Habacuc 1:12-17
Habacuc 1:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Onid wyt ti erioed, O ARGLWYDD, fy Nuw sanctaidd na fyddi farw? O ARGLWYDD, ti a'u penododd i farn; O Graig, ti a'u dewisodd i ddwyn cerydd. Ti, sydd â'th lygaid yn rhy bur i edrych ar ddrwg, ac na elli oddef camwri, pam y goddefi bobl dwyllodrus, a bod yn ddistaw pan fydd y drygionus yn traflyncu un mwy cyfiawn nag ef ei hun? Pam y gwnei bobl fel pysgod y môr, fel ymlusgiaid heb neb i'w rheoli? Coda hwy i fyny â bach, bob un ohonynt, a'u dal mewn rhwydau, a'u casglu â llusgrwydau; yna mae'n llawenhau ac yn gorfoleddu, yn cyflwyno aberth i'w rhwydau ac yn arogldarthu i'r llusgrwydau, am mai trwyddynt hwy y caiff fyw'n fras a bwyta'n foethus. A ydyw felly i wagio'r rhwydau'n ddiddiwedd, a lladd cenhedloedd yn ddidostur?
Habacuc 1:12-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
“Ond ARGLWYDD, ti ydy’r Duw oedd ar waith yn yr hen ddyddiau! Ti ydy’r Duw Sanctaidd, fyddi di byth yn marw! ARGLWYDD, ti’n eu defnyddio nhw i farnu! Ein Craig, rwyt ti wedi’u penodi nhw i gosbi! Mae dy lygaid yn rhy lân i edrych ar ddrygioni! Sut alli di esgusodi annhegwch? Sut wyt ti’n gallu dioddef pobl mor dwyllodrus? Sut alli di eistedd yn dawel tra mae pobl ddrwg yn llyncu pobl sy’n well na nhw? Rwyt ti’n gwneud pobl fel pysgod, neu greaduriaid y môr heb neb i’w harwain. Mae’r gelyn yn eu dal nhw gyda bachyn; mae’n eu llusgo nhw yn y rhwyd a daflodd. Wrth eu casglu gyda’i rwyd bysgota mae’n dathlu’n llawen ar ôl gwneud mor dda. Wedyn mae’n cyflwyno aberthau ac yn llosgi arogldarth i’w rwydau. Nhw sy’n rhoi bywyd bras iddo, a digonedd i’w fwyta. Ydy e’n mynd i gael dal ati i wagio ei rwydi, a dinistrio gwledydd yn ddidrugaredd?
Habacuc 1:12-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Onid wyt ti er tragwyddoldeb, O ARGLWYDD fy NUW, fy Sanctaidd? ni byddwn feirw. O ARGLWYDD, ti a’u gosodaist hwy i farn, ac a’u sicrheaist, O DDUW, i gosbedigaeth. Ydwyt lanach dy lygaid nag y gelli edrych ar ddrwg, ac ni elli edrych ar anwiredd: paham yr edrychi ar yr anffyddloniaid, ac y tewi pan lynco yr anwir un cyfiawnach nag ef ei hun? Ac y gwnei ddynion fel pysgod y môr, fel yr ymlusgiaid heb lywydd arnynt? Cyfodant hwynt oll â’r bach; casglant hwynt yn eu rhwyd, a chynullant hwynt yn eu ballegrwyd: am hynny hwy a lawenychant ac a ymddigrifant. Am hynny yr aberthant i’w rhwyd, ac y llosgant arogl-darth i’w ballegrwyd: canys trwyddynt hwy y mae eu rhan yn dew, a’u bwyd yn fras. A gânt hwy gan hynny dywallt eu rhwyd, ac nad arbedont ladd y cenhedloedd yn wastadol?