Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Habacuc 2:2-20

Habacuc 2:2-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Atebodd yr ARGLWYDD fi: “Ysgrifenna'r weledigaeth, a gwna hi'n eglur ar lechen, fel y gellir ei darllen wrth redeg; oherwydd fe ddaw eto weledigaeth yn ei hamser— daw ar frys i'w chyflawni, a heb ball. Yn wir nid oeda; disgwyl amdani, oherwydd yn sicr fe ddaw, a heb fethu. Yr un nad yw ei enaid yn uniawn sy'n ddi-hid, ond bydd y cyfiawn fyw trwy ei ffyddlondeb.” Y mae cyfoeth yn dwyllodrus, yn gwneud rhywun yn falch a di-ddal; y mae yntau'n lledu ei safn fel Sheol, ac fel marwolaeth yn anniwall, yn casglu'r holl genhedloedd iddo'i hun ac yn cynnull ato'r holl bobloedd. Oni fyddant i gyd yn adrodd dychan yn ei erbyn, ac yn ei watwar yn sbeitlyd a dweud, “Gwae'r sawl sy'n pentyrru'r hyn nad yw'n eiddo iddo, ac yn cadw iddo'i hun wystl y dyledwr.” Oni chyfyd dy echwynwyr yn sydyn, ac oni ddeffry'r rhai sy'n dy ddychryn, a thithau'n syrthio'n ysglyfaeth iddynt? Am i ti dy hun ysbeilio cenhedloedd lawer, bydd gweddill pobloedd y byd yn dy ysbeilio di, o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir a'r ddinas a'i holl drigolion. Gwae'r sawl a gais enillion drygionus i'w feddiant, er mwyn gosod ei nyth yn uchel, a'i waredu ei hun o afael blinder. Cynlluniaist warth i'th dŷ dy hun trwy dorri ymaith bobloedd lawer, a pheryglaist dy einioes dy hun. Oherwydd gwaedda'r garreg o'r mur, ac etyb trawst o'r gwaith coed. Gwae'r sawl sy'n adeiladu dinas trwy waed, ac yn sylfaenu dinas ar anghyfiawnder. Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y Lluoedd y daw hyn: fod pobloedd yn llafurio i ddim ond tân, a chenhedloedd yn ymdrechu i ddim o gwbl? Oherwydd llenwir y ddaear â gwybodaeth o ogoniant yr ARGLWYDD, fel y mae'r dyfroedd yn llenwi'r môr. Gwae'r sawl sy'n gwneud i'w gymydog yfed o gwpan ei lid, ac yn ei feddwi er mwyn cael gweld ei noethni. Byddi'n llawn o warth, ac nid o ogoniant. Yf dithau nes y byddi'n simsan. Atat ti y daw cwpan deheulaw'r ARGLWYDD, a bydd dy warth yn fwy na'th ogoniant. Bydd y trais a wnaed yn Lebanon yn dy oresgyn, a dinistr yr anifeiliaid yn dy arswydo, o achos y tywallt gwaed a'r anrheithio ar y tir a'r ddinas a'i holl drigolion. Pa fudd i'w wneuthurwr yw'r eilun a luniodd? Nid yw ond delw dawdd a dysgwr celwydd. Er bod y gwneuthurwr yn ymddiried yn ei waith, nid yw'n gwneud ond delwau mud. Gwae'r sawl a ddywed wrth bren, “Deffro”, ac wrth garreg fud, “Ymysgwyd”. Y mae wedi ei amgylchu ag aur ac arian, ond nid oes dim anadl ynddo. Ond y mae'r ARGLWYDD yn ei deml sanctaidd; bydded i'r holl ddaear ymdawelu ger ei fron.

