Genesis 21:22-31
Genesis 21:22-31 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Tua’r adeg honno, dyma Abimelech, a dyn o’r enw Pichol, pennaeth ei fyddin, yn cyfarfod ag Abraham. “Mae’n gwbl amlwg fod Duw gyda ti bob amser,” meddai Abimelech. “Dw i am i ti addo i mi o flaen Duw na fyddi di’n troi yn fy erbyn i a’m plant a’m pobl. Dw i wedi bod yn garedig atat ti, felly bydd di’n garedig ata i a phobl y wlad yma lle rwyt ti wedi setlo i fyw.” “Dw i’n addo,” meddai Abraham. Ond yna dyma fe’n cwyno am y ffynnon roedd gweision Abimelech wedi’i dwyn oddi arno. “Dw i ddim yn gwybod pwy sydd wedi gwneud hyn,” meddai Abimelech. “Beth bynnag, wnest ti ddim dweud wrtho i. Dyma’r cyntaf i mi glywed am y peth.” Wedyn dyma Abraham yn rhoi defaid ac ychen i Abimelech a dyma’r ddau yn gwneud cytundeb. Ond roedd Abraham wedi rhoi saith oen banw ar un ochr. A gofynnodd Abimelech iddo, “Beth ydy’r saith oen banw yma rwyt ti wedi’u gosod ar wahân?” “Dw i eisiau i ti gymryd y saith oen banw yma gen i fel tystiolaeth mai fi sydd wedi cloddio’r ffynnon yma,” meddai Abraham. Dyna pam y galwodd y lle yn Beersheba, am fod y ddau ohonyn nhw wedi mynd ar eu llw yno.
Genesis 21:22-31 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yr amser hwnnw, dywedodd Abimelech a Phichol pennaeth ei fyddin wrth Abraham, “Y mae Duw gyda thi ym mhopeth yr wyt yn ei wneud; yn awr, dos ar dy lw yn enw Duw i mi yma, na fyddi'n anffyddlon i mi, nac i'm plant, nac i'm hwyrion; ond fel yr wyf fi wedi bod yn deyrngar i ti, bydd dithau i minnau ac i'r wlad yr wyt wedi ymdeithio ynddi.” A dywedodd Abraham, “Mi af ar fy llw.” Pan geryddodd Abraham Abimelech am y pydew dŵr yr oedd gweision Abimelech wedi ei gymryd trwy drais, dywedodd Abimelech, “Ni wn i ddim pwy a wnaeth hyn; ni ddywedaist wrthyf, ac ni chlywais i sôn am y peth cyn heddiw.” Yna cymerodd Abraham ddefaid ac ychen, a'u rhoi i Abimelech, a gwnaethant ill dau gyfamod. Gosododd Abraham o'r neilltu saith hesbin o'r praidd. A gofynnodd Abimelech i Abraham, “Beth yw'r saith hesbin hyn yr wyt wedi eu gosod o'r neilltu?” Dywedodd yntau, “Wrth gymryd y saith hesbin gennyf, byddi'n cydnabod mai myfi a gloddiodd y pydew hwn.” Am hynny galwyd y lle hwnnw Beerseba, oherwydd yno yr aeth y ddau ar eu llw.
Genesis 21:22-31 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Ac yn yr amser hwnnw, Abimelech, a Phichol tywysog ei lu ef, a ymddiddanasant ag Abraham, gan ddywedyd, DUW sydd gyda thi yn yr hyn oll yr ydwyt yn ei wneuthur. Yn awr gan hynny, twng wrthyf fi yma i DDUW, na fyddi anffyddlon i mi, nac i’m mab, nac i’m hŵyr: yn ôl y drugaredd a wneuthum â thi y gwnei di â minnau, ac â’r wlad yr ymdeithiaist ynddi. Ac Abraham a ddywedodd, Mi a dyngaf. Ac Abraham a geryddodd Abimelech, o achos y pydew dwfr a ddygasai gweision Abimelech trwy drais. Ac Abimelech a ddywedodd, Nis gwybûm i pwy a wnaeth y peth hyn: tithau hefyd ni fynegaist i mi, a minnau ni chlywais hynny hyd heddiw. Yna y cymerodd Abraham ddefaid a gwartheg, ac a’u rhoddes i Abimelech; a hwy a wnaethant gynghrair ill dau. Ac Abraham a osododd saith o hesbinod o’r praidd wrthynt eu hunain. Yna y dywedodd Abimelech wrth Abraham, Beth a wna y saith hesbin hyn a osodaist wrthynt eu hunain? Ac yntau a ddywedodd, Canys ti a gymeri y saith hesbin o’m llaw, i fod yn dystiolaeth mai myfi a gloddiais y pydew hwn. Am hynny efe a alwodd enw y lle hwnnw Beer-seba: oblegid yno y tyngasant ill dau.