Habacuc 3:13-19
Habacuc 3:13-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Ti’n mynd allan i achub dy bobl; i achub y gwas rwyt wedi’i eneinio. Ti’n taro arweinydd y wlad ddrwg, a’i gadael yn noeth o’i phen i’w chynffon. Saib Ti’n trywanu ei milwyr gyda’u picellau eu hunain, wrth iddyn nhw ruthro ymlaen i’n chwalu ni. Roedden nhw’n chwerthin a dathlu wrth gam-drin y tlawd yn y dirgel. Roedd dy geffylau yn sathru’r môr, ac yn gwneud i’r dŵr ewynnu. Pan glywais y sŵn, roedd fy mol yn corddi, a’m gwefusau’n crynu. Roedd fy nghorff yn teimlo’n wan, a’m coesau’n gwegian. Dw i’n mynd i ddisgwyl yn dawel i ddydd trybini ddod ar y bobl sy’n ymosod arnon ni. Pan mae’r goeden ffigys heb flodeuo, a’r grawnwin heb dyfu yn y winllan; Pan mae’r coed olewydd wedi methu, a dim cnydau ar y caeau teras; Pan does dim defaid yn y gorlan, nac ychen yn y beudy; Drwy’r cwbl, bydda i’n addoli’r ARGLWYDD ac yn dathlu’r Duw sydd yn fy achub i! Mae’r ARGLWYDD, fy meistr, yn rhoi nerth i mi, ac yn gwneud fy nhraed mor saff â’r carw sy’n crwydro’r ucheldir garw.
Habacuc 3:13-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ei allan i waredu dy bobl, i waredu dy eneiniog; drylli dŷ'r drygionus i'r llawr, a dinoethi'r sylfaen hyd at y graig. Sela Tryweni â'th waywffyn bennau'r rhyfelwyr a ddaeth fel corwynt i'n gwasgaru, fel rhai'n llawenhau i lyncu'r tlawd yn ddirgel. Pan sethri'r môr â'th feirch, y mae'r dyfroedd mawrion yn ymchwyddo. Clywais innau, a chynhyrfwyd fy ymysgaroedd, cryna fy ngwefusau gan y sŵn; daw pydredd i'm hesgyrn, a gollwng fy nhraed danaf; disgwyliaf am i'r dydd blin wawrio ar y bobl sy'n ymosod arnom. Er nad yw'r ffigysbren yn blodeuo, ac er nad yw'r gwinwydd yn dwyn ffrwyth; er i'r cynhaeaf olew ballu, ac er nad yw'r meysydd yn rhoi bwyd; er i'r praidd ddarfod o'r gorlan, ac er nad oes gwartheg yn y beudai; eto llawenychaf yn yr ARGLWYDD, a llawenhaf yn Nuw fy iachawdwriaeth. Yr ARGLWYDD Dduw yw fy nerth; gwna fy nhraed yn ysgafn fel ewig, a phâr imi rodio uchelfannau. I'r Cyfarwyddwr: gydag offerynnau llinynnol.
Habacuc 3:13-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Aethost allan er iachawdwriaeth i’th bobl, er iachawdwriaeth ynghyd â’th eneiniog: torraist y pen allan o dŷ yr anwir, gan ddinoethi y sylfaen hyd y gwddf. Sela. Trywenaist ben ei faestrefydd â’i ffyn ei hun; rhyferthwyasant i’m gwasgaru; ymlawenhasant, megis i fwyta y tlawd mewn dirgelwch. Rhodiaist â’th feirch trwy y môr, trwy bentwr o ddyfroedd mawrion. Pan glywais, fy mol a ddychrynodd; fy ngwefusau a grynasant wrth y llef: daeth pydredd i’m hesgyrn, ac yn fy lle y crynais, fel y gorffwyswn yn nydd trallod: pan ddêl efe i fyny at y bobl, efe a’u difetha hwynt â’i fyddinoedd. Er i’r ffigysbren na flodeuo, ac na byddo ffrwyth ar y gwinwydd; gwaith yr olewydd a balla, a’r meysydd ni roddant fwyd; torrir ymaith y praidd o’r gorlan, ac ni bydd eidion yn eu beudai: Eto mi a lawenychaf yn yr ARGLWYDD; byddaf hyfryd yn NUW fy iachawdwriaeth. Yr ARGLWYDD DDUW yw fy nerth, a’m traed a wna efe fel traed ewigod; ac efe a wna i mi rodio ar fy uchel leoedd. I’r pencerdd ar fy offer tannau.