Habacuc 3:1-4
Habacuc 3:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Gweddi'r proffwyd Habacuc. Ar Sigionoth. O ARGLWYDD, clywais y sôn amdanat, a gwelais dy waith, O ARGLWYDD. Adnewydda ef yng nghanol y blynyddoedd, datguddia ef yng nghanol y blynyddoedd, ac yn dy lid cofia drugaredd. Y mae Duw yn dyfod o Teman, a'r Sanctaidd o Fynydd Paran. Sela Y mae ei ogoniant yn gorchuddio'r nefoedd, a'i fawl yn llenwi'r ddaear. Y mae ei lewyrch fel y wawr, a phelydrau'n fflachio o'i law; ac yno y mae cuddfan ei nerth.
Habacuc 3:1-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
ARGLWYDD, dw i wedi clywed beth rwyt ti’n gallu ei wneud. Mae’n syfrdanol! Gwna’r un peth eto yn ein dyddiau ni. Dangos dy nerth yn ein dyddiau. Er dy fod yn ddig, dangos drugaredd aton ni! Dw i’n gweld Duw yn dod eto o Teman; a’r Un Sanctaidd o Fynydd Paran. Saib Mae ei ysblander yn llenwi’r awyr, ac mae’r ddaear i gyd yn ei foli. Mae e’n disgleirio fel golau llachar. Daw mellten sy’n fforchio o’i law, lle mae’n cuddio ei nerth.
Habacuc 3:1-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Gweddi Habacuc y proffwyd, ar Sigionoth. Clywais, O ARGLWYDD, dy air, ac ofnais: O ARGLWYDD, bywha dy waith yng nghanol y blynyddoedd, pâr wybod yng nghanol y blynyddoedd; yn dy lid cofia drugaredd. DUW a ddaeth o Teman, a’r Sanctaidd o fynydd Paran. Sela. Ei ogoniant a dodd y nefoedd, a’r ddaear a lanwyd o’i fawl. A’i lewyrch oedd fel goleuni: yr oedd cyrn iddo yn dyfod allan o’i law; ac yno yr oedd cuddiad ei gryfder.