Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 21

21
Geni Isaac
1Ymwelodd yr ARGLWYDD â Sara yn ôl ei air, a gwnaeth iddi fel yr addawodd. 2Beichiogodd Sara a geni mab i Abraham yn ei henaint, ar yr union adeg a ddywedodd Duw wrtho. 3Rhoes Abraham i'r mab a anwyd iddo o Sara yr enw Isaac; 4ac enwaedodd Abraham ei fab Isaac yn wyth diwrnod oed, fel yr oedd Duw wedi gorchymyn iddo. 5Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac. 6A dywedodd Sara, “Parodd Duw imi chwerthin;#21:6 Cymh. nodyn ar 17:19 uchod. fe fydd pawb a glyw am hyn yn chwerthin gyda mi.” 7Dywedodd hefyd, “Pwy fuasai wedi dweud wrth Abraham y rhoddai Sara sugn i blant? Eto mi enais fab iddo yn ei henaint.”
8Tyfodd y bachgen, a diddyfnwyd ef; ac ar ddiwrnod diddyfnu Isaac, gwnaeth Abraham wledd fawr. 9Ond gwelodd Sara y mab a ddygodd Hagar yr Eifftes i Abraham yn chwarae gyda'i mab Isaac#21:9 Felly Groeg a Lladin. Hebraeg heb gyda'i mab Isaac.. 10A dywedodd wrth Abraham, “Gyrr allan y gaethferch hon a'i mab; oherwydd ni chaiff mab y gaethferch hon gydetifeddu â'm mab i, Isaac.” 11Yr oedd hyn yn atgas iawn gan Abraham o achos ei fab; 12ond dywedodd Duw wrth Abraham, “Paid â phoeni am y llanc a'th gaethferch; gwna bopeth a ddywed Sara wrthyt, oherwydd trwy Isaac y cedwir dy linach. 13Gwnaf fab y gaethferch hefyd yn genedl, am ei fod yn blentyn i ti.” 14Yna cododd Abraham yn fore, a chymerodd fara a chostrel o ddŵr a'u rhoi i Hagar, a'u gosod hwy a'r bachgen ar ei hysgwydd, a'i hanfon ymaith. Aeth hithau i grwydro yn niffeithwch Beerseba. 15Pan oedd y dŵr yn y gostrel wedi darfod, gosododd y bachgen i lawr dan un o'r llwyni, 16ac aeth i eistedd bellter ergyd bwa oddi wrtho, gan ddweud, “Ni allaf edrych ar y bachgen yn marw.” Fel yr oedd yn eistedd bellter oddi wrtho, cododd y bachgen ei lais#21:16 Felly Groeg. Hebraeg, cododd hi ei llais. ac wylo. 17Clywodd Duw lais y plentyn, a galwodd angel Duw o'r nef ar Hagar a dweud wrthi, “Beth sy'n dy boeni, Hagar? Paid ag ofni, oherwydd y mae Duw wedi clywed llais y plentyn o'r lle y mae. 18Cod, cymer y plentyn a gafael amdano, oherwydd gwnaf ef yn genedl fawr.” 19Yna agorodd Duw ei llygaid, a gwelodd bydew dŵr; aeth hithau i lenwi'r gostrel â dŵr a rhoi diod i'r plentyn. 20Bu Duw gyda'r plentyn, a thyfodd; bu'n byw yn y diffeithwch, a daeth yn saethwr bwa. 21Yr oedd yn byw yn niffeithwch Paran, a chymerodd ei fam wraig iddo o wlad yr Aifft.
Cytundeb rhwng Abraham ac Abimelech
22Yr amser hwnnw, dywedodd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin wrth Abraham, “Y mae Duw gyda thi ym mhopeth yr wyt yn ei wneud; 23yn awr, dos ar dy lw yn enw Duw i mi yma, na fyddi'n anffyddlon i mi, nac i'm plant, nac i'm hwyrion; ond fel yr wyf fi wedi bod yn deyrngar i ti, bydd dithau i minnau ac i'r wlad yr wyt wedi ymdeithio ynddi.” 24A dywedodd Abraham, “Mi af ar fy llw.”
25Pan geryddodd Abraham Abimelech am y pydew dŵr yr oedd gweision Abimelech wedi ei gymryd trwy drais, 26dywedodd Abimelech, “Ni wn i ddim pwy a wnaeth hyn; ni ddywedaist wrthyf, ac ni chlywais i sôn am y peth cyn heddiw.” 27Yna cymerodd Abraham ddefaid ac ychen, a'u rhoi i Abimelech, a gwnaethant ill dau gyfamod. 28Gosododd Abraham o'r neilltu saith hesbin o'r praidd. 29A gofynnodd Abimelech i Abraham, “Beth yw'r saith hesbin hyn yr wyt wedi eu gosod o'r neilltu?” 30Dywedodd yntau, “Wrth gymryd y saith hesbin gennyf, byddi'n cydnabod mai myfi a gloddiodd y pydew hwn.” 31Am hynny galwyd y lle hwnnw Beerseba#21:31 H.y., Ffynnon y saith, neu, Ffynnon y llw., oherwydd yno yr aeth y ddau ar eu llw. 32Wedi iddynt wneud cyfamod yn Beerseba, cododd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin, a dychwelyd i wlad y Philistiaid. 33Plannodd Abraham goeden tamarisg yn Beerseba, a galwodd yno ar enw'r ARGLWYDD, y Duw tragwyddol. 34A bu Abraham yn aros am amser hir yng ngwlad y Philistiaid.

Dewis Presennol:

Genesis 21: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda