Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 7

7
Y Dilyw
1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Noa, “Dos i mewn i’r arch gyda dy deulu. Ti ydy’r unig un sy’n gwneud beth dw i eisiau. 2Dos â saith pâr o bob anifail sy’n iawn i’w fwyta a’i aberthu, ac un pâr o bob anifail arall. Un gwryw ac un fenyw ym mhob pâr. 3Dos â saith pâr o bob aderyn gyda ti hefyd. Dw i eisiau i’r amrywiaeth o anifeiliaid ac adar oroesi ar y ddaear. 4Wythnos i heddiw bydda i’n gwneud iddi lawio. Bydd hi’n glawio nos a dydd am bedwar deg diwrnod. Dw i’n mynd i gael gwared â phopeth byw dw i wedi’i greu oddi ar wyneb y ddaear.” 5A dyma Noa yn gwneud yn union fel roedd yr ARGLWYDD wedi dweud wrtho.
6Roedd Noa yn 600 oed pan ddaeth y llifogydd a boddi’r ddaear. 7Aeth Noa a’i wraig, ei feibion a’u gwragedd i mewn i’r arch i ddianc rhag y llifogydd. 8Dyma’r anifeiliaid gwahanol (y rhai oedd yn iawn i’w bwyta a’u haberthu, a’r lleill hefyd), a’r gwahanol fathau o adar a chreaduriaid bach eraill, 9yn dod at Noa i’r arch bob yn bâr – gwryw a benyw. Digwyddodd hyn yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa.
10Wythnos union wedyn dyma’r llifogydd yn dod ac yn boddi’r ddaear. 11Pan oedd Noa yn 600 mlwydd oed, ar yr ail ar bymtheg o’r ail fis,
byrstiodd y ffynhonnau dŵr tanddaearol,
ac agorodd llifddorau’r awyr.
12Buodd hi’n bwrw glaw yn drwm, ddydd a nos, am bedwar deg diwrnod.
13Ar y diwrnod y dechreuodd hi lawio, aeth Noa i’r arch gyda’i wraig, ei feibion, Shem, Cham a Jaffeth, a’u gwragedd nhw. 14Gyda nhw roedd y gwahanol fathau o anifeiliaid gwyllt a dof, yr ymlusgiaid, ac adar a phryfed – popeth oedd yn gallu hedfan. 15Aeth y creaduriaid byw i gyd at Noa i’r arch bob yn ddau – 16gwryw a benyw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrth Noa. A dyma’r ARGLWYDD yn eu cau nhw i mewn.
17Dyma’r dilyw yn para am bedwar deg diwrnod. Roedd y llifogydd yn mynd yn waeth, nes i’r arch gael ei chodi ar wyneb y dŵr. 18Roedd y dŵr yn codi’n uwch ac yn uwch, a’r arch yn nofio ar yr wyneb. 19Roedd cymaint o ddŵr nes bod hyd yn oed y mynyddoedd o’r golwg. 20Daliodd i godi nes bod y dŵr dros saith metr yn uwch na’r mynyddoedd uchaf. 21Cafodd popeth byw ei foddi – adar, anifeiliaid dof a gwyllt, yr holl greaduriaid sy’n heidio ar y ddaear, a phob person byw. 22Roedd pob creadur oedd yn anadlu ac yn byw ar dir sych wedi marw. 23Dyma Duw yn cael gwared â nhw i gyd – pobl, anifeiliaid, ymlusgiaid a phryfed, ac adar. Cafodd wared â’r cwbl. Dim ond Noa a’r rhai oedd yn yr arch oedd ar ôl.
24Wnaeth y dŵr ddim dechrau gostwng am bum mis.

Dewis Presennol:

Genesis 7: bnet

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda