i glanhau drwy i’w waed gael ei daenellu arnon ni, a dŷn ni wedi’n golchi â dŵr glân. Felly gadewch i ni ddal gafael yn y gobaith dŷn ni’n ddweud sydd gynnon ni. Mae Duw yn siŵr o wneud beth mae wedi’i addo! A gadewch i ni feddwl am ffyrdd i annog ein gilydd i ddangos cariad a gwneud daioni. Mae’n bwysig ein bod yn dal ati i gyfarfod â’n gilydd. Mae rhai pobl wedi stopio gwneud hynny. Dylen ni annog a rhybuddio’n gilydd drwy’r adeg; yn arbennig am fod Iesu’n dod yn ôl i farnu yn fuan. Os ydyn ni’n penderfynu dal ati i bechu ar ôl dod i wybod y gwirionedd, does dim aberth sy’n gallu delio gyda’n pechod ni wedyn. Allwn ni ond disgwyl yn ofnus am farn Duw a’r tân eirias fydd yn dinistrio gelynion Duw. Meddyliwch! Os oedd rhywun yn gwrthod ufuddhau i Gyfraith Moses, doedd ond angen tystiolaeth dau neu dri tyst a byddai’n cael ei roi i farwolaeth. Doedd dim trugaredd! Bydd y gosb yn llawer iawn mwy llym i’r bobl hynny sydd wedi sathru Mab Duw dan draed fel petai’n sbwriel ac wedi trin ei waed (gwaed yr ymrwymiad newydd) fel petai’n beth aflan! Maen nhw wedi sarhau Ysbryd hael Duw! Oherwydd dŷn ni’n gwybod pwy ddwedodd, “Fi sy’n dial; gwna i dalu yn ôl,” a hefyd, “Bydd yr Arglwydd yn barnu ei bobl.” Peth dychrynllyd ydy cael eich dal gan y Duw byw! Felly cofiwch yr adeg pan gawsoch chi’ch goleuo am y tro cyntaf. Bryd hynny roeddech chi’n sefyll yn gadarn er eich bod wedi gorfod dioddef yn ofnadwy. Weithiau’n cael eich sarhau a’ch cam-drin yn gyhoeddus; dro arall yn sefyll gyda’r rhai oedd yn cael eu trin felly. Roeddech chi’n dioddef gyda’r rhai oedd wedi’u taflu i’r carchar. A phan oedd eich eiddo yn cael ei gymryd oddi arnoch chi roeddech chi’n derbyn y peth yn llawen. Wedi’r cwbl roeddech chi’n gwybod fod gan Dduw bethau gwell i chi – pethau sydd i bara am byth! Felly peidiwch taflu’r hyder sydd gynnoch chi i ffwrdd – mae gwobr fawr yn ei ddilyn! Rhaid i chi ddal ati, a gwneud beth mae Duw eisiau. Wedyn cewch dderbyn beth mae wedi’i addo i chi! Oherwydd, “yn fuan iawn, bydd yr Un sy’n dod yn cyrraedd – fydd e ddim yn hwyr. Bydd fy un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb. Ond bydd y rhai sy’n troi cefn ddim yn fy mhlesio i.” Ond dŷn ni ddim gyda’r bobl hynny sy’n troi cefn ac yn cael eu dinistrio. Dŷn ni gyda’r rhai ffyddlon, y rhai sy’n credu ac yn cael eu hachub.

Hebreaid 10:1-39 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

Oblegid y gyfraith, yr hon sydd ganddi gysgod daionus bethau i ddyfod, ac nid gwir ddelw y pethau, nis gall trwy’r aberthau hynny, y rhai y maent bob blwyddyn yn eu hoffrymu yn wastadol, byth berffeithio’r rhai a ddêl ati. Oblegid yna hwy a beidiasent â’u hoffrymu, am na buasai gydwybod pechod mwy gan y rhai a addolasent, wedi eu glanhau unwaith. Eithr yn yr aberthau hynny y mae atgoffa pechodau bob blwyddyn. Canys amhosibl yw i waed teirw a geifr dynnu ymaith bechodau. Oherwydd paham y mae efe, wrth ddyfod i’r byd, yn dywedyd, Aberth ac offrwm nis mynnaist, eithr corff a gymhwysaist i mi: Offrymau poeth, a thros bechod, ni buost fodlon iddynt. Yna y dywedais, Wele fi yn dyfod, (y mae yn ysgrifenedig yn nechrau y llyfr amdanaf,) i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Wedi iddo ddywedyd uchod, Aberth ac offrwm, ac offrymau poeth, a thros bechod, nis mynnaist, ac nid ymfodlonaist ynddynt; y rhai yn ôl y gyfraith a offrymir; Yna y dywedodd, Wele fi yn dyfod i wneuthur dy ewyllys di, O Dduw. Y mae yn tynnu ymaith y cyntaf, fel y gosodai yr ail. Trwy yr hwn ewyllys yr ydym ni wedi ein sancteiddio, trwy offrymiad corff Iesu Grist unwaith. Ac y mae pob offeiriad yn sefyll beunydd yn gwasanaethu, ac yn offrymu yn fynych yr un aberthau, y rhai ni allant fyth ddileu pechodau: Eithr hwn, wedi offrymu un aberth dros bechodau, yn dragywydd a eisteddodd ar ddeheulaw Duw; O hyn allan yn disgwyl hyd oni osoder ei elynion ef yn droedfainc i’w draed ef. Canys ag un offrwm y perffeithiodd efe yn dragwyddol y rhai sydd wedi eu sancteiddio. Ac y mae’r Ysbryd Glân hefyd yn tystiolaethu i ni: canys wedi iddo ddywedyd o’r blaen, Dyma’r cyfamod yr hwn a amodaf i â hwynt ar ôl y dyddiau hynny, medd yr Arglwydd; Myfi a osodaf fy nghyfreithiau yn eu calonnau, ac a’u hysgrifennaf yn eu meddyliau; A’u pechodau a’u hanwireddau ni chofiaf mwyach. A lle y mae maddeuant am y rhai hyn, nid oes mwyach offrwm dros bechod. Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân. Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi-sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu. Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. Canys chwi a gyd-ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.