Habacuc 2:2-20 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

A dyma’r ARGLWYDD yn ateb: “Ysgrifenna’r neges yma yn glir ar lechi, i’r negeswr sy’n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd. Mae’n weledigaeth o beth sy’n mynd i ddigwydd; mae’n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e’n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar – mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn. A dyma’r neges: Mae’r gelyn mor falch a’i gymhellion yn ddrwg, ond bydd yr un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb. Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp i’r gelyn balch, anfodlon. Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd; fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon. Dyna pam mae’r gelyn yn casglu ac yn concro un wlad ar ôl y llall. Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd! Byddan nhw’n gwneud hwyl am ei ben ar gân! – ‘Gwae’r un sy’n cymryd eiddo oddi ar bobl! (Am faint mae hyn i ddigwydd?) Gwneud ei hun yn gyfoethog drwy elwa ar draul eraill!’ Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhw yn codi heb unrhyw rybudd. Byddan nhw’n deffro’n sydyn, yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di. Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd, bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti. Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd. Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i’ch teulu drwy fanteisio’n annheg ar bobl eraill. Chi sydd wedi gwneud yn siŵr fod eich nyth eich hunain yn saff – yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl. Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu. Drwy ddinistrio cymaint o wledydd dych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain. Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan, a’r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn. Gwae’r un sy’n tywallt gwaed i adeiladu dinas, ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder. Gwylia di! Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi datgan: Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi. Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd. Fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd pawb drwy’r byd yn gwybod mor wych ydy’r ARGLWYDD. Gwae’r un sy’n gorfodi pobl eraill i yfed y gwin sy’n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint. Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw’n noeth. Byddi di’n feddw o gywilydd, nid mawredd! Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat. Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti! Byddi’n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog! Byddi’n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus! Byddi’n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno; am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd. Ydy delw wedi’i gerfio o unrhyw werth? Neu eilun o fetel sy’n camarwain pobl? Pam fyddai’r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio? Rhyw ‘dduw’ diwerth sydd ddim yn gallu siarad! Gwae’r un sy’n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’ neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’ Ydy peth felly’n gallu rhoi arweiniad? Mae wedi’i orchuddio’n grand gydag aur neu arian, ond does dim bywyd ynddo! Ond mae’r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd. Ust! Mae’r byd i gyd yn fud o’i flaen!”

Habacuc 2:2-20 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A’r ARGLWYDD a atebodd ac a ddywedodd, Ysgrifenna y weledigaeth, a gwna hi yn eglur ar lechau, fel y rhedo yr hwn a’i darlleno. Canys y weledigaeth sydd eto dros amser gosodedig, ond hi a ddywed o’r diwedd, ac ni thwylla: os erys, disgwyl amdani; canys gan ddyfod y daw, nid oeda. Wele, yr hwn a ymchwydda, nid yw uniawn ei enaid ynddo: ond y cyfiawn a fydd byw trwy ei ffydd. A hefyd gan ei fod yn troseddu trwy win, gŵr balch yw efe, ac heb aros gartref, yr hwn a helaetha ei feddwl fel uffern, ac y mae fel angau, ac nis digonir; ond efe a gasgl ato yr holl genhedloedd, ac a gynnull ato yr holl bobloedd. Oni chyfyd y rhai hyn oll yn ei erbyn ddihareb, a gair du yn ei erbyn, a dywedyd, Gwae a helaetho y peth nid yw eiddo! pa hyd? a’r neb a lwytho arno ei hun y clai tew! Oni chyfyd yn ddisymwth y rhai a’th frathant, ac oni ddeffry y rhai a’th gystuddiant, a thi a fyddi yn wasarn iddynt? Am i ti ysbeilio cenhedloedd lawer, holl weddill y bobloedd a’th ysbeilia dithau: am waed dynion, ac am y trais ar y tir, ar y ddinas, ac ar oll a drigant ynddi. Gwae a elwo elw drwg i’w dŷ, i osod ei nyth yn uchel, i ddianc o law y drwg! Cymeraist gyngor gwarthus i’th dŷ, wrth ddistrywio pobloedd lawer; pechaist yn erbyn dy enaid. Oherwydd y garreg a lefa o’r mur, a’r trawst a’i hetyb o’r gwaith coed. Gwae a adeilado dref trwy waed, ac a gadarnhao ddinas mewn anwiredd! Wele, onid oddi wrth ARGLWYDD y lluoedd y mae, bod i’r bobl ymflino yn y tân, ac i’r cenhedloedd ymddiffygio am wir wagedd? Canys y ddaear a lenwir o wybodaeth gogoniant yr ARGLWYDD, fel y toa y dyfroedd y môr. Gwae a roddo ddiod i’w gymydog: yr hwn ydwyt yn rhoddi iddo dy gostrel, ac yn ei feddwi hefyd, er cael gweled eu noethni hwynt! Llanwyd di o warth yn lle gogoniant; yf dithau hefyd, a noether dy flaengroen: ymchwel cwpan deheulaw yr ARGLWYDD atat ti, a chwydiad gwarthus fydd ar dy ogoniant. Canys trais Libanus a’th orchuddia, ac anrhaith yr anifeiliaid, yr hwn a’u dychrynodd hwynt, o achos gwaed dynion, a thrais y tir, y ddinas ac oll a drigant ynddi. Pa les a wna i’r ddelw gerfiedig, ddarfod i’w lluniwr ei cherfio; i’r ddelw dawdd, ac athro celwydd, fod lluniwr ei waith yn ymddiried ynddo, i wneuthur eilunod mudion? Gwae a ddywedo wrth bren, Deffro; wrth garreg fud, Cyfod, efe a rydd addysg: wele, gwisgwyd ef ag aur ac arian, a dim anadl nid oes o’i fewn. Ond yr ARGLWYDD sydd yn ei deml sanctaidd: y ddaear oll, gostega di ger ei fron ef.