Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 21:9-19

Genesis 21:9-19 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Gwelodd Sara y mab gafodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn gwneud hwyl am ben ei mab hi, Isaac A dyma hi’n dweud wrth Abraham, “Dw i eisiau i ti gael gwared â’r gaethferch yna a’i mab. Fydd mab y gaethferch yna ddim yn cael rhan o etifeddiaeth fy mab i Isaac!” Doedd Abraham ddim yn hapus o gwbl am y peth, achos roedd Ishmael hefyd yn fab iddo. Ond dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Paid teimlo’n ddrwg am y bachgen a’i fam. Gwna bopeth mae Sara’n ei ddweud wrthyt. Drwy Isaac y bydd dy linach yn cael ei chadw. Ond bydda i’n gwneud mab y gaethferch yn genedl hefyd, am mai dy blentyn di ydy e.” Dyma Abraham yn codi’n gynnar. Rhoddodd fwyd a photel groen o ddŵr i Hagar i’w gario ar ei chefn. Yna anfonodd hi i ffwrdd gyda’i mab. Aeth i grwydro o gwmpas anialwch Beersheba. Pan oedd dim dŵr ar ôl yn y botel, dyma hi’n gadael y bachgen dan gysgod un o’r llwyni. Wedyn aeth i eistedd ar ei phen ei hun reit bell oddi wrtho (tua ergyd bwa i ffwrdd). “Alla i ddim edrych ar y bachgen yn marw,” meddyliodd. Eisteddodd i lawr gyferbyn ag e, a dechrau crio’n uchel. Ond clywodd Duw lais y bachgen. A dyma angel Duw yn galw ar Hagar o’r nefoedd, a gofyn iddi, “Beth sy’n bod, Hagar? Paid bod ag ofn. Mae Duw wedi clywed llais y bachgen. Tyrd, cod y bachgen ar ei draed a’i ddal yn dynn. Bydda i’n gwneud cenedl fawr ohono.” Yna gwnaeth Duw iddi sylwi fod yna ffynnon yno. Dyma hi’n mynd i lenwi’r botel groen hefo dŵr, a rhoi peth i’r bachgen i’w yfed.

Genesis 21:9-19 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A Sara a welodd fab Agar yr Eifftes, yr hwn a ddygasai hi i Abraham, yn gwatwar. A hi a ddywedodd wrth Abraham, Bwrw allan y gaethforwyn hon a’i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethes hon gydetifeddu â’m mab i Isaac. A’r peth hyn fu ddrwg iawn yng ngolwg Abraham, er mwyn ei fab. A DUW a ddywedodd wrth Abraham, Na fydded drwg yn dy olwg am y llanc, nac am dy gaethforwyn; yr hyn oll a ddywedodd Sara wrthyt, gwrando ar ei llais: oherwydd yn Isaac y gelwir i ti had. Ac am fab y forwyn gaeth hefyd, mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth, oherwydd dy had di ydyw ef. Yna y cododd Abraham yn fore, ac a gymerodd fara, a chostrel o ddwfr, ac a’i rhoddes at Agar, gan osod ar ei hysgwydd hi hynny, a’r bachgen hefyd, ac efe a’i gollyngodd hi ymaith: a hi a aeth, ac a grwydrodd yn anialwch Beer-seba. A darfu’r dwfr yn y gostrel; a hi a fwriodd y bachgen dan un o’r gwŷdd. A hi a aeth, ac a eisteddodd ei hunan ymhell ar ei gyfer, megis ergyd bwa: canys dywedasai, Ni allaf fi edrych ar y bachgen yn marw. Felly hi a eisteddodd ar ei gyfer, ac a ddyrchafodd ei llef, ac a wylodd. A DUW a wrandawodd ar lais y llanc; ac angel DUW a alwodd ar Agar o’r nefoedd, ac a ddywedodd wrthi, Beth a ddarfu i ti, Agar? nac ofna, oherwydd DUW a wrandawodd ar lais y llanc lle y mae efe. Cyfod, cymer y llanc, ac ymafael ynddo â’th law; oblegid myfi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. A DUW a agorodd ei llygaid hi, a hi a ganfu bydew dwfr; a hi a aeth, ac a lanwodd y gostrel o’r dwfr, ac a ddiododd y llanc.