Genesis 11:29-32
Genesis 11:29-32 beibl.net 2015, 2024 (BNET)
Priododd y ddau frawd arall. Sarai oedd enw gwraig Abram, a Milca oedd enw gwraig Nachor (Roedd hi’n un o ferched Haran, ac enw ei chwaer oedd Isca). Roedd Sarai yn methu cael plant. Dyma Tera yn gadael Ur yn Babilonia gyda’r bwriad o symud i wlad Canaan. Aeth ag Abram ei fab gydag e, Sarai ei ferch-yng-nghyfraith a hefyd Lot ei ŵyr (sef mab Haran). Ond ar ôl cyrraedd Haran dyma nhw’n setlo yno. Yn Haran y buodd Tera farw, yn 205 oed.
Genesis 11:29-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004 (BCND)
Yna cymerodd Abram a Nachor wragedd iddynt eu hunain; enw gwraig Abram oedd Sarai, ac enw gwraig Nachor oedd Milca, merch Haran, tad Milca ac Isca. Yr oedd Sarai yn ddi-blant, heb eni plentyn. Cymerodd Tera ei fab Abram, a'i ŵyr Lot fab Haran, a Sarai ei ferch-yng-nghyfraith, gwraig ei fab Abram; ac aethant allan gyda'i gilydd o Ur y Caldeaid i fynd i wlad Canaan, a daethant i Haran a thrigo yno. Dau gant a phump o flynyddoedd oedd oes Tera; a bu farw Tera yn Haran.
Genesis 11:29-32 Beibl William Morgan - Argraffiad 1955 (BWM)
Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca. A Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi. A Thera a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno. A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.