Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Habacuc 2:2-20

Habacuc 2:2-20 BNET

A dyma’r ARGLWYDD yn ateb: “Ysgrifenna’r neges yma yn glir ar lechi, i’r negeswr sy’n rhedeg allu ei ddarllen yn hawdd. Mae’n weledigaeth o beth sy’n mynd i ddigwydd; mae’n dangos sut fydd pethau yn y diwedd. Os nad ydy e’n digwydd yn syth, bydd yn amyneddgar – mae’n siŵr o ddod ar yr amser iawn. A dyma’r neges: Mae’r gelyn mor falch a’i gymhellion yn ddrwg, ond bydd yr un cyfiawn yn byw drwy ei ffyddlondeb. Bydd gwin ei lwyddiant yn achos cwymp i’r gelyn balch, anfodlon. Mae ganddo chwant bwyd fel y bedd; fel marwolaeth, dydy e byth yn fodlon. Dyna pam mae’r gelyn yn casglu ac yn concro un wlad ar ôl y llall. Bydd y gwledydd hynny yn ei wawdio ryw ddydd! Byddan nhw’n gwneud hwyl am ei ben ar gân! – ‘Gwae’r un sy’n cymryd eiddo oddi ar bobl! (Am faint mae hyn i ddigwydd?) Gwneud ei hun yn gyfoethog drwy elwa ar draul eraill!’ Bydd y bobl wyt ti mewn dyled iddyn nhw yn codi heb unrhyw rybudd. Byddan nhw’n deffro’n sydyn, yn dy ddychryn ac yn cymryd dy eiddo di. Am dy fod ti wedi dwyn oddi ar lawer o wledydd, bydd y rhai sydd ar ôl yn dwyn oddi arnat ti. Bydd hyn yn digwydd am dy fod wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd. Gwae chi sydd wedi ennill cyfoeth i’ch teulu drwy fanteisio’n annheg ar bobl eraill. Chi sydd wedi gwneud yn siŵr fod eich nyth eich hunain yn saff – yn uchel, allan o gyrraedd unrhyw berygl. Mae eich sgam wedi dwyn cywilydd ar eich teulu. Drwy ddinistrio cymaint o wledydd dych chi wedi dwyn dinistr arnoch eich hunain. Bydd y cerrig yn waliau dy dŷ yn gweiddi allan, a’r trawstiau pren yn tystio yn dy erbyn. Gwae’r un sy’n tywallt gwaed i adeiladu dinas, ac yn gosod ei sylfeini ar anghyfiawnder. Gwylia di! Mae’r ARGLWYDD hollbwerus wedi datgan: Bydd ymdrechion y bobloedd yn cael eu llosgi. Bydd holl lafur y gwledydd i ddim byd. Fel mae’r môr yn llawn dop o ddŵr, bydd pawb drwy’r byd yn gwybod mor wych ydy’r ARGLWYDD. Gwae’r un sy’n gorfodi pobl eraill i yfed y gwin sy’n cael ei dywallt o gwpan dy ddigofaint. Eu meddwi nhw er mwyn edrych arnyn nhw’n noeth. Byddi di’n feddw o gywilydd, nid mawredd! Dy dro di i oryfed a dangos dy rannau preifat. Mae cwpan digofaint yr ARGLWYDD yn dod i ti! Byddi’n chwydu cywilydd yn lle brolio dy ysblander mawreddog! Byddi’n talu am ddinistrio coedwigoedd Libanus! Byddi’n dychryn am dy fywyd am i ti ladd yr holl fywyd gwyllt yno; am dy fod ti wedi lladd cymaint o bobl, a dinistrio gwledydd a dinasoedd. Ydy delw wedi’i gerfio o unrhyw werth? Neu eilun o fetel sy’n camarwain pobl? Pam fyddai’r crefftwr wnaeth ei lunio yn ei drystio? Rhyw ‘dduw’ diwerth sydd ddim yn gallu siarad! Gwae’r un sy’n dweud wrth ddarn o bren, ‘Deffra!’ neu wrth garreg fud, ‘Gwna rywbeth!’ Ydy peth felly’n gallu rhoi arweiniad? Mae wedi’i orchuddio’n grand gydag aur neu arian, ond does dim bywyd ynddo! Ond mae’r ARGLWYDD yn ei balas sanctaidd. Ust! Mae’r byd i gyd yn fud o’i flaen!”