Genesis 26:7-9
Genesis 26:7-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Pan ofynnodd gwŷr y lle ynghylch ei wraig, dywedodd, “Fy chwaer yw hi”, am fod arno ofn dweud, “Fy ngwraig yw hi”, rhag i wŷr y lle ei ladd o achos Rebeca; oherwydd yr oedd hi'n brydferth. Wedi iddo fod yno am ysbaid, edrychodd Abimelech brenin y Philistiaid trwy'r ffenestr a chanfod Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca. Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, “Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, ‘Fy chwaer yw hi’?” Dywedodd Isaac wrtho, “Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi.”
Genesis 26:7-9 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd y dynion yno yn dangos diddordeb yn ei wraig. Felly dwedodd Isaac, “Fy chwaer i ydy hi.” (Roedd arno ofn dweud mai ei wraig oedd hi, rhag i’r dynion ei ladd er mwyn cael Rebeca. Roedd hi’n wraig hardd iawn.) Pan oedd Isaac wedi bod yn byw yno am amser hir, dyma Abimelech, brenin y Philistiaid, yn digwydd edrych allan o ffenest a gweld Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca. Dyma Abimelech yn gofyn i Isaac fynd i’w weld, a dwedodd wrtho, “Felly, dy wraig di ydy hi go iawn! Pam wnest ti ddweud, ‘Fy chwaer i ydy hi’?” Atebodd Isaac, “Roedd gen i ofn i rywun fy lladd i er mwyn ei chael hi.”
Genesis 26:7-9 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A gwŷr y lle hwnnw a ymofynasant am ei wraig ef. Ac efe a ddywedodd, Fy chwaer yw hi: canys ofnodd ddywedyd, Fy ngwraig yw; rhag (eb efe) i ddynion y lle hwnnw fy lladd i am Rebeca: canys yr ydoedd hi yn deg yr olwg. A bu, gwedi ei fod ef yno ddyddiau lawer, i Abimelech brenin y Philistiaid edrych trwy’r ffenestr, a chanfod; ac wele Isaac yn chwarae â Rebeca ei wraig. Ac Abimelech a alwodd ar Isaac, ac a ddywedodd, Wele, yn ddiau dy wraig yw hi: a phaham y dywedaist, Fy chwaer yw hi? Yna y dywedodd Isaac wrtho, Am ddywedyd ohonof, Rhag fy marw o’i phlegid hi.