Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 17:1-27

Genesis 17:1-27 beibl.net 2015, 2024 (BNET)

Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau. Bydda i’n gwneud ymrwymiad rhyngon ni’n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” Plygodd Abram â’i wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho, “Dyma’r ymrwymiad dw i’n ei wneud i ti: byddi di’n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol. A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol. Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. Bydda i’n cadarnhau fy ymrwymiad i ti ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i’n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di. A dw i’n mynd i roi’r wlad lle rwyt ti’n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.” Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad – ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau. Dyma mae’n rhaid i chi ei wneud: Rhaid i bob gwryw fynd drwy ddefod enwaediad. Byddwch yn torri’r blaengroen fel arwydd o’r ymrwymiad rhyngon ni. I lawr y cenedlaethau bydd rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae’n wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy’n perthyn i’r teulu, a’ch caethweision a’u plant. Bydd rhaid i’r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a’u plant nhw, fynd drwy ddefod enwaediad hefyd. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i’w weld ar y corff am byth. Bydd unrhyw wryw sydd heb fynd drwy ddefod enwaediad yn cael ei dorri allan o’r gymuned, am ei fod heb gadw gofynion yr ymrwymiad.” Wedyn dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “I droi at Sarai, dy wraig. Ti ddim i’w galw hi’n Sarai o hyn ymlaen, ond Sara. Dw i’n mynd i’w bendithio hi, a rhoi mab i ti ohoni hi. Dw i’n mynd i’w bendithio hi, a bydd hi yn fam i lawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd gwahanol bobloedd yn dod ohoni.” Aeth Abraham ar ei wyneb ar lawr eto, ond yna chwerthin iddo’i hun, a meddwl, “Sut all dyn sy’n gant oed gael plentyn? Ydy Sara, sy’n naw deg oed, yn gallu cael babi?” Yna dyma Abraham yn dweud wrth Dduw, “Pam wnei di ddim gadael i Ishmael dderbyn y bendithion yna?” “Na,” meddai Duw, “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i’w alw yn Isaac. Bydda i’n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi’i wneud – ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i’w ddisgynyddion ar ei ôl. Ond dw i wedi clywed beth ti’n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i’n ei fendithio ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i’n ei wneud yn genedl fawr. Ond gydag Isaac y bydda i’n cadarnhau’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma’r flwyddyn nesa.” Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham. Felly’r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a’i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a’r rhai roedd wedi’u prynu) – pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho. Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu, ac Ishmael yn 13 pan gafodd e ei enwaedu. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu henwaedu yr un diwrnod. A chafodd pob un o’r dynion a’r bechgyn eraill oedd gydag e eu henwaedu hefyd (y gweision oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a’r rhai roedd wedi’u prynu).

Genesis 17:1-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)

