Genesis 50:15-21
Genesis 50:15-21 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Wedi marw eu tad, daeth ofn ar frodyr Joseff, a dywedasant, “Efallai y bydd Joseff yn ein casáu ni, ac yn talu'n ôl yr holl ddrwg a wnaethom iddo.” A daethant at Joseff, a dweud, “Rhoddodd dy dad orchymyn fel hyn cyn marw, ‘Dywedwch wrth Joseff, “Maddau yn awr ddrygioni a phechod dy frodyr, oherwydd gwnaethant ddrwg i ti.” ’ Yn awr, maddau ddrygioni gweision Duw dy dad.” Wylodd Joseff wrth iddynt siarad ag ef. Yna daeth ei frodyr a syrthio o'i flaen, a dweud, “Yr ydym yn weision i ti.” Ond dywedodd Joseff wrthynt, “Peidiwch ag ofni. A wyf fi yn lle Duw? Yr oeddech chwi yn bwriadu drwg yn f'erbyn; ond trodd Duw y bwriad yn ddaioni, er mwyn gwneud yr hyn a welir heddiw, cadw'n fyw llawer o bobl. Felly peidiwch ag ofni; fe'ch cynhaliaf chwi a'ch rhai bach.” A chysurodd hwy, a siarad yn dyner wrthynt.
Genesis 50:15-21 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gan fod eu tad wedi marw, roedd brodyr Joseff yn dechrau ofni, “Beth os ydy Joseff yn dal yn ddig hefo ni? Beth os ydy e am dalu’r pwyth yn ôl am yr holl ddrwg wnaethon ni iddo?” Felly dyma nhw’n anfon neges at Joseff: “Roedd dad wedi dweud wrthon ni cyn iddo farw, ‘Dwedwch wrth Joseff: Plîs maddau i dy frodyr am y drwg wnaethon nhw, yn dy drin di mor wael.’ Felly dyma ni, gweision y Duw roedd dy dad yn ei addoli. O, plîs wnei di faddau i ni am beth wnaethon ni?” Pan glywodd Joseff hyn dyma fe’n dechrau crio. Yna daeth ei frodyr a syrthio o’i flaen, a dweud, “Byddwn ni’n gaethweision i ti.” Ond dyma Joseff yn ateb, “Peidiwch bod ag ofn. Ai Duw ydw i? Roeddech chi am wneud drwg i mi, ond dyma Duw yn troi y drwg yn beth da. Roedd arno eisiau achub bywydau llawer o bobl, a dyna dych chi’n weld heddiw. Felly peidiwch bod ag ofn. Gwna i ofalu amdanoch chi a’ch plant.” Felly rhoddodd Joseff dawelwch meddwl iddyn nhw drwy siarad yn garedig gyda nhw.
Genesis 50:15-21 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Pan welodd brodyr Joseff farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseff ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef. A hwy a anfonasant at Joseff i ddywedyd, Dy dad a orchmynnodd o flaen ei farw, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth Joseff; Atolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt; canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, atolwg, gamwedd gweision DUW dy dad. Ac wylodd Joseff pan lefarasant wrtho. A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef; ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti. A dywedodd Joseff wrthynt, Nac ofnwch; canys a ydwyf fi yn lle DUW? Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond DUW a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddiw, i gadw yn fyw bobl lawer. Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.