Logo YouVersion
Eicon Chwilio

Genesis 14

14
Abram yn Arbed Lot
1Yn nyddiau Amraffel brenin Sinar, Arioch brenin Elasar, Cedorlaomer brenin Elam, a Tidal brenin Goim, 2rhyfelodd y rhain yn erbyn Bera brenin Sodom, Birsa brenin Gomorra, Sinab brenin Adma, Semeber brenin Seboim, a brenin Bela, sef Soar. 3Cyfarfu'r rhain i gyd yn nyffryn Sidim, sef y Môr Heli. 4Am ddeuddeng mlynedd y buont yn gwasanaethu Cedorlaomer, nes iddynt wrthryfela yn y drydedd flwyddyn ar ddeg. 5Ac yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg daeth Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef a tharo'r Reffaimiaid yn Asteroth-carnaim, y Susiaid yn Ham, yr Emiaid yn Safe-ciriathaim, 6yr Horiaid ym mynydd-dir Seir, hyd El-paran ar fin y diffeithwch. 7Yna troesant a dod i En-mispat, sef Cades, a tharo holl dir yr Amaleciaid, a hefyd yr Amoriaid, a oedd yn trigo yn Hasason-Tamar. 8Yna aeth brenin Sodom, brenin Gomorra, brenin Adma, brenin Seboim a brenin Bela, sef Soar, i ryfela yn nyffryn Sidim yn erbyn 9Cedorlaomer brenin Elam, Tidal brenin Goim, Amraffel brenin Sinar ac Arioch brenin Elasar, pedwar brenin yn erbyn pump. 10Yr oedd dyffryn Sidim yn llawn o byllau pyg; ac wrth i frenhinoedd Sodom a Gomorra ffoi, syrthiasant i mewn iddynt, ond ffodd y lleill i'r mynydd. 11Yna cipiodd y pedwar holl eiddo Sodom a Gomorra, a'u holl luniaeth, a mynd ymaith. 12Cymerasant hefyd Lot, mab i frawd Abram, a oedd yn byw yn Sodom, a'i eiddo, ac aethant ymaith.
13A daeth un oedd wedi dianc, a dweud am hyn wrth Abram yr Hebread, a oedd yn byw wrth dderw Mamre yr Amoriad, brawd Escol ac Aner, rhai oedd mewn cynghrair ag Abram. 14Pan glywodd Abram am gaethgludo'i frawd, casglodd#14:14 Cymh. Groeg. Hebraeg, tywalltodd allan. ei wŷr arfog oedd yn perthyn i'w dŷ, tri chant a deunaw ohonynt, ac ymlidiodd hyd Dan. 15Aeth ef a'i weision yn finteioedd yn eu herbyn liw nos, a'u taro a'u hymlid hyd Hoba, i'r gogledd o Ddamascus. 16A daeth â'r holl eiddo yn ôl, a dwyn yn ôl hefyd ei frawd Lot a'i eiddo, a'r gwragedd a'r bobl.
Melchisedec yn Bendithio Abram
17Wedi i Abram ddychwelyd o daro Cedorlaomer a'r brenhinoedd oedd gydag ef, aeth brenin Sodom allan i'w gyfarfod i ddyffryn Safe, sef Dyffryn y Brenin. 18A daeth Melchisedec brenin Salem â bara a gwin iddo; yr oedd ef yn offeiriad i'r Duw Goruchaf, 19a bendithiodd ef a dweud:
“Bendigedig fyddo Abram gan y Duw Goruchaf,
perchen nef a daear;
20a bendigedig fyddo'r Duw Goruchaf,
a roes dy elynion yn dy law.”
A rhoddodd Abram iddo ddegwm o'r cwbl.
21Dywedodd brenin Sodom wrth Abram, “Rho'r bobl i mi, a chymer di'r eiddo.” 22Ond dywedodd Abram wrth frenin Sodom, “Tyngais i'r ARGLWYDD Dduw Goruchaf, perchen nef a daear, 23na chymerwn nac edau na charrai esgid, na dim oll sy'n eiddo i ti, rhag i ti ddweud, ‘Yr wyf wedi cyfoethogi Abram.’ 24Ni chymeraf ond yr hyn a fwytaodd y llanciau, a chyfran y gwŷr a ddaeth gyda mi, sef Aner, Escol a Mamre; cânt hwy gymryd eu cyfran.”

Dewis Presennol:

Genesis 14: BCND

Uwcholeuo

Rhanna

Copi

None

Eisiau i'th uchafbwyntiau gael eu cadw ar draws dy holl ddyfeisiau? Cofrestra neu mewngofnoda