Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn siapio dyn o’r pridd. Wedyn chwythodd i’w ffroenau yr anadl sy’n rhoi bywyd, a daeth y dyn yn berson byw. Yna dyma’r ARGLWYDD Dduw yn plannu gardd tua’r dwyrain, yn Eden, a rhoi’r dyn roedd wedi’i siapio yno. Wedyn gwnaeth yr ARGLWYDD Dduw i goed o bob math dyfu o’r tir – coed hardd gyda ffrwythau arnyn nhw oedd yn dda i’w bwyta. Yng nghanol yr ardd roedd y goeden sy’n rhoi bywyd a’r goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Roedd afon yn tarddu yn Eden ac yn dyfrio’r ardd. Wedyn roedd yn rhannu’n bedair cangen. Pison ydy enw un. Mae hi’n llifo o gwmpas gwlad Hafila, lle mae aur – aur pur iawn, ac mae perlau ac onics yno hefyd. Gihon ydy enw’r ail afon. Mae hi yn llifo o gwmpas gwlad Cwsh. Tigris ydy enw’r drydedd afon. Mae hi’n llifo i’r dwyrain o ddinas Ashŵr. Ac Ewffrates ydy enw’r bedwaredd afon. Dyma’r ARGLWYDD Dduw yn cymryd y dyn a’i osod yn yr ardd yn Eden, i’w thrin hi a gofalu amdani. A dyma fe’n rhoi gorchymyn i’r dyn: “Cei fwyta ffrwyth unrhyw goeden yn yr ardd, ond paid bwyta ffrwyth y goeden sy’n rhoi gwybodaeth am bopeth – da a drwg. Pan wnei di hynny byddi’n siŵr o farw.”
Darllen Genesis 2
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 2:7-17
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos