Habacuc 3:16-18
Habacuc 3:16-18 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi, a’m gwefusau’n crynu. Roedd fy nghorff yn teimlo’n wan, a’m coesau’n gwegian. Dw i’n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini ddod ar y bobl sy’n ymosod arnon ni. Pan mae’r goeden ffigys heb flodeuo, a’r grawnwin heb dyfu yn y winllan; Pan mae’r coed olewydd wedi methu, a dim cnydau ar y caeau teras; Pan does dim defaid yn y gorlan, nac ychen yn y beudy; Drwy’r cwbl, bydda i’n addoli’r ARGLWYDD ac yn dathlu’r Duw sydd yn fy achub i!
Habacuc 3:16-18 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd, cryna fy ngwefusau gan y sŵn; daw pydredd i'm hesgyrn, a gollwng fy nhraed danaf; disgwyliaf am i'r dydd blin wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom. Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i'r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd; er i'r praidd ddarfod o'r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai; eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth.
Habacuc 3:16-18 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd. Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth.