Genesis 49:3-4
Genesis 49:3-4 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Reuben, ti ydy fy mab hynaf; fy nghryfder, a ffrwyth cyntaf fy egni – yr un â’r safle uchaf a’r anrhydedd mwyaf. Ond rwyt ti mor afreolus â dŵr – fyddi di ddim yn gyntaf. Est ti i mewn i wely dy dad, a’i lygru drwy dreisio fy ngwraig – gorwedd ar glustogau dy dad!
Rhanna
Darllen Genesis 49Genesis 49:3-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
“Reuben, ti yw fy nghyntafanedig, fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth, yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu, yn aflonydd fel dŵr; ni ragori mwyach, oherwydd dringaist i wely dy dad, dringaist i'm gorweddfa a'i halogi.
Rhanna
Darllen Genesis 49Genesis 49:3-4 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder. Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad: yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.
Rhanna
Darllen Genesis 49