Genesis 14:11-16
Genesis 14:11-16 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Dyma’r byddinoedd oedd yn fuddugol yn cymryd eiddo Sodom a Gomorra, a’r bwyd oedd yno, cyn mynd i ffwrdd. Wrth adael, dyma nhw’n cymryd Lot, nai Abram, a’i eiddo fe i gyd hefyd, gan fod Lot yn byw yn Sodom. Ond dyma un oedd wedi llwyddo i ddianc yn mynd i ddweud wrth Abram yr Hebread beth oedd wedi digwydd. (Roedd Abram yn byw wrth goed derw Mamre yr Amoriad, ac roedd Mamre a’i frodyr, Eshcol ac Aner, wedi ffurfio cynghrair gydag Abram.) Felly pan glywodd Abram fod ei nai wedi cael ei gymryd yn gaeth, casglodd ei filwyr, sef 318 o ddynion oedd wedi’u geni gyda’r clan. Aeth ar ôl y gelyn mor bell â Dan yn y gogledd. Yn ystod y nos dyma Abram yn rhannu ei fyddin ac yn ymosod ar y gelyn. Aeth ar eu holau mor bell â Choba, sydd i’r gogledd o Damascus. Cafodd bopeth roedden nhw wedi’i ddwyn yn ôl. Daeth â’i nai Lot a’i eiddo yn ôl hefyd, a’r gwragedd a gweddill y bobl oedd wedi cael eu dal.
Genesis 14:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cipiodd y pedwar holl eiddo Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth, a mynd ymaith. Cymerasant hefyd Lot, mab i frawd Abram, a oedd yn byw yn Sodom, a'i eiddo, ac aethant ymaith. A daeth un oedd wedi dianc, a dweud am hyn wrth Abram yr Hebread, a oedd yn byw wrth dderw Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner, rhai oedd mewn cynghrair ag Abram. Pan glywodd Abram am gaethgludo'i frawd, casglodd ei wŷr arfog oedd yn perthyn i'w dŷ, tri chant a deunaw ohonynt, ac ymlidiodd hyd Dan. Aeth ef a'i weision yn finteioedd yn eu herbyn liw nos, a'u taro a'u hymlid hyd Hoba, i'r gogledd o Ddamascus. A daeth â'r holl eiddo yn ôl, a dwyn yn ôl hefyd ei frawd Lot a'i eiddo, a'r gwragedd a'r bobl.
Genesis 14:11-16 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A hwy a gymerasant holl gyfoeth Sodom a Gomorra, a’u holl luniaeth hwynt, ac a aethant ymaith. Cymerasant hefyd Lot nai fab brawd Abram, a’i gyfoeth, ac a aethant ymaith; oherwydd yn Sodom yr ydoedd efe yn trigo. A daeth un a ddianghasai, ac a fynegodd i Abram yr Hebread, ac efe yn trigo yng ngwastadedd Mamre yr Amoriad, brawd Escol, a brawd Aner; a’r rhai hyn oedd mewn cynghrair ag Abram. A phan glybu Abram gaethgludo ei frawd, efe a arfogodd o’i hyfforddus weision a anesid yn ei dŷ ef, ddeunaw a thri chant, ac a ymlidiodd hyd Dan. As efe a ymrannodd yn eu herbyn hwy liw nos, efe a’i weision, ac a’u trawodd hwynt, ac a’u hymlidiodd hyd Hoba, yr hon sydd o’r tu aswy i Damascus. Ac efe a ddug drachefn yr holl gyfoeth, a’i frawd Lot hefyd, a’i gyfoeth, a ddug efe drachefn, a’r gwragedd hefyd, a’r bobl.