Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 49

49
Bendith Jacob
1Yna galwodd Jacob ar ei feibion, ac meddai, “Dewch ynghyd, imi ddweud wrthych beth fydd eich hynt yn y dyddiau sydd i ddod.
2“Dewch yma a gwrandewch, feibion Jacob,
gwrandewch ar Israel eich tad.
3“Reuben, ti yw fy nghyntafanedig,
fy ngrym a blaenffrwyth fy nerth,
yn rhagori mewn balchder, yn rhagori mewn gallu,
4yn aflonydd fel dŵr; ni ragori mwyach,
oherwydd dringaist i wely dy dad,
dringaist#49:4 Felly Fersiynau. Hebraeg, dringodd. i'm gorweddfa a'i halogi.
5“Y mae Simeon a Lefi yn frodyr;
arfau creulon yw eu ceibiau.
6Na fydded imi fynd i'w cyngor,
na pherthyn i'w cwmni;
oherwydd yn eu llid lladdasant wŷr,
a thorri llinynnau gar yr ychen fel y mynnent.
7Melltigedig fyddo eu llid am ei fod mor arw,
a'u dicter am ei fod mor greulon;
rhannaf hwy yn Jacob
a'u gwasgaru yn Israel.
8“Jwda, fe'th ganmolir gan dy frodyr;
bydd dy law ar war dy elynion,
a meibion dy dad yn ymgrymu iti.
9Jwda, cenau llew ydwyt,
yn codi oddi ar yr ysglyfaeth, fy mab;
yn plygu a chrymu fel llew,
ac fel llewes; pwy a'i cyfyd?
10Ni fydd y deyrnwialen yn ymadael â Jwda,
na ffon y deddfwr oddi rhwng ei draed,
hyd oni ddaw i Seilo;
iddo ef y bydd ufudd-dod y bobloedd.
11Bydd yn rhwymo'i ebol wrth y winwydden,
a'r llwdn asyn wrth y winwydden bêr;
bydd yn golchi ei wisg mewn gwin,
a'i ddillad yng ngwaed grawnwin.
12Bydd ei lygaid yn dywyllach na gwin,
a'i ddannedd yn wynnach na llaeth.
13“Bydd Sabulon yn byw ar lan y môr;
bydd yn borthladd llongau,
a bydd ei derfyn hyd Sidon.
14“Y mae Issachar yn asyn cryf,
yn gorweddian rhwng y corlannau;
15pan fydd yn gweld lle da i orffwyso,
ac mor hyfryd yw'r tir,
fe blyga'i ysgwydd i'r baich,
a dod yn gaethwas dan orfod.
16“Bydd Dan yn barnu ei bobl
fel un o lwythau Israel.
17Bydd Dan yn sarff ar y ffordd,
ac yn neidr ar y llwybr,
yn brathu sodlau'r march
nes i'r marchog syrthio yn wysg ei gefn.
18“Disgwyliaf am dy iachawdwriaeth, O ARGLWYDD!
19“Gad, daw ysbeilwyr i'w ymlid,
ond bydd ef yn eu hymlid hwy.
20“Aser, bras fydd ei fwyd,
ac fe rydd ddanteithion gweddus i frenin.
21“Y mae Nafftali yn dderwen#49:21 Cymh. Groeg. Hebraeg, ewig. ganghennog,
yn lledu brigau#49:21 Cymh. Groeg. Hebraeg, geiriau. teg.
22“Y mae Joseff yn gangen ffrwythlon,
cangen ffrwythlon wrth ffynnon,
a'i cheinciau'n dringo dros y mur.
23Bu'r saethwyr yn chwerw tuag ato,
yn ei saethu yn llawn gelyniaeth;
24ond parhaodd ei fwa yn gadarn,
cryfhawyd ei freichiau
trwy ddwylo Un Cadarn Jacob,
trwy enw'r Bugail, Craig Israel;
25trwy Dduw dy dad, sydd yn dy nerthu,
trwy Dduw Hollalluog, sydd yn dy fendithio
â bendithion y nefoedd uchod,
bendithion y dyfnder sy'n gorwedd isod,
bendithion y bronnau a'r groth.
26Rhagorodd bendithion dy dad
ar fendithion y mynyddoedd tragwyddol#49:26 Felly Groeg. Hebraeg, ar fendithion fy rhieni hyd.,
ac ar haelioni'r bryniau oesol;
byddant hwy ar ben Joseff,
ac ar dalcen yr un a neilltuwyd ymysg ei frodyr.
27“Y mae Benjamin yn flaidd yn llarpio,
yn bwyta ysglyfaeth yn y bore,
ac yn rhannu'r ysbail yn yr hwyr.”
28Dyna ddeuddeg llwyth Israel, a dyna'r hyn a ddywedodd eu tad wrthynt wrth eu bendithio, a rhoi i bob un ei fendith.
Marw Jacob a'i Gladdu
29Yna rhoes Jacob orchymyn iddynt a dweud, “Cesglir fi at fy mhobl. Claddwch fi gyda'm hynafiaid yn yr ogof sydd ym maes Effron yr Hethiad, 30yr ogof sydd ym maes Machpela, i'r dwyrain o Mamre, yng ngwlad Canaan. Prynodd Abraham hi gyda'r maes gan Effron yr Hethiad i gael hawl bedd. 31Yno y claddwyd Abraham a'i wraig Sara; yno y claddwyd Isaac a'i wraig Rebeca, ac yno y cleddais i Lea. 32Cafwyd hawl ar y maes a'r ogof sydd ynddo gan yr Hethiaid.” 33Wedi i Jacob orffen rhoi ei orchymyn i'w feibion, tynnodd ei draed ato i'r gwely, bu farw, a chasglwyd ef at ei bobl.

Dewis Presennol:

Genesis 49: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda