Yna y cymerodd Abram a Nachor iddynt wragedd: enw gwraig Abram oedd Sarai; ac enw gwraig Nachor, Milca, merch Haran, tad Milca, a thad Isca. A Sarai oedd amhlantadwy, heb blentyn iddi. A Thera a gymerodd Abram ei fab, a Lot fab Haran, mab ei fab, a Sarai ei waudd, gwraig Abram ei fab; a hwy a aethant allan ynghyd o Ur y Caldeaid, i fyned i dir Canaan; ac a ddaethant hyd yn Haran, ac a drigasant yno. A dyddiau Tera oedd bum mlynedd a dau can mlynedd: a bu farw Tera yn Haran.
Darllen Genesis 11
Gwranda ar Genesis 11
Rhanna
Cymharu Pob Fersiwn: Genesis 11:29-32
Cadwa, darllena all-lein, gwylia glipiau dysgu, a mwy!
Gartref
Beibl
Cynlluniau
Fideos