Pan oedd Abram yn naw deg a naw mlwydd oed ymddangosodd yr ARGLWYDD iddo a dweud wrtho, “Myfi yw Duw Hollalluog; rhodia ger fy mron a bydd berffaith. Gwnaf fy nghyfamod â thi, ac amlhaf di'n ddirfawr.” Syrthiodd Abram ar ei wyneb, a llefarodd Duw wrtho a dweud, “Dyma fy nghyfamod i â thi: byddi'n dad i lu o genhedloedd, ac ni'th enwir di mwyach yn Abram, ond yn Abraham, gan imi dy wneud yn dad i lu o genhedloedd. Gwnaf di'n ffrwythlon iawn; a gwnaf genhedloedd ohonot, a daw brenhinoedd allan ohonot. Sefydlaf fy nghyfamod yn gyfamod tragwyddol â thi, ac â'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau, i fod yn Dduw i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl. A rhoddaf y wlad yr wyt yn crwydro ynddi, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol i ti ac i'th ddisgynyddion ar dy ôl, a byddaf yn Dduw iddynt.” Dywedodd Duw wrth Abraham, “Cadw di fy nghyfamod, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl dros eu cenedlaethau. Dyma fy nghyfamod rhyngof fi a chwi, yr ydych i'w gadw, ti a'th ddisgynyddion ar dy ôl: y mae pob gwryw ohonoch i'w enwaedu. Enwaedir chwi yng nghnawd eich blaengrwyn, a bydd yn arwydd cyfamod rhyngom. Dros eich cenedlaethau, fe enwaedir pob gwryw ohonoch sydd yn wyth diwrnod oed, boed wedi ei eni i'r teulu, neu'n ddieithryn heb fod yn un o'th ddisgynyddion, ond a brynwyd ag arian. Rhaid enwaedu'r sawl a enir i'r teulu, a'r sawl a brynir â'th arian; a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd yn gyfamod tragwyddol. Y mae unrhyw wryw dienwaededig nad enwaedwyd cnawd ei flaengroen, i'w dorri ymaith o blith ei bobl; y mae wedi torri fy nghyfamod.” Dywedodd Duw wrth Abraham, “Ynglŷn â'th wraig Sarai: nid Sarai y gelwir hi, ond Sara fydd ei henw. Bendithiaf hi, a rhoddaf i ti fab ohoni; ie, bendithiaf hi, a bydd yn fam i genhedloedd, a daw brenhinoedd pobloedd ohoni.” Ymgrymodd Abraham, ond chwarddodd ynddo'i hun, a dweud, “A enir plentyn i ŵr canmlwydd oed? A fydd Sara'n geni plentyn yn naw deg oed?” A dywedodd Abraham wrth Dduw, “O na byddai Ismael fyw ger dy fron!” Ond dywedodd Duw, “Na, bydd dy wraig Sara yn geni iti fab, a gelwi ef Isaac. Sefydlaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol i'w ddisgynyddion ar ei ôl. Ynglŷn ag Ismael: yr wyf wedi gwrando arnat, a bendithiaf yntau a'i wneud yn ffrwythlon a'i amlhau'n ddirfawr; bydd yn dad i ddeuddeg tywysog, a gwnaf ef yn genedl fawr. Ond byddaf yn sefydlu fy nghyfamod ag Isaac, y mab y bydd Sara yn ei eni iti erbyn yr amser yma'r flwyddyn nesaf.” Wedi iddo orffen llefaru, aeth Duw oddi wrth Abraham. Yna cymerodd Abraham ei fab Ismael, a phawb a anwyd yn ei dŷ neu a brynwyd â'i arian, pob gwryw o deulu Abraham, ac enwaedodd gnawd eu blaengrwyn y diwrnod hwnnw, fel yr oedd Duw wedi dweud wrtho. Yr oedd Abraham yn naw deg a naw mlwydd oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen, a'i fab Ismael yn dair ar ddeg oed pan enwaedwyd cnawd ei flaengroen yntau. Y diwrnod hwnnw enwaedwyd Abraham a'i fab Ismael; ac enwaedwyd gydag ef holl ddynion ei dŷ, y rhai a anwyd i'r teulu a phob dieithryn a brynwyd ag arian.

Genesis 17:1-27 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)

