Genesis 7:1-24
Genesis 7:1-24 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Noa, “Dos i mewn i’r arch gyda dy deulu. Ti ydy’r unig un sy’n gwneud beth dw i eisiau. Dos â saith pâr o bob anifail sy’n iawn i’w fwyta a’i aberthu, ac un pâr o bob anifail arall. Un gwryw ac un fenyw ym mhob pâr. Dos â saith pâr o bob aderyn gyda ti hefyd. Dw i eisiau i’r amrywiaeth o anifeiliaid ac adar oroesi ar y ddaear. Wythnos i heddiw bydda i’n gwneud iddi lawio. Bydd hi’n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i’n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi’i greu oddi ar wyneb y ddaear.” A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho. Roedd Noa yn 600 oed pan ddaeth y llifogydd a boddi’r ddaear. Aeth Noa a’i wraig, ei feibion a’u gwragedd i mewn i’r arch i ddianc rhag y llifogydd. Dyma’r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i’w bwyta a’u haberthu, a’r lleill hefyd), a’r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill, yn dod at Noa i’r arch bob yn bâr – gwryw a benyw. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. Wythnos union wedyn dyma’r llifogydd yn dod ac yn boddi’r ddaear. Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o’r ail fis, byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol, ac agorodd llifddorau’r awyr. Buodd hi’n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod. Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i’r arch gyda’i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a’u gwragedd nhw. Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid gwyllt a dof, yr ymlusgiaid, ac adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan. Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i’r arch bob yn ddau – gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma’r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn. Dyma’r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i’r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr. Roedd y dŵr yn codi’n uwch ac yn uwch, a’r arch yn nofio ar yr wyneb. Roedd cymaint o ddŵr nes bod hyd yn oed y mynyddoedd o’r golwg. Daliodd i godi nes bod y dŵr dros saith metr yn uwch na’r mynyddoedd uchaf. Cafodd popeth byw ei foddi – adar, anifeiliaid dof a gwyllt, yr holl greaduriaid sy’n heidio ar y ddaear, a phob person byw. Roedd pob creadur oedd yn anadlu ac yn byw ar dir sych wedi marw. Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd – pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â’r cwbl. Dim ond Noa a’r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl. Wnaeth y dŵr ddim dechrau gostwng am bum mis.
Genesis 7:1-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, “Dos i mewn i'r arch, ti a'th holl deulu, oherwydd gwelais dy fod di yn gyfiawn ger fy mron yn y genhedlaeth hon. Cymer gyda thi saith bâr o'r holl anifeiliaid glân, y gwryw a'i gymar; a phâr o'r anifeiliaid nad ydynt lân, y gwryw a'i gymar; a phob yn saith bâr hefyd o adar yr awyr, y gwryw a'r fenyw, i gadw eu hil yn fyw ar wyneb yr holl ddaear. Oherwydd ymhen saith diwrnod paraf iddi lawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos, a byddaf yn dileu oddi ar wyneb y ddaear bopeth byw a wneuthum.” Gwnaeth Noa bopeth fel y gorchmynnodd yr ARGLWYDD iddo. Chwe chant oed oedd Noa pan ddaeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear. Aeth Noa i mewn i'r arch, a'i feibion a'i wraig a gwragedd ei feibion gydag ef, rhag dyfroedd y dilyw. Cymerodd o'r anifeiliaid glân a'r anifeiliaid nad oeddent lân, o'r adar a phopeth oedd yn ymlusgo ar y tir, a daethant i mewn ato i'r arch bob yn ddau, yn wryw a benyw, fel y gorchmynnodd Duw i Noa. Ymhen saith diwrnod daeth dyfroedd y dilyw ar y ddaear. Yn y chwe chanfed flwyddyn o oes Noa, yn yr ail fis, ar yr ail ddydd ar bymtheg o'r mis, y diwrnod hwnnw rhwygwyd holl ffynhonnau'r dyfnder mawr ac agorwyd ffenestri'r nefoedd, fel y bu'n glawio ar y ddaear am ddeugain diwrnod a deugain nos. Y diwrnod hwnnw aeth Noa a'i feibion Sem, Cham a Jaffeth, gwraig Noa a thair gwraig ei feibion hefyd gyda hwy i mewn i'r arch, hwy a phob bwystfil yn ôl ei rywogaeth, a phob anifail yn ôl ei rywogaeth, a phob peth sy'n ymlusgo ar y ddaear yn ôl ei rywogaeth, a'r holl adar yn ôl eu rhywogaeth, pob aderyn asgellog. Daethant at Noa i'r arch bob yn ddau, o bob creadur ag anadl einioes ynddo. Yr oeddent yn dod yn wryw ac yn fenyw o bob creadur, ac aethant i mewn fel y gorchmynnodd Duw iddo; a chaeodd yr ARGLWYDD arno. Am ddeugain diwrnod y bu'r dilyw yn dod ar y ddaear; amlhaodd y dyfroedd, gan gludo'r arch a'i chodi oddi ar y ddaear. Cryfhaodd y dyfroedd ac amlhau'n ddirfawr ar y ddaear, a moriodd yr arch ar wyneb y dyfroedd. Cryfhaodd y dyfroedd gymaint ar y ddaear nes gorchuddio'r holl fynyddoedd uchel ym mhob man dan y nefoedd; cododd y dyfroedd dros y mynyddoedd a'u gorchuddio dan ddyfnder o bymtheg cufydd. Trengodd pob cnawd oedd yn symud ar y ddaear, yn adar, anifeiliaid, bwystfilod, popeth oedd yn heigio ar y ddaear, a phobl hefyd; bu farw popeth ar y tir sych oedd ag anadl einioes yn ei ffroenau. Dilewyd popeth byw oedd ar wyneb y tir, yn ddyn ac anifail, yn ymlusgiaid ac adar yr awyr; fe'u dilewyd o'r ddaear. Noa yn unig a adawyd, a'r rhai oedd gydag ef yn yr arch. Parhaodd y dyfroedd ar y ddaear am gant a hanner o ddyddiau.
Genesis 7:1-24 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y dywedodd yr ARGLWYDD wrth Noa, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon. O bob anifail glân y cymeri gyda thi bob yn saith, y gwryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwryw a’i fenyw: O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear. Oblegid wedi saith niwrnod eto, mi a lawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i. A Noa a wnaeth yn ôl yr hyn oll a orchmynasai yr ARGLWYDD iddo. Noa hefyd oedd fab chwe chan mlwydd pan fu’r dyfroedd dilyw ar y ddaear. A Noa a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gydag ef, i’r arch, rhag y dwfr dilyw. O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear, Yr aeth i mewn at Noa i’r arch bob yn ddau, yn wryw ac yn fenyw, fel y gorchmynasai DUW i Noa. Ac wedi saith niwrnod y dwfr dilyw a ddaeth ar y ddaear. Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noa, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri’r nefoedd a agorwyd. A’r glaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos. O fewn corff y dydd hwnnw y daeth Noa, a Sem, a Cham, a Jaffeth, meibion Noa, a gwraig Noa, a thair gwraig ei feibion ef gyda hwynt, i’r arch; Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw. A daethant at Noa i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes. A’r rhai a ddaethant, yn wryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchmynasai DUW iddo. A’r ARGLWYDD a gaeodd arno ef. A’r dilyw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear. A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd. A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd. Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tuag i fyny: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd. A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd. Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw. Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ie, dilewyd hwynt o’r ddaear: a Noa a’r rhai oedd gydag ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw. A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.