Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau. Bydda i’n gwneud ymrwymiad rhyngon ni’n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.” Plygodd Abram â’i wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho, “Dyma’r ymrwymiad dw i’n ei wneud i ti: byddi di’n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol. A dw i am newid dy enw di o Abram i Abraham, am fy mod i wedi dy wneud di yn dad llawer o bobloedd gwahanol. Bydd gen ti filiynau o ddisgynyddion. Bydd cenhedloedd cyfan yn dod ohonot ti, a bydd rhai o dy ddisgynyddion di yn frenhinoedd. Bydda i’n cadarnhau fy ymrwymiad i ti ac i dy ddisgynyddion ar dy ôl di. Bydd yr ymrwymiad yn para am byth, ar hyd y cenedlaethau. Dw i’n addo bod yn Dduw i ti ac i dy ddisgynyddion di. A dw i’n mynd i roi’r wlad lle rwyt ti’n crwydro, gwlad Canaan, i ti a dy ddisgynyddion am byth. Fi fydd eu Duw nhw.”
Yna dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “Rhaid i ti gadw gofynion yr ymrwymiad – ti, a dy ddisgynyddion ar dy ôl di, ar hyd y cenedlaethau. Dyma mae’n rhaid i chi ei wneud: Rhaid i bob gwryw fynd drwy ddefod enwaediad. Byddwch yn torri’r blaengroen fel arwydd o’r ymrwymiad rhyngon ni. I lawr y cenedlaethau bydd rhaid i bob bachgen gael ei enwaedu pan mae’n wythnos oed. Mae hyn i gynnwys y bechgyn sy’n perthyn i’r teulu, a’ch caethweision a’u plant. Bydd rhaid i’r caethweision gafodd eu prynu gynnoch chi, a’u plant nhw, fynd drwy ddefod enwaediad hefyd. Bydd arwydd yr ymrwymiad rhyngon ni i’w weld ar y corff am byth. Bydd unrhyw wryw sydd heb fynd drwy ddefod enwaediad yn cael ei dorri allan o’r gymuned, am ei fod heb gadw gofynion yr ymrwymiad.”
Wedyn dyma Duw yn dweud wrth Abraham, “I droi at Sarai, dy wraig. Ti ddim i’w galw hi’n Sarai o hyn ymlaen, ond Sara. Dw i’n mynd i’w bendithio hi, a rhoi mab i ti ohoni hi. Dw i’n mynd i’w bendithio hi, a bydd hi yn fam i lawer o genhedloedd. Bydd brenhinoedd gwahanol bobloedd yn dod ohoni.” Aeth Abraham ar ei wyneb ar lawr eto, ond yna chwerthin iddo’i hun, a meddwl, “Sut all dyn sy’n gant oed gael plentyn? Ydy Sara, sy’n naw deg oed, yn gallu cael babi?” Yna dyma Abraham yn dweud wrth Dduw, “Pam wnei di ddim gadael i Ishmael dderbyn y bendithion yna?” “Na,” meddai Duw, “mae dy wraig Sara yn mynd i gael mab i ti. Rwyt i’w alw yn Isaac. Bydda i’n cadarnhau iddo fe yr ymrwymiad dw i wedi’i wneud – ei fod yn ymrwymiad fydd yn para am byth, ac i’w ddisgynyddion ar ei ôl. Ond dw i wedi clywed beth ti’n ei ofyn am Ishmael hefyd. Bydda i’n ei fendithio ac yn rhoi lot fawr o ddisgynyddion iddo. Bydd yn dad i un deg dau o benaethiaid llwythau, a bydda i’n ei wneud yn genedl fawr. Ond gydag Isaac y bydda i’n cadarnhau’r ymrwymiad dw i wedi’i wneud. Bydd yn cael ei eni i Sara yr adeg yma’r flwyddyn nesa.” Ar ôl dweud hyn i gyd, dyma Duw yn gadael Abraham.
Felly’r diwrnod hwnnw dyma Abraham yn enwaedu ei fab Ishmael, a’i weision i gyd (y rhai oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a’r rhai roedd wedi’u prynu) – pob un gwryw, yn union fel roedd Duw wedi dweud wrtho.
Roedd Abraham yn 99 mlwydd oed pan gafodd ei enwaedu, ac Ishmael yn 13 pan gafodd e ei enwaedu. Cafodd y ddau ohonyn nhw eu henwaedu yr un diwrnod. A chafodd pob un o’r dynion a’r bechgyn eraill oedd gydag e eu henwaedu hefyd (y gweision oedd gydag e ers iddyn nhw gael eu geni a’r rhai roedd wedi’u prynu).