A phan oedd Abram onid un mlwydd cant, yr ymddangosodd yr ARGLWYDD i Abram, ac a ddywedodd wrtho, Myfi yw DUW Hollalluog; rhodia ger fy mron i, a bydd berffaith. A mi a wnaf fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th amlhaf di yn aml iawn. Yna y syrthiodd Abram ar ei wyneb; a llefarodd DUW wrtho ef, gan ddywedyd, Myfi, wele, mi a wnaf fy nghyfamod â thi, a thi a fyddi yn dad llawer o genhedloedd. A’th enw ni elwir mwy Abram, onid dy enw fydd Abraham; canys yn dad llawer o genhedloedd y’th wneuthum. A mi a’th wnaf yn ffrwythlon iawn, ac a wnaf genhedloedd ohonot ti, a brenhinoedd a ddaw allan ohonot ti. Cadarnhaf hefyd fy nghyfamod rhyngof a thi, ac a’th had ar dy ôl di, trwy eu hoesoedd, yn gyfamod tragwyddol, i fod yn DDUW i ti, ac i’th had ar dy ôl di. A mi a roddaf i ti, ac i’th had ar dy ôl di, wlad dy ymdaith, sef holl wlad Canaan, yn etifeddiaeth dragwyddol; a mi a fyddaf yn DDUW iddynt. A DUW a ddywedodd wrth Abraham, Cadw dithau fy nghyfamod i, ti a’th had ar dy ôl, trwy eu hoesoedd. Dyma fy nghyfamod a gedwch rhyngof fi a chwi, a’th had ar dy ôl di: enwaedir pob gwryw ohonoch chwi. A chwi a enwaedwch gnawd eich dienwaediad: a bydd yn arwydd cyfamod rhyngof fi a chwithau. Pob gwryw yn wyth niwrnod oed a enwaedir i chwi trwy eich cenedlaethau: yr hwn a aner yn tŷ, ac a bryner am arian gan neb dieithr, yr hwn nid yw o’th had di. Gan enwaedu enwaeder yr hwn a aner yn dy dŷ di, ac a bryner am dy arian di: a bydd fy nghyfamod yn eich cnawd chwi, yn gyfamod tragwyddol. A’r gwryw dienwaededig, yr hwn nid enwaeder cnawd ei ddienwaediad, torrir ymaith yr enaid hwnnw o fysg ei bobl: oblegid efe a dorrodd fy nghyfamod i. DUW hefyd a ddywedodd wrth Abraham, Sarai dy wraig ni elwi ei henw Sarai, onid Sara fydd ei henw hi. Bendithiaf hi hefyd, a rhoddaf i ti fab ohoni: ie bendithiaf hi, fel y byddo yn genhedloedd; brenhinoedd pobloedd fydd ohoni hi. Ac Abraham a syrthiodd ar ei wyneb, ac a chwarddodd, ac a ddywedodd yn ei galon, A blentir i fab can mlwydd? ac a blanta Sara yn ferch ddeng mlwydd a phedwar ugain? Ac Abraham a ddywedodd wrth DDUW, O na byddai fyw Ismael ger dy fron di! A DUW a ddywedodd, Sara dy wraig a ymddŵg i ti fab yn ddiau; a thi a elwi ei enw ef Isaac: a mi a gadarnhaf fy nghyfamod ag ef yn gyfamod tragwyddol, ac â’i had ar ei ôl ef. Am Ismael hefyd y’th wrandewais: wele, mi a’i bendithiais ef, a mi a’i ffrwythlonaf ef, ac a’i lluosogaf yn aml iawn: deuddeg tywysog a genhedla efe, a mi a’i gwnaf ef yn genhedlaeth fawr. Eithr fy nghyfamod a gadarnhaf ag Isaac, yr hwn a ymddŵg Sara i ti y pryd hwn, y flwyddyn nesaf. Yna y peidiodd â llefaru wrtho; a DUW a aeth i fyny oddi wrth Abraham. Ac Abraham a gymerodd Ismael ei fab, a’r rhai oll a anesid yn ei dŷ ef, a’r rhai oll a brynasai efe â’i arian, pob gwryw o ddynion tŷ Abraham, ac efe a enwaedodd gnawd eu dienwaediad hwynt o fewn corff y dydd hwnnw, fel y llefarasai DUW wrtho ef. Ac Abraham oedd fab onid un mlwydd cant, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. Ac Ismael ei fab ef yn fab tair blwydd ar ddeg, pan enwaedwyd cnawd ei ddienwaediad ef. O fewn corff y dydd hwnnw yr enwaedwyd Abraham, ac Ismael ei fab. A holl ddynion ei dŷ ef, y rhai a anesid yn tŷ, ac a brynesid ag arian gan neb dieithr, a enwaedwyd gydag ef.