Hebreaid 1:13-14
Hebreaid 1:13-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wrth bwy o'r angylion y dywedodd ef erioed: “Eistedd ar fy neheulaw nes imi osod dy elynion yn droedfainc i'th draed”? Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt oll, yn cael eu hanfon i weini, er mwyn y rhai sydd i etifeddu iachawdwriaeth?
Hebreaid 1:13-14 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Wnaeth Duw ddweud hyn wrth angel erioed?: “Eistedd yma yn y sedd anrhydedd nes i mi wneud i dy elynion blygu fel stôl i ti orffwys dy draed arni.” Dim ond gweision ydy’r angylion. Ysbrydion wedi’u hanfon i wasanaethu’r rhai fydd yn cael eu hachub!
Hebreaid 1:13-14 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?