Genesis 21:1-6
Genesis 21:1-6 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Gwnaeth yr ARGLWYDD yn union fel roedd wedi’i addo i Sara. Dyma hi’n beichiogi, ac yn cael mab i Abraham pan oedd e’n hen ddyn, ar yr union adeg roedd Duw wedi’i ddweud. Galwodd Abraham y mab gafodd Sara yn Isaac. Pan oedd yn fabi wythnos oed dyma Abraham yn enwaedu ei fab Isaac, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. (Roedd Abraham yn gan mlwydd oed pan gafodd Isaac ei eni.) A dyma Sara’n dweud, “Mae Duw wedi gwneud i mi chwerthin yn llawen, a bydd pawb sy’n clywed am y peth yn chwerthin gyda mi.”
Genesis 21:1-6 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ymwelodd â Sara fel y dywedasai, a gwnaeth yr ARGLWYDD i Sara fel y llefarasai. Oherwydd Sara a feichiogodd, ac a ymddûg i Abraham fab yn ei henaint, ar yr amser nodedig y dywedasai DUW wrtho ef. Ac Abraham a alwodd enw ei fab a anesid iddo (yr hwn a ymddygasai Sara iddo ef) Isaac. Ac Abraham a enwaedodd ar Isaac ei fab, yn wyth niwrnod oed; fel y gorchmynasai DUW iddo ef. Ac Abraham oedd fab can mlwydd, pan anwyd iddo ef Isaac ei fab. A Sara a ddywedodd, Gwnaeth DUW i mi chwerthin; pob un a glywo a chwardd gyda mi.
Genesis 21:1-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Ymwelodd yr ARGLWYDD â Sara yn ôl ei air, a gwnaeth iddi fel yr addawodd. Beichiogodd Sara a geni mab i Abraham yn ei henaint, ar yr union adeg a ddywedodd Duw wrtho. Rhoes Abraham i'r mab a anwyd iddo o Sara yr enw Isaac; ac enwaedodd Abraham ei fab Isaac yn wyth diwrnod oed, fel yr oedd Duw wedi gorchymyn iddo. Yr oedd Abraham yn gant oed pan anwyd iddo ei fab Isaac. A dywedodd Sara, “Parodd Duw imi chwerthin; fe fydd pawb a glyw am hyn yn chwerthin gyda mi.”