Genesis 2:7-17
Genesis 2:7-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna lluniodd yr ARGLWYDD Dduw ddyn o lwch y tir, ac anadlodd yn ei ffroenau anadl einioes; a daeth y dyn yn greadur byw. A phlannodd yr ARGLWYDD Dduw ardd yn Eden, tua'r dwyrain; a gosododd yno y dyn yr oedd wedi ei lunio. A gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i bob coeden ddymunol i'r golwg, a da i fwyta ohoni, dyfu o'r tir; ac yr oedd pren y bywyd yng nghanol yr ardd, a phren gwybodaeth da a drwg. Yr oedd afon yn llifo allan o Eden i ddyfrhau'r ardd, ac oddi yno yr oedd yn ymrannu'n bedair. Enw'r afon gyntaf yw Pison; hon sy'n amgylchu holl wlad Hafila, lle y ceir aur; y mae aur y wlad honno'n dda, ac yno ceir bdeliwm a'r maen onyx. Enw'r ail yw Gihon; hon sy'n amgylchu holl wlad Ethiopia. Ac enw'r drydedd yw Tigris; hon sy'n llifo o'r tu dwyrain i Asyria. A'r bedwaredd afon yw Ewffrates. Cymerodd yr ARGLWYDD Dduw y dyn a'i osod yng ngardd Eden, i'w thrin a'i chadw. Rhoddodd yr ARGLWYDD Dduw orchymyn i'r dyn, a dweud, “Cei fwyta'n rhydd o bob coeden yn yr ardd, ond ni chei fwyta o bren gwybodaeth da a drwg, oherwydd y dydd y bwytei ohono ef, byddi'n sicr o farw.”
Genesis 2:7-17 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o’r pridd. Wedyn chwythodd i’w ffroenau yr anadl sy’n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. Yna dyma’r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua’r dwyrain, yn Eden, a rhoi’r dyn roedd wedi’i siapio yno. Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o’r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i’w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy’n rhoi bywyd a’r goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio’r ardd. Wedyn roedd yn rhannu’n bedair cangen. Pison ydy enw un. Mae hi’n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur – aur pur iawn, ac mae perlau ac onics yno hefyd. Gihon ydy enw’r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. Tigris ydy enw’r drydedd afon. Mae hi’n llifo i’r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw’r bedwaredd afon. Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a’i osod yn yr ardd yn Eden, i’w thrin hi a gofalu amdani. A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.”
Genesis 2:7-17 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD DDUW a luniasai y dyn o bridd y ddaear, ac a anadlasai yn ei ffroenau ef anadl einioes: a’r dyn a aeth yn enaid byw. Hefyd yr ARGLWYDD DDUW a blannodd ardd yn Eden, o du’r dwyrain, ac a osododd yno y dyn a luniasai efe. A gwnaeth yr ARGLWYDD DDUW i bob pren dymunol i’r golwg, a daionus yn fwyd, ac i bren y bywyd yng nghanol yr ardd, ac i bren gwybodaeth da a drwg, dyfu allan o’r ddaear. Ac afon a aeth allan o Eden, i ddyfrhau yr ardd, ac oddi yno hi a rannwyd, ac a aeth yn bedwar pen. Enw y gyntaf yw Pison: hon sydd yn amgylchu holl wlad Hafila, lle y mae yr aur: Ac aur y wlad honno sydd dda: yno mae bdeliwm a’r maen onics. Ac enw yr ail afon yw Gihon: honno sydd yn amgylchu holl wlad Ethiopia. Ac enw y drydedd afon yw Hidecel: honno sydd yn myned o du’r dwyrain i Asyria: a’r bedwaredd afon yw Ewffrates. A’r ARGLWYDD DDUW a gymerodd y dyn, ac a’i gosododd ef yng ngardd Eden, i’w llafurio ac i’w chadw hi. A’r ARGLWYDD DDUW a orchmynnodd i’r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o’r ardd gan fwyta y gelli fwyta: Ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta ohono; oblegid yn y dydd y bwytei di ohono, gan farw y byddi farw.