Genesis 26:1-5
Genesis 26:1-5 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Roedd newyn yn y wlad (newyn gwahanol i’r newyn ddigwyddodd pan oedd Abraham yn fyw). A dyma Isaac yn mynd at Abimelech, brenin y Philistiaid, yn Gerar. Dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos i Isaac a dweud wrtho, “Paid mynd i lawr i’r Aifft. Dos i’r wlad fydda i’n ei dangos i ti. Aros yn y wlad honno. Bydda i gyda ti ac yn dy fendithio di. Dw i’n mynd i roi’r tiroedd yma i gyd i ti a dy ddisgynyddion. Dw i’n mynd i wneud beth wnes i ei addo i dy dad Abraham. Bydd gen ti gymaint o ddisgynyddion ag sydd o sêr yn yr awyr. Dw i’n mynd i roi’r tiroedd yma i gyd i dy ddisgynyddion di. Drwy dy ddisgynyddion di bydd cenhedloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio. Bydd hyn i gyd yn digwydd am fod Abraham wedi gwneud beth ddwedais i. Roedd yn dilyn y cyfarwyddiadau, ac yn cadw’r gorchmynion, yr arweiniad a’r ddysgeidiaeth rois i iddo.”
Genesis 26:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Bu newyn yn y wlad, heblaw'r newyn a fu gynt yn nyddiau Abraham, ac aeth Isaac i Gerar at Abimelech brenin y Philistiaid. Yr oedd yr ARGLWYDD wedi ymddangos iddo, a dweud, “Paid â mynd i lawr i'r Aifft; aros yn y wlad a ddywedaf fi wrthyt. Ymdeithia yn y wlad hon, a byddaf gyda thi i'th fendithio; oherwydd rhoddaf yr holl wledydd hyn i ti ac i'th ddisgynyddion, a chadarnhaf y llw a dyngais wrth dy dad Abraham. Amlhaf dy ddisgynyddion fel sêr y nefoedd, a rhoi iddynt yr holl wledydd hyn. Bendithir holl genhedloedd y ddaear trwy dy ddisgynyddion. Bydd hyn am i Abraham wrando ar fy llais, a chadw fy ngofynion, fy ngorchmynion, fy neddfau a'm cyfreithiau.”
Genesis 26:1-5 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A bu newyn yn y tir, heblaw y newyn cyntaf a fuasai yn nyddiau Abraham: ac Isaac a aeth at Abimelech brenin y Philistiaid i Gerar. A’r ARGLWYDD a ymddangosasai iddo ef, ac a ddywedasai, Na ddos i waered i’r Aifft: aros yn y wlad a ddywedwyf fi wrthyt. Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyda thi, ac a’th fendithiaf: oherwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di. A mi a amlhaf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di: Am wrando o Abraham ar fy llais i, a chadw fy nghadwraeth, fy ngorchmynion, fy neddfau, a’m cyfreithiau.