Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 26

26
Isaac yn Ymfudo i Gerar
1Bu newyn yn y wlad, heblaw'r newyn a fu gynt yn nyddiau Abraham, ac aeth Isaac i Gerar at Abimelech brenin y Philistiaid. 2Yr oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo, a dweud, “Paid â mynd i lawr i'r Aifft; aros yn y wlad a ddywedaf fi wrthyt. 3Ymdeithia yn y wlad hon, a byddaf gyda thi i'th fendithio; oherwydd rhoddaf yr holl wledydd hyn i ti ac i'th ddisgynyddion, a chadarnhaf y llw a dyngais wrth dy dad Abraham. 4Amlhaf dy ddisgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoi iddynt yr holl wledydd hyn. Bendithir holl genhedloedd y ddaear trwy dy ddisgynyddion. 5Bydd hyn am i Abraham wrando ar fy llais, a chadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau a'm cyfreithiau.” 6Felly arhosodd Isaac yn Gerar.
7Pan ofynnodd gwŷr y lle ynghylch ei wraig, dywedodd, “Fy chwaer yw hi”, am fod arno ofn dweud, “Fy ngwraig yw hi”, rhag i wŷr y lle ei ladd#26:7 Hebraeg, fy lladd i. o achos Rebeca; oherwydd yr oedd hi'n brydferth. 8Wedi iddo fod yno am ysbaid, edrychodd Abimelech brenin y Philistiaid trwy'r ffenestr a chanfod Isaac yn anwesu ei wraig Rebeca. 9Yna galwodd Abimelech ar Isaac, a dweud, “Y mae'n amlwg mai dy wraig yw hi; pam y dywedaist, ‘Fy chwaer yw hi’?” Dywedodd Isaac wrtho, “Am imi feddwl y byddwn farw o'i hachos hi.” 10Dywedodd Abimelech, “Beth yw hyn yr wyt wedi ei wneud i ni? Hawdd y gallasai un o'r bobl orwedd gyda'th wraig, ac i ti ddwyn euogrwydd arnom.” 11Felly rhybuddiodd Abimelech yr holl bobl a dweud, “Lleddir y sawl a gyffyrdda â'r gŵr hwn neu â'i wraig.”
12Heuodd Isaac yn y tir hwnnw, a medi'r flwyddyn honno ar ei ganfed, a bendithiodd yr ARGLWYDD ef. 13Llwyddodd y gŵr, a chynyddodd nes dod yn gyfoethog iawn. 14Yr oedd yn berchen defaid ac ychen, a llawer o weision, fel bod y Philistiaid yn cenfigennu wrtho. 15Caeodd y Philistiaid yr holl bydewau a gloddiodd y gweision yn nyddiau ei dad Abraham a'u llenwi â phridd, 16a dywedodd Abimelech wrth Isaac, “Dos oddi wrthym, oherwydd aethost yn gryfach o lawer na ni.”
17Felly ymadawodd Isaac oddi yno, a gwersyllodd yn nyffryn Gerar ac aros yno. 18Ac ailgloddiodd Isaac y pydewau dŵr a gloddiwyd yn nyddiau ei dad Abraham, ac a gaewyd gan y Philistiaid ar ôl marw Abraham; a galwodd hwy wrth yr un enwau â'i dad. 19Ond pan gloddiodd gweision Isaac yn y dyffryn, a chael yno ffynnon o ddŵr yn tarddu, 20bu cynnen rhwng bugeiliaid Gerar a bugeiliaid Isaac, a dywedasant, “Ni biau'r dŵr.” Felly enwodd y ffynnon Esec#26:20 H.y., Cynnen., am iddynt godi cynnen ag ef. 21Yna cloddiasant bydew arall, a bu cynnen ynglŷn â hwnnw hefyd; felly enwodd ef Sitna#26:21 H.y., Gelyniaeth.. 22Symudodd oddi yno a chloddio pydew arall, ac ni bu cynnen ynglŷn â hwnnw; felly enwodd ef Rehoboth#26:22 H.y., Lle helaeth., a dweud, “Rhoes yr ARGLWYDD le helaeth i ni, a byddwn ffrwythlon yn y wlad.”
Cytundeb rhwng Abimelech ac Isaac
23Aeth Isaac oddi yno i Beerseba. 24Ac un noson ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo, a dweud, “Myfi yw Duw Abraham dy dad; paid ag ofni, oherwydd yr wyf fi gyda thi. Bendithiaf di ac amlhaf dy ddisgynyddion er mwyn fy ngwas Abraham.” 25Felly adeiladodd yno allor, a galw ar enw'r ARGLWYDD; cododd ei babell yno, a chloddiodd gweision Isaac ffynnon yno. 26Yna daeth Abimelech ato o Gerar, gydag Ahussath ei gynghorwr a Phichol pennaeth ei fyddin. 27Gofynnodd Isaac iddynt, “Pam yr ydych wedi dod ataf, gan i chwi fy nghasáu a'm gyrru oddi wrthych?” 28Atebasant hwythau, “Gwelsom yn eglur fod yr ARGLWYDD gyda thi; am hynny fe ddywedwn, ‘Bydded llw rhyngom’, a gwnawn gyfamod â thi, 29na wnei di ddim drwg i ni, yn union fel na fu i ni gyffwrdd â thi, na gwneud dim ond daioni iti a'th anfon ymaith mewn heddwch. Yn awr, ti yw bendigedig yr ARGLWYDD.” 30Yna, gwnaeth wledd iddynt, a bwytasant ac yfed. 31Yn y bore codasant yn gynnar a thyngu llw i'w gilydd; ac anfonodd Isaac hwy ymaith, ac aethant mewn heddwch. 32Daeth gweision Isaac y diwrnod hwnnw a mynegi iddo am y pydew yr oeddent wedi ei gloddio, a dweud wrtho, “Cawsom ddŵr.” 33Galwodd yntau ef Seba#26:33 H.y., Llw, neu, Saith.; am hynny Beerseba yw enw'r ddinas hyd heddiw.
Gwragedd Esau
34Pan oedd Esau'n ddeugain mlwydd oed, priododd Judith ferch Beeri yr Hethiad, a hefyd Basemath ferch Elon yr Hethiad; 35a buont yn achos gofid i Isaac a Rebeca.

Dewis Presennol:

Genesis 26: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda