Genesis 12:1-2
Genesis 12:1-2 beibl.net 2015, 2023 (BNET)
Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i’n ei ddangos i ti. Bydda i’n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi’n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill.
Genesis 12:1-2 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Dywedodd yr ARGLWYDD wrth Abram, “Dos o'th wlad, ac oddi wrth dy dylwyth a'th deulu, i'r wlad a ddangosaf i ti. Gwnaf di yn genedl fawr a bendithiaf di; mawrygaf dy enw a byddi'n fendith.
Genesis 12:1-2 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
A’r ARGLWYDD a ddywedodd wrth Abram, Dos allan o’th wlad, ac oddi wrth dy genedl, ac o dŷ dy dad, i’r wlad a ddangoswyf i ti. A mi a’th wnaf yn genhedlaeth fawr, ac a’th fendithiaf, mawrygaf hefyd dy enw; a thi a fyddi yn fendith.